Dyma araith y cyflwynodd Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod, i Senedd Undod yn rhoi ei fewnbwn fel heddychwr am y rhyfel yn Wcrain. Cyhoeddwyd gyntaf ar wefan Cymdeithas y Cymod ar 9fed o Fawrth 2022. Diolch am ganiatâd i’w chyhoeddi ar flog Undod.
Noswaith dda, dwi’n meddwl yn gyntaf mae’n rhaid i mi nodi na fyddwn yn hollol siwr sut fyddwn i yn ymateb pe bawn yn heddychwr yn yr Wcrain a Rwsia ar y funud. Mae eu safiad nhw’n hynod o ddewr; rhywbeth rydym ond yn gallu dychmygu dygymod ag o. Mae’n amlwg bod y sefyllfa yn Wcrain yn un hynod o bryderus ac ar adegau yn annelwig felly nid yw fy safbwynt yn dod fel arbenigwr gwleidyddol ond hytrach fel unigolyn sydd yn sefyll dros heddychiaeth a’r llwybr di-drais.
Mae’r broses o gael heddwch a chymodi ynddo ei hun yn un llawer anoddach i’w weithredu na thrais, ac yn debygol o fod y rheswm pam fod cymaint o ryfeloedd wedi digwydd yn y gorffennol. Mae’r weithred o drais yn haws, boed hynny yn fewnol fel person, neu yn wleidyddol. Ond nid oes modd trechu unrhyw anghydfod gyda thrais – mae’n rhaid cael bobl i wrando ar ei gilydd os ydym am weld unrhyw ganlyniad parhaol.
O ran safbwynt Cymdeithas y Cymod yn gyffredinol, rydym yn grediniol taw cymodi yw’r unig ateb i unrhyw anghydfod. Rydym yn condemnio pob math o rhyfel, ac mae’r hyn sy’n digwydd yn Wcrain yn ein gofidio. Cwestiwn o bosib ar gyfer rhywbryd arall yw sut mae ein naratif gorllewinol yn golygu ein bod yn talu mwy o sylw i’r rhyfel yma o’i gymharu â’r rhyfeloedd yn Yemen a Somalia, lle mae arfau y Deyrnas Unedig yn cael eu defnyddio. Mae’n rhaid cofio fod pob rhyfel yn ddrwg ac nid oes byth ochr dda i drais.
Wrth edrych yn ôl ar hanes rwyf yn grediniol bod rhyfel wastad yn gorffen gyda thrafodaeth, boed hynny o amgylch bwrdd o wleidyddion neu dribiwnlys, a hynny beth bynnag yw canlyniad y rhyfel ei hun. Felly yn y bôn mae rhyfel yn wastraff amser ac o fywydau pobl.
Yma yng Nghymru ei hun rwyf yn poeni am y naratif a’r eirfa dreisgar sy’n cael ei ddefnyddio gan y cyfryngau a gwleidyddion o bob plaid. Nid wyf yn credu ei fod gwella’r sefyllfa ond hytrach yn creu tensiynau a chasineb ac yn profi bod imperialaeth yn bodoli a’r ddwy ochr y “frwydr”. Dylem fel cenedl sydd â hanes hir o heddychiaeth gondemnio’r trais nid ei gefnogi.
Er hyn mae’n rhaid canmol Llywodraeth Cymru am ei pharodrwydd i groesawu ffoaduriaid o’r Wcrain, sy’n cael ei arwain gan fwriad a pholisi’r Llywodraeth o greu Genedl Noddfa. Gobeithio y daw newid ym mholisi Llywodraeth San Steffan i’n galluogi ni i ymgartrefu’r ffoaduriaid.
Er hyn gellir dadlau ei bod yn eironig fod y Llywodraeth am greu cenedl noddfa ond dal yn cefnogi a buddsoddi yn y diwydiant arfau sydd yn y bôn yn ffynhonnell sy’n creu ffoaduriaid trwy eu gwthio allan o’u cartrefi. Mae’r diwydiant arfau yn chwarae rôl fawr yng nghynlluniau economaidd Cymru a’r Deyrnas Unedig a dylai hyn roi cydwybod anesmwyth i chi. Byddai’n fwy berthnasol pe bai Llywodraeth Cymru yn creu Cenedl Heddwch.
Mae rhyfel yma cael ei yrru gan y trachwant am bŵer gwleidyddol. Mi fydd dyheadau ffantasi Putin yn arwain at hyd yn oed mwy o drais a dylwn gymryd ei fygythiadau o ddefnydd o arfau niwclear o ddifri. Nid hwn yw’n golygu bod NATO ac arweinwyr y gorllewin yn dda i gyd. Pe na bai NATO ddim yn bodoli, mae’n debyg na fyddai y sefyllfa mor drychinebus ag yw hi.
Nid yw NATO chwaith gyda rhyw lawer o bŵer i ymateb i’r fath fygythiad gan Putin. Mae grym NATO bellach yn ddibwys oherwydd bod y deterrents a’r arfau rydym wedi helpu datblygu mor beryglus, fel nad yw’r bobl mwyaf gwallgof yn fodlon eu defnyddio. Meddyliwch, gyda’r holl arfau sydd o dan reolaeth NATO nid ydym yn medru gwneud dim i atal Putin. Nid yw’r deterrent bellach yn gweithio. Ac felly sut yn union mae NATO yn ein hamddiffyn? Ydy mae’r gorllewin wedi profocio Putin ond nid yw’n golygu fod yr unben yn ddyn da o bell ffordd.
Dwi’n meddwl bod angen rhoi mwy o gapasiti i’r UN i sicrhau mwy o lais heddwch a mynd nôl at wreiddiau gwreiddiol y mudiad.
O ran y sefyllfa yn Wcrain ar hyn y bryd, mae lluniau yn dangos bod pethau yn newid yn ddyddiol a thaw pobl gyffredin sy’n dioddef fwyaf, fel ym mhob rhyfel. Dwi’n llawn edmygedd o nifer o drigolion y wlad sy’n sefyll i fyny ar sawl achlysur yn ddiarfog yn erbyn pŵer treisgar Rwsia. Gwelwyd sawl achos o filwyr Rwsia yn cael eu croesawu gan gymunedau gyda diod a bwyd. Mae’n dangos bod cariad wastad yn medru trechu unrhyw casineb.
A beth am bobl cyffredin Rwsia? Mae 13,000 o bobl wedi cael eu harestio hyd yn hyn tra’n gwrthdystio yn erbyn y rhyfel ac mae eu safiad dros heddwch yn anhygoel. Dyma neges dderbyniais gan Friends House Moscow, sefydliad a gymerodd rhan yn ein digwyddiad ar lein ‘Heddwch yn Wcrain’ wythnos diwethaf:
“No to War,” write great and small. Since the massive demonstrations on Thursday, Russians have continued to protest the invasion of Ukraine. Demonstrations have been held daily; arrests have been made daily. On Saturday, almost 1000 were arrested, on Sunday, 2000. Demonstrators have developed new tactics. In St. Petersburg, they gathered on Nevsky Prospect without signs, in a silent, slow-moving crowd. There is also the art of the “тихий пикет” or “soft-spoken picket,” now trending on Twitter. Demonstrators wear blue and yellow clothing or make-up, carry a sunflower, accessorize purses, backpacks and face masks.
Dyma sut i wrthdystio yn effeithlon yn erbyn gwladwriaeth sy’n barod i gosbi pobl ei hun.
Mae’r sancsiynau mae gwledydd Ewrop yn eu gosod yn bwysig er mwyn pwyso ar Putin, ond mae angen ystyried a ydynt yn gweithio ac yn fwy penodol ar bwy y maent yn cael effaith. Mae prisiau nwyddau arferol yn Rwsia wedi codi’n aruthrol gyda unigolyn o’n digwyddiad nos Iau diwethaf yn nodi bod y sancsiynau wedi creu Wal Berlin newydd i bobl gyffredin y wlad.
O weld beth sy’n digwydd ar hyn o bryd mae’n debygol y bydd y terfysg yn Wcrain yn datblygu yn debycach i ryfel guerrilla ond mae’n rhaid dal i edrych ar yr holl beth mewn goleuni positif a gobeithio y daw cadoediad a heddwch.
Fe allwn ni helpu i gefnogi’r pobl yma sy’n cael ei effeithio gan ryfel trwy bwyso ar y llywodraeth i ddechrau dderbyn mwy o ffoaduriaid. Mae Moldova wedi derbyn nifer sy’n cyfateb i 10% o’i phoblogaeth yn barod. Ond hefyd mae angen parhau i rannu’r neges dros gymodi. Boed hynny gyda’ch cymdogion, gwleidyddion neu ar y cyfryngau. Mae’n rhaid canolbwyntio ar be sy’n gyffredin rhyngom a chadw ffydd mewn dynoliaeth.