Cyflwyniad
“Nid yw gweithwyr y sector cyhoeddus ar streic oherwydd eu bod am dorri’r system. Maen nhw ar streic oherwydd bod y system wedi torri.”
– Mick Lynch, arweinydd RMT, Aberdâr, 21-01-2023
Ambell dro, mae dweud dim a gwneud dim yn dangos pwy ydych chi. Yn dangos ar ba ochr ydych chi. Yn dangos os ydych chi yn deall beth yw argyfwng neu nad ydych chi ddim. ‘Rydym yn byw mewn cyfnod felly ar hyn o bryd. Dyna pam mae’n rhaid i ni gefnogi y gweithwyr hynny sydd ar streic. Achos yn y pendraw, mae dyfodol pob un ohonom ni yn dibynnu ar beth fydd canlyniad y frwydr dyngedfennol hon. Ydyn ni am i’n pobl fyw heb fod tlodi, oerni, newyn a diweithdra neu waith di-urddas yn fygythiadau cyson? Ydyn ni am barhau i ddioddef dan ormes cyfalafiaeth sy’n eiddo i’r ychydig? Ydyn ni am weld ildio ein hawliau sylfaenol i streicio a phrotestio?
Mae’r streiciau presennol yn llawer mwy arwyddocaol na dim ond ceisio mwy o gyflog i weithwyr penodol. Mae nhw i gyd yn brwydro er budd i’r gymdeithas ehangach, ac yn amddiffyn y gwasanaethau mae’r cyhoedd yn eu trysori. Mae nhw’n gri sy’n atsain o’r ysbytai a’r ysgolion a’r rheilffyrdd a’r faniau post a’r colegau sy’n cyhoeddi yn hollol eglur: “Digon yw digon”. Mae’r streicwyr yn gwybod yn iawn fod un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi yng Nghymru, fod defnydd o fanciau bwyd ar gynnydd aruthrol, a fod tlodi tanwydd yn rhemp. Hyn i gyd yn dilyn dros ddegawd o lymder, gyda mwy i ddod. Mae’r streicwyr yn gwybod nad yw cyflogau ddim yn cadw i fyny efo chwyddiant, yn enwedig yn y sector gyhoeddus – ‘doedd hyn ddim yn wir pan welwyd chwyddiant o’r fath yn 80’au’r 20fed ganrif.
Ydyn ni am golli hyd yn oed y rhyddid rhannol sydd gennym? Dyna yw oblygiadau deddfwriaeth gwrth-streicio y Torïaid. Neu ydym ni am weithredu yn ôl traddodiadau arwrol y gweithwyr a fu?
Cefndir hanesyddol
Cymru welodd y Faner Goch gyntaf ym Merthyr yn 1831, a dienyddio anghyfiawn Dic Penderyn – lladdwyd hyd at 24 o bobl yn ystod yr ymladd yn ogystal. “Caws a bara” ac “I lawr a’r Brenin” oedd rhai o sloganau y gwrthryfel.
Yn 1839 Cymru oedd y lle y gwelwyd y Siartwyr yn ymladd dros hawliau, a lle y lladdwyd tua 20 o bobl gan yr awdurdodau yng Nghasnewydd.
Cymru welodd y streic hiraf erioed, ac un o’r chwerwaf, pan gododd chwarelwyr Bethesda yn erbyn amodau gwaith creulon Arglwydd Penrhyn, perchennog stad oedd wedi elwa yn anferthol o gaethwasiaeth yn Jamaica. Byddai’r streicwyr yn arddangos posteri yn ffenestri eu tai efo’r geiriau “Nid oes bradwr yn y tŷ hwn”. Parhaodd y streic o 1900 hyd at 1903, a bu’n rhaid i lawer symud i’r Cymoedd i weithio yn y diwydiant glo.
Y maes glo, wrth gwrs, fu crud cadernid y gweithwyr, a lle y gwelwyd anghydfod parhaus rhwng y meistri glo a’r werin oedd yn colli eu hiechyd a weithiau eu bywydau yn y pyllau. Yn 1910 anfonodd Churchill y fyddin i Donypandy i roi terfyn ar ymdrechion y glowyr i sefyll yn erbyn y meistri. Mae enw Churchill yn dal yn ysgymun yn yr ardal. Yn nes at ein hamser ni, daeth streic fawr y glowyr yn 1984, a roddodd y cyfle i Thatcher i orchfygu ei phrif elynion – sef y glowyr – a newid cwrs gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol i gyfeiriad hunaniaeth, preifateiddio, a gwasgu ar hawliau. Crewyd anialwch ôl-ddiwydiannol yng Nghymoedd y De. Etifeddion Thatcher yw llywodraeth bresennol San Steffan, a pharhad o’i rhyfel ideolegol hi yw’r hyn a welwn y dyddiau hyn.
Streicwyr heddiw
Pwy sy mewn anghydfod diwydiannol heddiw? Gweithwyr Ambiwlans, Nyrsus, Bydwragedd, Ffisiotherapyddion, Post Brenhinol, Athrawon, Rheilffyrdd, Gweision Sifil, Academyddion, Bysiau. Mae’n bosib y bydd eraill megis gweithwyr tân a meddygon iau yn streicio hefyd.
Nid peth i’w wneud yn ddifeddwl yw streicio. Daeth pobl i ben eu tennyn. Efallai mai’r cyflogau sy heb symud rhyw lawer ers deng mlynedd, a felly yn tynnu mwy a mwy o bobl sy’n gweithio llawn amser i bydew tlodi gan fod chwyddiant yn rhemp, sy wedi eu sbarduno i streicio ar yr olwg gyntaf. Ond mae llawer iawn mwy iddi na hyn. Dro ar ôl tro dros y blynyddoedd diwethaf, clywsom am amodau gwaith annioddefol efo targedau yn cael eu dyrchafu uwchlaw gwasanaeth. Mewn gwahanol alwedigaethau, gwelwyd gweithwyr yn dioddef o afiechyd meddyliol a chorfforol, nes fod pobl yn diffygio yn llwyr ac yn gorfod gadael eu gwaith. Mae hyn yn wir am lawer maes heblaw meysydd y rhai sy’n streicio.
Nid am amddiffyn cyflogau yn unig mae’r frwydr yn erbyn y cyflogwyr. Mae pob un o’r streiciau hyn yn ymladd newidiadau sylfaenol i hawliau gwaith, megis gwyliau a salwch, a’r telerau gwaeth a gynigir i staff newydd.
Ar yr un pryd gwelwn fod elw corfforaethol a thaliadau i uchel swyddogion a chyfarwyddwyr cwmnïau yn codi a chodi i lefelau anhygoel.
Gwasanaeth iechyd
Hwre! ‘Roedd y gweithwyr yma yn arwyr yn ystod Cofid! Haeddu cael eu clapio yn y stryd! Ond dydi clapio ddim yn prynu torth na chynhesu’r tŷ. Dydi o ddim yn cuddio cam-reoli’r Gwasanaeth Iechyd sy wedi arwain ddibyn methiant. Ac yn sicr dydi o ddim wedi gwneud dim oll i’n darbwyllo nad preifateiddio’r Gwasanaeth yw nôd y Llywodraeth yn San Steffan.
Felly mae’r Llywodraeth yn ceisio rhoi bai am fethiannau’r Gwasanaeth ar y gweithwyr arwrol ac ymroddedig sy’n gwneud eu gorau glas i’n hymgeleddu. Mae’r Llywodraeth am basio deddfwriaeth gwrth-streicio er mwyn cadw “isafswm o lefel gwasanaeth”. Wrth gwrs dydyn nhw ddim yn cyrraedd y lefel isaf o wasanaeth pan nad oes yna streicio – ‘roedd y gwasanaeth ar ei liniau ers talwm. Felly bwch dihangol yw’r bai a roddir ar y nyrsus a’r gweithiwyr ambiwlans.
Gallai deddf newydd llym y Llywodraeth olygu fod nyrsus yn cael eu diswyddo. Fedrwn ni ddim derbyn hynny – yn enwedig o gofio y sgandalau am gyfeillion y Llywodraeth yn cael cytundebau gwerth miliynau adeg Cofid, ac yn darparu offer o safon annerbyniol, a heb neb yn cael eu galw i gyfrif.
Ydyn ni eisiau i’r Gwasanaeth Iechyd gael ei breifateiddio?
Yng nghyd-destun Cymru, dywed ein Llywodraeth ni eu bod yn ddiolchgar i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd, ond na fedran nhw ddim talu mwy i’r gweithwyr heb i lywodraeth Llundain roi cymorth ariannol. Bernwch chi os ydyw hynny’n rheswm digonol. Gyda llaw, mae hyn hefyd yn greiddiol i’r croes-ddweud sy’n nodweddiadol o Lafur Cymru – ar y naill law, credu yn yr Undeb â Lloegr; ond ar y llaw arall cwyno pan nad oes yna ddim digon arian na sylw digonol yn cael eu rhoi i Gymru. Ac yn ddiymwad, mae’r Gwasanaeth Iechyd yn brif gonglfaen Llafur, ac eto fedran nhw ddim ei amddiffyn yn effeithiol.
Post Brenhinol
Mae’r gwasanaeth yn 500 mlynedd o oed. Ers ei breifateiddio flynyddoedd yn ôl, mae wedi bod dan warchae. “Cystadleuaeth” yw un o eiriau sanctaidd cyfalafiaeth – a felly mae cystadleuaeth y farchnad rydd yn golygu fod llu o gwmnïau yn danfon parseli i ni. Ymddengys fod gyrwyr faniau’r cwmnïau hyn yn dioddef amodau gwaith difrifol, efo targedau bron yn amhosib i’w cyflawni. Diau fod hyn yn galluogi gwasanaeth rhatach, ond ar ba gost? Nid yn unig mewn termau dynol (ymosod ar amodau gwaith a chyflogau gweithwyr y Post Brenhinol, a manteisio ar weithwyr gan y cwmnïau eraill), ond hefyd cost amgylcheddol – lle yr arferai un cerbyd ddod a nwyddau atom, erbyn hyn gall fod sawl un mewn diwrnod.
Athrawon a Chymorthyddion
Dyma weithwyr a gafodd amser anodd iawn yn ystod Cofid, gan gario cyfrifoldebau oedd bron yn amhosib ar brydiau. Cyfunwch hyn efo cynnydd yn eu baich gwaith, diffyg cefnogaeth ac adnoddau, problemau disgyblaeth, trefn ormesol o arolygu, yr ofn o golli eich swydd pan wneir cwyn amdanoch, a ‘does ryfedd fod pethau wedi mynd i’r pen. Gwyddom fod llawer yn gadael y proffesiwn am y rhesymau hyn.
Ydan ni wir eisiau cymdeithas lle mae ein plant yn cael eu dysgu gan athrawon ac athrawesau sy wedi ymlâdd, yn edrych ymlaen at ymddeol neu yn dyheu am adael dysgu am yrfa wahanol?
Rheilffyrdd
Daeth Mick Lynch, arweinydd yr RMT, yn amlwg yn y cyfnod helbulus hwn. Arweiniodd ei undeb, ac i bob pwrpas y mudiad llafur yn absenoldeb llywaeth Starmer, arweinydd y Blaid Lafur ôl sosialaidd (er fod yna nifer o sosialwyr da ymysg ei rhengoedd) a gondemniodd un o’i gabinet cysgodol ei hun am feiddio mynd ar linell biced. Yn sicr mae Mick Lynch yn arbennig o effeithiol yn sefyll dros ei weithwyr ei hun, ac yn ogystal yn egluro y darlun ehangach. Peidiwch a synnu os y gwelwn ymosodiadau dibaid arno gan y Llywodraeth a bytheiaid y cyfryngau. Mae’n werth darllen erthygl am ei ymweliad ag Aberdâr yn Voice Wales, a gwylio fideo o’i araith yno.
Mae’r Llywodraeth wedi dangos yn glir ar ba ochr y mae nhw, drwy sicrhau nad ydi y cwmnïau sy’n rhedeg y rheilffyrdd wedi colli yr un ddimai goch ers i’r anghydfod ddechrau – a mae wedi costio mwy i’r wlad nag a fuasai setlo’r anghydfod. Brwydr ideolegol yw hon.
Fel yn achos gweithwyr eraill, amddiffyn defnyddwyr y gwasanaeth a’u diogelwch yw un o’r prif resymau dros streicio.
Ydan ni eisiau gwasanaeth rheilffordd israddol gyda’r perygl cynyddol o ddamweiniau?
Academyddion
Newidiodd byd y colegau y tu hwnt i bob dirnadaeth mewn cenhedlaeth. Lle gynt ‘roedd myfyrwyr, heddiw mae yna “gwsmeriaid” sydd eisiau “gwerth am arian” am eu ffioedd. Trowyd sefydliadau dysg yn ffatrïoedd creu elw drwy ehangu niferoedd y myfyrwyr y tu hwnt i allu y farchnad waith i’w cyflogi yn eu priod feysydd. Newidiwyd darlithwyr ac ymchwilwyr i fod yn beiriannau i geisio plesio gweinyddwyr, ac is-raddwyd cytundebau gwaith i fod yn rhai ansicr a byr-dymor, yn ogystal â newid pensiynau er gwaeth. Clywsom am rai darlithwyr yn cysgu ar loriau llyfrgelloedd, hyd yn oed.
Ydan ni am barhau i amharchu dysg?
Gormes Llywodraeth San Steffan
Gwasgu hawliau i streicio a dychryn y gweithwyr yw pwrpas y Ddeddf sydd yn mynd drwy’r broses seneddol ar hyn o bryd. Yr enw swyddogol yw “Minimum Service Level Bill”, ond yn answyddogol fe’i gelwir yn “Bil Gwrth-Streicio”. Yn ôl y Llywodraeth, mae nhw am sicrhau lefel sylfaenol o wasanaeth yn y sector gyhoeddus, drwy orfodi pobl i weithio hyd yn oed os yw’r undeb wedi ennill pleidlais i streicio. Os y bydd pobl yn streicio yn groes i’r ddeddf, yna gallant wynebu colli eu swydd.
Bygythiad hollol afresymol yw hyn, ac yn dangos diffyg amgyffred llwyr o bethau fel y mae nhw. Achos dyma yw’r gwirionedd – nid oes yna lefel sylfaenol o wasanaeth yn y Gwasanaeth Iechyd pan nad oes yna streic o fath yn y byd. Mae helbulon y gwasanaeth ambiwlans, prinder staff nyrsus a meddygon, rhestrau aros, a diffyg gofal yn y gymdeithas oll yn tystio mai’r Llywodraeth sy’n euog. Ac yng Nghymru, mae ein Llywodraeth yn ddibynnol ar San Steffan am adnoddau.
Ymgais sinigaidd sydd yma i bortreadu gwir arwyr a gweithwyr hanfodol ein cymdeithas fel pobl hunanol a diegwyddor. Y gwir yw mai am fod y Gwasanaeth Iechyd ar ei liniau mae’r streicwyr yn gweithredu er mwyn ei amddiffyn, yn ogystal ag er eu lles eu hunain.
Gallwn ddweud yr un peth yn union am y gweithwyr sector cyhoeddus eraill sydd ar streic.
Erfyn brwnt yn llaw y cyfoethog fydd y ddeddf hon. Y bwriad yw cadw’r gweithiwr yn ei le, sef yn ufudd, yn dawel, yn ddigwyno. Bydd y peiriant cyhoeddusrwydd yn ceisio rhannu’r streicwyr, yn ceisio troi y cyhoedd yn erbyn y streicwyr, ac yn paratoi’r ffordd at hyd yn oed mwy o breifateiddio a llacio rheolau diogelwch yn ogystal â dychwelyd y gweithiwr i ansicrwydd, tlodi ac afiechyd.
Cyplyswch y ddeddf hon efo’r “Police, Crime, Sentencing and Courts Act” neu y Ddeddf Plismona fel y’i gelwir, a mae yna ymgais wirioneddol i ymosod ar ein hawliau democrataidd mwyaf sylfaenol. Dydi hi ddim yn amhosib dychmygu amgylchiadau lle y byddai’r ddwy ddeddf yn cael eu gweithredu ar yr un pryd.
Ai Streic Gyffredinol yw’r unig ffordd i gael y Llywodraeth wrthnysig hon i wrando?
Cefnogaeth
Mae modd i ni ddangos ein cefnogaeth mewn sawl ffordd.
- Ymuno ag Undeb yn eich gweithle.
- Mynd ar linell biced.
- Holi pobl fel eich postmon neu nyrs, neu unrhyw un arall sydd ar streic sut y gallwch helpu.
- Cymryd rhan mewn protest leol.
- Ymuno â phrotest fawr os trefnir un.
- Sgwennu at eich Aelod Seneddol ac Aelod Senedd Cymru (ella fod hynny yn gofyn gormod!).
- Cefnogi y streicwyr ar Chwefror 1af pan mae sawl undeb yn cydweithio i streicio ar yr un diwrnod.
- Dal i gefnogi drwy gydol y cyfnod streiciau.
Casgliad
Cwestiynau sylfaenol am natur gwaith, rhannu y wobr am ein llafur, a pherthynas rhwng cyflogwr a gweithiwr sy’n gyrru y streiciau hyn. Cyfalafiaeth ddidostur sydd y tu ôl i’r cyfan, ac agenda ideolegol sy’n cael ei yrru gan Lywodraeth sydd yn nwylo carfan fechan o eithafwyr adain dde.
Felly rhaid gofyn y cwestiwn – ai Streic Gyffredinol yw’r ffordd i orfodi Llywodraeth San Steffan i wrando? Bydd ymarferoldeb gweithredu torfol o’r fath yn dibynnu ar allu ac awydd yr holl undebau i gydweithio. Yn sicr byddai’n gam mawr i’w gymryd. Ond tybed beth yw’r dewis arall? Gwylio’r cyflogwyr a’r llywodraeth yn rhannu’r mudiad llafur. Y streicwyr yn ildio fesul tipyn, fesul undeb, fel bod anghydfod unigol yn cael ei wahanu oddi wrth y lleill, gan sigo nerth yr ymdrech gyfan? Os digwydd hynny, nid y streicwyr yn unig fydd yn colli, ond pob haen o gymdeithas heblaw y cyfoethog.
Mae yna gymaint o wersi i’w dysgu drwy edrych ar y sefyllfa fel y mae hi ac edrych ar hanes twf ffasgaeth yn y gorffennol, fel ei bod yn frawychus. Dyna pam na fedrwn ni fod yn dawel, a pheidio a dweud na gwneud dim.
Os y trefnir Streic Gyffredinol yna hoffwn feddwl y bydd aelodau Undod yn cefnogi ym mha ffordd bynnag sy’n ymarferol iddyn nhw. Ni all aelodau mudiad sy’n ymgyrchu dros ddyfodol radical i’n gwlad osgoi dangos eu hochr. Mae’r argyfwng hwn mor ddifrifol fel na allwn disgwyl ennill heb ymladd i’r eithaf.
Mae’r wlad wedi blino. Mae’r bobl wedi diflasu. Mae tlodi a chyni yn rhemp. Dechreuwn, rŵan hyn, i adfer urddas, i godi ysbryd, i frwydro dros degwch a chyfiawnder, a gorchfygu lluoedd trachwant a gormes.
Mae cyfiawnder o blaid y gweithwyr! Trech Gwlad nac Arglwydd!