Yfory, bydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd yn ystyried cais i ddymchwel y Paddle Steamer, sefydliad hanesyddol yn Butetown, ar gyfer tai cymdeithasol. Mae ymgyrchwyr wedi gwneud cais syml i ymgysylltu â nhw i ddod o hyd i ffordd o gadw lle i’r caffi ar y safle fel rhan o’r datblygiad.
Rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor Huw Thomas i dynnu’r cais o’r agenda nes y mae ymgynghori priodol wedi bod â’r gymuned. Gallwch anfon e-bost ato gan ddefnyddio llythyr drafft yma. Isod mae’r llythyr a anfonwyd gan aelodau’r gymuned at y South Wales Echo.
Annwyl Olygydd

Mae’r Paddle Steamer wedi bod yn sefydliad eiconig yn sgwâr Loudoun ers cenedlaethau. Mae bellach am gael ei ddymchwel, ond mae gan arweinydd y cyngor Huw Thomas y grym i achub y man cyfarfod neilltuol hwn ar gyfer rhai o gymunedau du, hanesyddol Caerdydd.

Rydym yn croesawu cynlluniau ar gyfer tai cyngor ar y safle, mewn cyfnod lle mae cynghorau ledled Cymru wedi methu’n druenus â gartrefu pobl ar restrau aros, sydd yn tyfu’n barhaus. Ond mewn ardal sy’n cael ei hamddifadu’n gyson o’r adnoddau y mae rhannau eraill o’r ddinas yn cymryd yn ganiataol, ni chafwyd unrhyw gydnabyddiaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i adeiladu’r unedau yma heb unrhyw le i fusnes fel y Paddle Steamer.
Gyda hanes hir a lliwgar, mae’r Paddle wedi bod yn fan cyfarfod pwysig yn fwyaf diweddar i gymunedau Somali ac Yemeni hirsefydledig Caerdydd. Mae’n gweini bwydydd halal a diwylliannol briodol mewn amgylchedd di-alcohol. Mae arweinwyr cymunedol a chyfreithwyr yn defnyddio’r caffi’n rheolaidd i gwrdd â phreswylwyr bregus i’w cefnogi gyda’u hanghenion cymhleth, o gyngor budd-daliadau’r wladwriaeth i ganllawiau mewnfudo a lloches.
Bydd cai’r caffi hefyd yn lle priodol i bobl ifanc gyfarfod â ffrindiau a chwarae pwl, ac yn anochel yn eu gorfodi i dreulio mwy o amser sbar ar y strydoedd. Heb y caffi, bydd llawer o bobl oedrannus sy’n byw gerllaw yn colli bwyd poeth rheolaidd a’r cyfle i gymdeithasu a chwrdd â phobl eraill. Mae’r caffi hefyd wedi cefnogi cymorth elusennol ac wedi cyflenwi bwyd am ddim yn ystod Ramadan.
Mae trigolion lleol yn gofyn i’r Cyngor ychwanegu lle ar gyfer y caffi at ei gynlluniau ailddatblygu. Cyflwynwyd y cais hwn yn ystod y cyfnod  Ymgynghori Cyn Ymgeisio, ond heb unrhyw lwyddiant, ac yn fe’i cefnogwyd gan gannoedd o wrthwynebiadau wedi cwblhau’r cynlluniau. Y cyfan sydd angen i’r Cyngor ei wneud, gan ei fod yn gleient, yw cyfarwyddo’r datblygwr i gynnwys y caffi fel rhan o’r datblygiad – mae’n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill. Rydym yn cael tai newydd sbon i’r gymuned ac yn cadw’r caffi Paddle Steamer hefyd.
Ar ôl dathlu tynnu cerflun Thomas Picton o Neuadd y Ddinas, a chreu tasglu BAME, a wnaiff y Cyngor gymryd camau go iawn yn awr i gefnogi cymunedau du Caerdydd?
Gall Huw Thomas a’r aelod dros dai, Lynda Thorne, drin pobl â pharch, ymgysylltu â nhw a sicrhau bod y datblygiad yn cael ei addasu i ddiwallu anghenion pawb, neu gallant barhau â’r patrwm hanesyddol o esgeulustod a dihidrwydd gan awdurdodau’r ddinas tuag at gymunedau Butetown.
Eu dewis nhw yw hwn.

Yn gywir

Amanda Khaireh

Abdirahman Adam

Abdihalim Jama

Mahamed Mahamoud

Ahmed Abdi

Alex Wilson

Amber Thomas

Andrea Lockwood

Ashai Hassan

Barrie Phillips

Rebecca Colclough

Brian Camilleri

Daoud Salaman

Zaid Djerdi

Douglas Proctor

Eduardo Estrada

Elbashir Idris

Elias Ahmed

Fatima ingram

Filsan Nur

Gweni Llwyd

Haneefa Hassan

Hassan Yousuf

Halima Yousuf

Mustafa Abdi

Ian Ernest

Ismail Hussain

Jami Abramson

Kadija Hassan

Kay Denyer

Chris Kearns

Steve Khaireh

Mark Stevens

Lala Hassan

Larry Georges

Ambreena Manji

Marwa Yousuf

Mayla Hassan

Dylan Mears

Mohamed Yusef

Moseem Suleman

Musa Hassan

Nadia Nur

Nadifa Mohamed

Naomi Ernest

Neil Evans

Nirushan Sudarsan

Sarah Bowen

Owain Lewis

Owain Elidir

Mair Jones

Rooda Ahmed

Safa Yousuf

Ms. Sara Robinson

Save the Northern Meadows

Sophie D

Sharmarkeh Aman

Mike Webb

Jo Selman

Wasif Raza

Mohamud Yousuf

Yahgub Hassan

Yahye Hassan

Yasmin Begum

Yosuf Yousuf

Zoe Rogers

Un ateb ar “Achub y Paddle Steamer -llythyr i’r wasg”

  1. I support the campaign to save this iconic building it is also vitally important to save a community facility as the area is devoid of facilities for the community and if it’s lost It will have a detrimental effect on the community and in years to come the council will say it was a mistake band in hindsight they wouldn’t have done it.

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.