Pan fu’n rhaid i’r rhan fwyaf o ysgolion gau eu drysau yng ngwanwyn 2020 o ganlyniad i’r pandemig, amlygwyd gwirionedd annymunol am ddifrifoldeb sefyllfa tlodi plant yng Nghymru. Daeth i’r amlwg yn syth fod ysgolion, yn ogystal â darparu addysg i blant, yn rhan o rwydwaith cymdeithasol hanfodol sy’n atal plant rhag llwgu. Heb y ddarpariaeth o un pryd poeth y dydd, roedd degau ar filoedd o blant yng Nghymru mewn perygl o fod heb ddigon i’w fwyta yn ystod y cyfnod clo.

Mewn gwlad lle mae bron i un ymhob tri phlentyn yn cael ei fagu o dan y ffin tlodi, mae unrhyw gynnydd mewn costau byw yn rhoi pwysau anioddefol ar gyllideb y teuluoedd hynny. Mae polisïau creulon sy’n fwriadol atal rhai plant rhag derbyn nawdd cymdeithasol oherwydd y drefn y cawsant eu geni ynddi, yn ogystal ag effaith degawdau o doriadau i nawdd cymdeithasol, yn golygu bod dau draean o blant Cymru, a bron i hanner oedolion Cymru, bellach yn byw mewn aelwydydd sydd ag incwm is na’r isafswm angenrheidiol i allu mwynhau safon byw rhesymol.

Yng nghyd-destun y tlodi eang yma, heb reolaeth dros y rhan fwyaf o elfennau nawdd cymdeithasol, prin yw’r opsiynau sydd gan Lywodraeth Cymru wrth helpu teuluoedd i ymdopi â’r caledi dydd i ddydd a brofir wrth fyw mewn tlodi. O dan y cytundeb datganoli presennol, ni all Llywodraeth Cymru greu budd-daliadau newydd na chwaith cynyddu’r budd-daliadau gwan presennol. Ymddengys fel pe bai hi’n gymharol fodlon â’r rhwystau yma, o ystyried ei amharodrwydd i alw am ddatganoli pellach yn y maes yma – heb sôn am annibyniaeth. Heb y pwerau angenrheidiol yma dros nawdd cymdeithasol, yr arf gorau sydd ganddi hi yw’r ‘cyflog cymdeithasol‘ – sef rhoi cymorthdaliadau er mwyn helpu gyda chostau byw dydd i ddydd, fel bod modd i bobl ymdopi o leiaf, er na fydd ganddyn nhw incwm gwario. Yn ymarferol, mae hyn yn cynnwys popeth o bresgripsiynau am ddim i fynediad am ddim i amgueddfeydd, i fowlen o rawnfwyd am ddim sy’n cael ei chynnig i blant cyn iddyn nhw ddechrau eu gwersi bob bore.

Er gwaetha’r siarad parod am ‘gyffredinoliaeth gynyddol’, mae sawl rhan o gyflog cymdeithasol y Blaid Lafur yn dibynnu ar brofion modd er mwyn eu cael, ac mae’r profion hynny’n aml yn llym. Mae hyn ar ei amlycaf yn achos y polisi Cinio Ysgol am Ddim. Yr wythnos yma, mae dadansoddiad newydd gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi canfod nad yw 42% o’r plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Tra bo’r ffaith yma’n ddigon cywilyddus ynddi’i hun, mae dadansoddiad pellach o’r sefyllfa mewn gwledydd eraill wedi dangos bod Cymru’n eithrio mwy o blant sy’n byw mewn tlodi rhag cael prydau ysgol am ddim nag unrhyw wlad arall ym Mhrydain, gan gynnwys Lloegr dan Lywodaeth Geidwadol.

Yn rhannol, mae hyn gan fod Llywodraeth Cymru wedi gosod trothwy chwerthinllyd o isel ar gyfer incwm a enillir, sy’n golygu nad yw teuluoedd yn gymwys i gael dim cymorth gyda phrydau bwyd nac unrhyw dreuliau sy’n gyslltiedig ag addysg pan fydd eu hincwm o’u gwaith yn uwch na £7,400 y flwyddyn. Mae’n amlwg bod teulu o bedwar sy’n byw ar incwm o £8,000 yn bell islaw’r ffin dlodi gyffredinol, hyd yn oed os oes modd iddynt hawlio budd-daliadau a chredyd treth ar ben hynny. Mae tri chwarter o’r teuluoedd sy’n byw mewn tlodi yn gweithio, ond yn methu ag ennill digon o gyflog er mwyn cyrraedd safon byw resymol. Golyga hyn bod y rhan fwyaf o’r plant sy’n byw mewn tlodi yn cael eu hatal rhag cael prydau ysgol am ddim, ac nid yw eu hysgolion yn cael dim nawdd ychwanegol i helpu i oresgyn y rhwystrau difrifol mae tlodi’n eu achosi i blant sy’n ceisio cyflawni eu potensial addysgol.

Ond y gwarth mwyaf yw na fyddai Cymru ar waelod unrhyw restr o ran prydau ysgol petai hi ond yn gweithredu’r un polisi sydd eisoes yn bodoli yn Lloegr a’r Alban, polisi y mae Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid canlyniadol ar ei gyfer. Methiant Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl fabanod Cymru yw’r rheswm pam fod nifer sylweddol uwch o blant sy’n byw mewn tlodi yn colli allan ar brydau bwyd yn yr ysgol mewn cymhariaeth â Lloegr a’r Alban. Pan fydd plentyn pump oed yn Coventry neu Cumbernauld yn mynd i’r ysgol, maen nhw’n eistedd wrth eu cyd-ddisgyblion ac yn cael pryd o fwyd cynnes, am ddim, bob dydd. Ar yr un pryd, yn nhref Caernarfon a dinas Caerdydd, mae’n rhaid i rieni a gofalwyr dalu £450 y flwyddyn, ar gyfartaledd, er mwyn i’w plentyn 5 oed gael bwyta yn yr ysgol.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae 80,000 o blant yn y Cyfnod Sylfaen nad ydyn nhw’n gallu cael budd o’r polisi a fyddai’n darparu pryd o fwyd am ddim i holl blant y babanod. Cymru yw’r unig wlad ym Mhrydain sy’n gosod prawf modd ar bob plentyn ar gyfer prydau ysgol, waeth beth yw eu hoedran. Tra bod Yr Alban a Lloegr yn cydnabod y manteision addysgol, economaidd ac i iechyd a ddaw wrth ddarparu prydau bwyd am ddim i fabanod, mae Llywodraeth Cymru’n dewis rhoi prawf modd i’r plant bach ifancaf hyd yn oed. O ganlyniad i hyn, mae’r costau’n cael eu trosglwyddo at deuluoedd yr 80% o blant y Cyfnod Sylfaen sy’n disgyn ar ochr anghywir y meini prawf cymhwysedd.

Yn dilyn ymgyrch gref gan gynghrair eang o fudiadau, yn cynnwys elusennau, Cynulliad y Bobl, undebau llafur a grwpiau llawr-gwlad ar draws Cymru, mae’r angen i wella cyrhaeddiad system prydau bwyd ysgol Cymru’n amlwg. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Plaid Cymru, y Blaid Dorïaidd yng Nghymru, ac eraill wedi pleidleisio dro ar ôl tro o blaid ymestyn y cymhwyster i gynnwys pob un plentyn sy’n byw mewn cartref sy’n derbyn Credyd Cynhwysol. Awgrymodd adolygiad mewnol Llywodraeth Cymru o’i gynulliau gwrth-dlodi bod angen codi’r trothwy ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim fel bod rhagor o deuluoedd yn gallu cael cefnogaeth gyda chostau bwyd yn yr ysgol. Serch hynny, mae diffyg prydau bwyd babanod Cymru wedi cael llai o sylw, ynghyd â gwerth darparu prydau bwyd poeth am ddim i bob un plentyn, waeth beth yw incwm eu cartref.

Tra bydd profion modd yn penderfynu pwy sy’n gallu cael prydau ysgol am ddim, bydd y stigma cysylltiedig yn parhau, a bydd rhai plant mewn angen yn colli allan. Dim ond agwedd hollol gynhwysol tuag at brydau ysgol sy’n gallu sicrhau’r iechyd gorau, yr addysg orau a’r canlyniadau gorau i bolisïau gwrth-dlodi. Nid yw codi trothwy cymhwyster yn gwneud dim ond gwthio’r un problemau ymhellach i lawr y lôn. Waeth beth yw’r trothwy hwnnw, boed yn £8,000, yn £10,000 neu’n £18,000, fe fydd yn dal i atal pobl rhag gwneud cais amdano, gan fod profion modd yn eu hanfod yn peri i bobl deimlo cywilydd, ac er y gallwn wadu faint fynnwn ni, mae “Plant Cinio Ysgol am Ddim” yn cael eu labeli, eu monitro, a’u trin yn wahanol yn ein system addysg.

Credai Undod y dylai Llywodraeth Cymru weithredu ar eu geiriau o ran cyffredinoliaeth, a rhoi diwedd ar y defnydd o brofion modd er mwyn penderfynu pwy sy’n cael cinio ysgol am ddim.

Mynnwn bod Llywodraeth Cymru yn:

  • Cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant y Cyfnod Sylfaen ar unwaith, gan ddefnyddio’r cyllid canlyniadol maent eisoes yn ei dderbyn er mwyn gwneud hyn. Dylai fod yn ginio cytbwys a maethlon – nid yw’r cynnig brecwast yn ddigonol.
  • Cael gwared â’r profion modd yn llwyr, er mwyn sicrhau bod pob disgybl ar bob cam o’u haddysg orfodol yn gallu cael prydau am ddim yn yr ysgol.
  • Sicrhau bod pob pryd bwyd yn ysgolion Cymru wedi ei brynu mewn modd cynaliadwy, a sicrhau bod y cynhwysion a ddefnyddir yn cael eu cynhyrchu i’r safonau amgylcheddol a moesegol uchaf posib, tra’n sicrhau hawliau’r holl weithwyr sy’n rhan o’r broses o ddarparu’r prydau bwyd.

Cefnogwch

Cefnogwch y galwadau uchod drwy gysylltu â’ch aelodau Senedd gan ddefnyddio’r templed isod.

E-bost templed

Annwyl _____

Parthed: Cinio ysgol am ddim yn ysgolion Cymru

Ysgrifennaf atoch er mwyn nodi fy mhryderon ynglyn â’r profion modd llym y mae Llywodraeth Cymru’n eu gosod ar deuluoedd er mwyn penderfynu pa ddisgyblion sy’n gymwys am ginio ysgol am ddim.

Mae’n peri pryder difrifol nad yw Llywodraeth Cymru’n llwyddo i ddarparu cinio ysgol am ddim i blant y babanod, gan arwain at lefel sylweddol uwch o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn colli allan ar ginio ysgol o gymharu â phlant sy’n byw mewn tlodi yn Lloegr a’r Alban.

Ar hyn o bryd, mae modd i blant pump oed sy’n mynd i’r ysgol yn Lloegr a’r Alban gael pryd o fwyd cynnes, am ddim, bob dydd. Ar yr un pryd, yng Nghymru, mae’n rhaid i rieni a gofalwyr dalu £450 y flwyddyn, ar gyfartaledd, er mwyn i’w plentyn 5 oed allu bwyta yn yr ysgol. Cymru yw’r unig wlad ym Mhrydain sy’n gosod prawf modd ar bob plentyn i gael prydau ysgol am ddim, waeth beth yw eu hoedran.

Tra bod yr Alban a Lloegr yn cydnabod y buddion addysgol, economaidd ac i iechyd a ddaw drwy ddarparu prydau bwyd am ddim i fabanod, mae Llywodraeth Cymru’n dewis rhoi prawf modd i’r plant ifancaf hyd yn oed. O ganlyniad i hyn, mae’r costau’n cael eu trosglwyddo at deuluoedd yr 80% o blant y Cyfnod Sylfaen sy’n disgyn ar ochr anghywir y meini prawf cymhwysedd.

Wrth i achosion o dlodi plant gynyddu, a gyda’r teuluoedd sydd â phlant ifanc fwyaf tebygol o ddioddef, mae’n bryd i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn cymorth cynhwysol i helpu’r teuluoedd hynny ledled Cymru sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Mae ein plant ni’n haeddu bwyd maethlon sy’n eu llenwi, sy’n eu cadw’n iach ac sy’n eu helpu i dyfu ac i ddysgu. Ni ddylai’r un plentyn orfod profi’r stigma a’r boen a ddaw wrth beidio â gallu bwyta gyda’u ffrindiau oherwydd bod llai o arian gan eu rhieni.

Gofynnaf i chi alw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

  • Cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant y Cyfnod Sylfaen ar unwaith, gan ddefnyddio’r cyllid canlyniadol maent esioes yn ei dderbyn, er mwyn gwneud hwn. Dylai fod yn ginio cytbwys a maethlon – nid yw’r cynnig brecwast yn ddigonol.
  • Cael gwared â’r profion modd yn llwyr, er mwyn sicrhau bod pob disgybl ar bob cam o’u haddysg orfodol yn gallu cael prydau am ddim yn yr ysgol.
  • Sicrhau bod pob pryd bwyd yn ysgolion Cymru wedi ei brynu mewn modd cynaliadwy, a sicrhau bod y cynhwysion a ddefnyddir yn cael eu cynhyrchu i’r safonau amgylcheddol a moesegol uchaf posib, tra’n sicrhau hawliau’r holl weithwyr sy’n rhan o’r broses o ddarparu’r prydau bwyd.

Cofion,

_____

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.