Yn isod mae addasiad o’r araith wnes i yn rali fawr Nid yw Cymru ar Werth ar argae Tryweryn ar 10fed Gorffennaf. Dwi wedi ychwanegu rhai darnau gadewais allan o’r araith ar y diwrnod ar gyfer byrder, gobeithiaf bydd pobl yn fwynhau yr cyfraniad gymaint a wnes i fwynhau cael gwneud o.

Roedd yn fraint enfawr cael siarad yn Rali Fawr ‘Nid yw Cymru ar Werth’ Cymdeithas yr Iaith. Yn syfrdanol roedd y sawl â fynychodd y digwyddiad, yn ymuno er mwyn cyfleu eu pryder o’r problemau mae ein cymunedau ar draws Cymru yn ei wynebu.

Lle gwell nag Tryweryn i gael digwyddiad o’r natur yma? Yn lle fod ein cymunedau’n gwynebu cael ei boddi gyda dŵr, maent yn gwynebu gael eu boddi dan ‘fflyd’ o brynwyr efo cyfoeth, yn allan gystadlu pobl lleol ar farchnad preifat sy’n blaenoriaethu cyfoeth o ‘flaen anghenion pobl ac ein cymunedau. Mae’n ymosodiad gan y farchnad tai cyfalafeithol ar ein gymunedau. (Mae’n bwysig ychwanegu fod ymosodiad tebyg wedi digwydd yn erbyn cymunedau pobl o liw yng Nghaerdydd, y cymunedau fobl o lliw hynaf ym Mhrydain, dan yr proses o ‘gentrification’. Dwi’n ddifaru peidio codi’r pwynt yma yn ystod yr araith, mae angen amddiffyn holl cymunedau Cymru rhag y farchnad tai.)

Mae’r mesurau wedi gyflwyno gan llywodraeth fy mhlaid ddim yn mynd digon pell. Nid ydym efo haf i rhedeg ‘pilots’. Mae tai dal yn gael ei prynu, mae’r prisiau dal i godi, tra fod cyflogau pobl yn aros yn yr un fan. Os yw’r llywodraeth yn derbyn mai argyfwng ‘rydym yn ei wynebu, pam ddim rhoi mesurau arbenigol mewn lle i amddiffyn cymunedau tan mae mesurau parhaol yn cael eu sefydlu?

Mesur unrhyw llywodraeth sy’n galw ei hyn yn sosialaidd yw sut mae’n gwneud yn siŵr fod anghenion syml, fel cartref, ar gael i pob aelod o’n cymdeithas. Os maent yn methu ar hyn, mae’n methiant sy’n mynd yn erbyn ysbryd y mudiad Llafur yng Nghymru sy’n mynd yn ôl am canrifoedd.

Yn cysidro hyn, mae’r mesurau sydd wedi’i rhoi ymlaen gan Cymdeithas yr Iaith ag yr ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn rhai fydd yn cael rheolaeth dros y farchnad tai. Mae’n gwbl angenrheidiol pan fod marchnad yn mynd allan o rheolaeth’ fel ‘rydym yn ei weld ac yn gweithio’n cwbl gwrth i ddiddordebau pobl ein wlad.

Pam rydym yn gael buddugoliaeth yn yr ymgyrch yma, ac mi fyddem, mi fydd yn ddangos y grym sy’n bydoli o fewn ein cymunedau. Byddai’n dangos ein fod yn medru cael rheolaeth dros un o ganrannau cryfaf cyfalafiaeth yma yng Nghymru. Yn y hir dymor, unwaith rydym wedi cael ysbaid ar gyfer ein cymunedau, mae angen edrych ar trefn tai yma. Mae angen symud i ffwrdd o sustem cyfalafaethol sy’n trefnu ar sail cyfoeth ac ddim anghenion y bobl ac ein cymunedau.

Yn bellach, unwaith rydym yn sicrhau yr hawl i fyw adra, mae angen mynd ymlaen a sicrhau’r hawl i fyw bywyd cyflawn adref. Mae cyflogau gorllewin Cymru ymysg rhai o’r isaf yn gorllewin Ewrop, mae gwreiddiau’r problem yma’n un a’r problem tai. Mae’n mynd nôl i sut collodd y werin yr hawl i dir cyffredin, yn gael ei gorfodi oddi ar y tir gan gyfreithiau San Steffan. Gorfodwn wedyn i weithio mewn diwydiannau fel chwareli, fel wnaeth fy nghyn deidiau. Ar ôl gwneud cyfoeth enfawr oddi ar llafur y gweithwyr, gwnaeth cyfalafiaeth *gadael yr cymunedau yma heb gwaith ac sefydlaeth, yn cau’r hen diwydiannau lawr heb rhoi unrhyw fath o waith arall yn ei le. Digwyddodd yr un proses yn yr de efo’r pyllau glo, ac yn ganol yr Ugeinfed canrif gostyngodd yr nifer o fobl yn gweithio ar yr tir yn bellach trwy’r cyflwyniad o mecanwaith i ffermydd. Hon yw gwraidd yn broblemau cymdeithasol rydym yn ei wynebu.

Ond, trwy trefnu yn ein cymunedau, yn adeiladu cwmnïau cydweithredol a ‘community land trusts’ i adeiladau perchnogaeth cymunedol a ddemocrataidd dros ein stoc tai ac drwy trefnu undebau tenantiaid i mynnu hawl i denantiaid cael llais dros eu tai, medrwn ni greu y sylfaen o drefn dai democrataidd sy’n blaenoriaethu anghenion pobl. Trwy trefnu ein gweithle dan undebau llafur fedrwn dymuno’r hawl i gyflogau addas i bobl cael byw bywyd cyfforddus yn byr dymor, ac yr hawl i ddemocratiaeth a pherchnogaeth dros ein gweithleoedd yn hir dymor. Drwy adeiladau grym cymunedau drwy unrhyw sefydliad arall, a defnyddio’r grym yma i fynnu am yr hawl i fyw adref, gyda bywyd cyflawn, mewn cymunedau cryf, gyda democratiaeth o fewn ein bywyd cyffredin nid yn unig pam mae etholiad yn digwydd. Yn ychwanegol i hyn, gawn amddiffyn y diwylliannau sy’n bydoli yng Nghymru.

Dwi’n edrych ymlaen at weithredu gyda chi gyd i wneud yr weledigaeth yma yn wir.

Bydd y rali Nid yw Cymru ar Werth nesaf ar risiau’r Senedd yng
Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 13 Tachwedd 2021 am 2PM. Manylion

Lluniau gan Lleucu Meinir

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.