Mae Undod yn falch i’ch gwahodd i ymuno gyda’r mudiad.
Rydym yn fudiad gweriniaethol, gwyrdd a gwrth-hierarchaidd a sefydlwyd er mwyn sicrhau annibyniaeth i Gymru, ac er mwyn gweithredu nawr mewn modd sy’n efelychu ein gweledigaeth i’r dyfodol. Mae aelodaeth ar gael i unrhyw un sy’n cytuno i gefnogi ein hegwyddorion craidd.
Mae ein holl arian yn dod gan ein haelodau ac rydym angen dechrau adeiladu cronfa i’n caniatau ni i ymgyrchu. Os oes modd i chi gyfrannu’n ariannol, mae yna opsiwn i wneud hynny.
Ffurflen aelodaeth
Ein nodau
Mae aelodaeth Undod yn golygu byddwch yn ymuno â ni er mwyn adeiladu dyfodol gwell i bobl yng Nghymru a ledled y byd, trwy ymatebion radical a blaengar i’r heriau a wynebwn. Ein nodau tymor byr yw:
- pwyso ar y sawl sy’n dal grym ac sy’n gormesi,
- cynnig addysg gwleidyddol trawsffurfiannol,
- a sicrhau dadansoddiad a beirniadaeth radical o wleidyddiaeth ein dydd.
Twf y mudiad
Wrth i’r mudiad tyfu byddwn yn ehangu ein gweithgaredd a gosod amcanion eraill gan dderbyn arweiniad o weithgaredd grwpiau ar lawr gwlad. Bydd unrhyw flaenoriaethau cyffredinol yn cael eu penderfynu mewn modd ddemocrataidd o fewn cyfarfodydd cenedlaethol a byddwn yn dibynnu ar yr aelodaeth gyfan i yrru pethau ymlaen.
P’un ai ydych yn dewis ymuno er mwyn lledaenu ein neges, neu gymryd rhan fwy gweithredol, bydd eich llais yn helpu sicrhau bod yna weledigaeth gref ar gyfer annibyniaeth yng Nghymru – un sydd wedi’i gwreiddio mewn cyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Trefniant
Mae Undod yn cael ei gydlynu gan rwydwaith o gyfrannwyr ledled y wlad. Mae aelodau’n gymwys i bleidleisio mewn cyfarfodydd cenedlaethol i ethol cynrychiolwyr i ymgymryd â’r swyddi sydd eu hangen i gydlynu a threfnu gweithgareddau, er mwyn cefnogi ymdrechion yr aelodaeth.
Bydd ymaelodi yn golygu mai chi yw’r cyntaf i glywed newyddion am Undod, ac mi fydd yn ei gwneud yn haws i chi gefnogi a chyfrannu, ym mha bynnag ffordd sy’n addas i chi. Anogir ein haelodau i gydlynu yn lleol gyda phobl eraill sy’n rhannu gwerthoedd Undod, ac i drefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd sy’n berthnasol iddynt hwy neu’r gymuned lle maent yn byw. Rydym wrthi yn creu pecyn gwybodaeth ar sut i fynd at i drefnu’n lleol.
Bydd y rhwydwaith Undod Cymru-gyfan yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r gweithgareddau lleol hyn, fel bod modd inni dyfu fel mudiad llawr gwlad sydd yn creu newid radical yng Nghymru.
Manylion cyswllt
Nid yw’r aelodaeth yn gyfyngedig i’r rhai sy’n byw yng Nghymru. Rydym yn croesawi cydsefyll ac undod gyda grwpiau ac unigolion eraill o’r un anian, ar draws y byd, sy’n gweithio tuag at ddyfodol gwell trwy ddulliau radical a blaengar.
Wrth ymaelodi rydych yn cytuno i Undod ddal eich manylion cyswllt a defnyddio’r rhain i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gyfarfodydd, digwyddiadau ac ymgyrchoedd sydd ar y gweill gan Undod.
Manylion cyswllt yw eich enw, cyfeiriad e-bost ac mae nodi eich rhif ffôn yn ddewisol.