Pa fath o Gymru ddylen ni gael?
Gawn ni sefydlu egwyddor sylfaenol o’r cychwyn: mae’n rhaid i bobl Cymru meddu ar y grymoedd i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain. Rhaid i Gymru fod yn wlad ddemocrataidd, yn yr ystyr ehangaf posibl.
Os oes modd inni fel pobl yn gwerthfawrogi ein democratiaeth, yna fe fydd yna goblygiadau. Ni fyddai modd cynnal, cymeradwyo, neu hyd yn oed goddef unrhyw rolau cyhoeddus etifeddol o gwbl.
Yn benodol mae angen inni dorri’n glir o fodel y Deyrnas Gyfunol ar gyfer pennaeth gwladwriaeth, sydd yn hollol ddiffygiol. Yn ôl y model hwn, mae rôl y frenhiniaeth yn cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall. Nid oes atebolrwydd cyhoeddus dros weithredoedd y frenhiniaeth na’r defnydd o’r cyllidebau, heb sôn am unrhyw ddull cyfansoddiadol o ddewis brenin neu frenhines wahanol – na chael gwared â’r un presennol trwy bleidlais. Mae popeth wedi’i benderfynu ymlaen llaw trwy enedigaeth, ac mae hynny’n anobeithiol o hen ffasiwn, ecsgliwsif, ac yn hiliaeth sefydliadol.
Y frenhiniaeth, ar ffurf y frenhines neu frenin presennol, yw’r enghraifft mwyaf amlwg o rôl etifeddol gyda phŵer, cyfoeth, tir, eiddo, dylanwad, a breintiau. Ond peidiwch ag anghofio y teitlau a arddelir gan aelodau o’r teulu brenhinol a’r bonedd megis dugiaid, ardalyddion, ieirll, isieirll, barwniaid, ac arglwyddi.
Mae hyn yn fwy nag un person yn eistedd ar orsedd. Mae’n rhwydwaith gyfan, wedi’i gynllunio i gadw braint a phŵer yn nwylo ychydig o bobl.
Mae gan y teyrn lefel o ddylanwad dros wleidyddion San Steffan sydd bron yn anghredadwy. Mae cyfarfodydd personol wythnosol gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig a sesiynau penderfynu misol gyda grŵp o wleidyddion uwch yn San Steffan o’r enw’r Cyfrin Gyngor. Mae sianeli eraill o wybodaeth, megis datgelu papurau cabinet i aelodau o’r teulu brenhinol a llythyrau o ymateb. Nid yw’r trafodion hyn yn dryloyw, wedi’u dogfennu, nac yn destun i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
Rolau a braint etifeddol yw gwrthwyneb tegwch, ac nid yw’n addas i’r Gymru rydym yn dyheu amdani. Dyma un o’r prif resymau pam mae ein datblygiad fel cenedl wedi ei atal mewn sawl ffordd. Mae arferion moethus y rhai sy’n cael eu geni’n gyfoethog yn angenreidiol, ac mae gwasanaethau cyhoeddus yn foethau i’w torri – yn hytrach na’r gwrthwyneb. Ni ellid cyfiawnhau hyn ac ni ellir caniatáu iddo barhau mwyach. Y diffyg democrataidd hwn wrth wraidd y system economaidd a chymdeithasol yw un rheswm pam bod tlodi yn effeithio ar gymaint o bobl yng Nghymru. Tra bod un person yn cael genedigaeth mewn rôl fawreddog gan dderbyn cyfoeth ar unwaith, mae eraill yn cymryd eu rolau lle nad oes yr un cieniog na mantais i’w hennill. Hafaliad marwol ydyw.
Rhaid i Gymru ddod yn weriniaeth – am resymau ymarferol ac am resymau moesol. Ni all fod Brenhines etifeddol, na chwaith Brenin, na ‘Prince of Wales’ neu ‘Princess of Wales’. Rydym yn gwrthod y swyddogaethau a sefydliadau hyn. Nid mater personol yw hyn. Dyna’r ffordd y mae angen rhedeg ein gwlad – yn ddemocrataidd.
Rydym hefyd yn gwrthod ‘Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig’, cyfres o anrhydeddau a roddir mewn proses gwbl tywyll, ar fympwy y frenhines neu frenin. Mae bodolaeth ac enwau’r gwobrau Ymerodraeth Brydeinig hyn – CBE, OBE, MBE, ac yn y blaen – yn fwy nag embaras, mae’n warth.
Bydd y posibilrwydd o dyfu democratiaeth gref heb frenhines na brenin eisoes yn apelio at lawer o bobl. I unrhyw un sydd eisoes yn gefnogol o gael cyfrifoldeb llawn i bobl Cymru dros eu gwlad eu hunain, mae’n ddigwestiwn.
Er mwyn bod yn glir, ni ddylem ganiatáu i’r teitl Brenhines y Deyrnas Unedig gael ei newid i deitl fel Brenhines Cymru, neu Brenin Cymru. Ni allwn ni fel cenedl cyfaddawdu fel hyn, yn y ffordd y mae Canada ac Awstralia wedi gwneud, yn enwedig gyda’r risg wirioneddol o ymyrraeth barhaus yn llywodraethiant Cymru. Mae unrhyw rôl ar gyfer brenhiniaeth heb ei ethol yng Nghymru yn methu’r delfryd. Mewn Cymru annibynnol a fyddai hyn yn fwy o anacroniaeth sâl.
Ni all unigolyn fod o blaid democratiaeth ac o blaid y frenhiniaeth etifeddol. Rhaid i un o’r ddau farn ildio i’r llall, i ddatrys y gwrthdaro.
Am yr un rheswm, mae bod yn niwtral fel unigolyn ar fater y frenhiniaeth etifeddol yn golygu gwanychu’n ddifrifol eich cefnogaeth i ddemocratiaeth.
Gawn ni beidio byth â gwneud esgusodion am rolau a braint etifeddol – mewn unrhyw ffurf.
Prince of Wales, an English title given by an English King, Edward l, to his eldest son and nothing to do with Wales or the people of Wales.
DIM CRACHACH NEWYDD HEFYD.