Rhan o’r gyfres Cam nesaf Cymru

Dwi ddim am esgus nad ydw i’n berson gwleidyddol – mi ydw i. Dwi wedi bod erioed. Fel y mae fy nheulu ac fel y bydd fy mhlant yn tyfu i fod. Felly, mae’n hawdd i mi ddweud y dylai pawb fod â diddordeb gweithredol mewn gwleidyddiaeth – os nad am unrhyw reswm arall na’r ffaith mai drwy wleidyddiaeth mae eraill yn rheoli ein bywydau. Dyma’r ffordd maen nhw’n ein rheoli ni. Efallai byddwch yn ymateb drwy ddweud ‘Does neb yn fy rheoli i, dwi’n dewis yr hyn dwi isio pan dwi isio fo – mae’n wlad rydd’ (gydag iaith ychydig yn fwy lliwgar o bosib).

Mae’r ddau ddatganiad yn gywir. Rydym yn byw yn yr hyn a dybiwn i fod yn ‘wlad rydd’, ni sy’n dewis i bwy a rown ein pleidlais, ac os nad ydyn yn plesio wel allan a nhw tro nesa. Ond ai’r gwirionedd yw mai dim ond o fewn y fframwaith a osodir gan gyfreithiau, rheolau, normau ac ymddygiad derbyniol yr ydym yn rhydd? Ai’r gwir yw ein bod ni’n ddim ond yn rydd-ish?

Gallaf ddewis dechrau gweithio ar unrhyw adeg rhwng 8am a 10am oherwydd fod gen i drefniant gwaith hyblyg, cyn belled â fy mod i’n gwneud fy oriau. Dwi’n teimlo mewn rheolaeth.

Fe allwn i hefyd ddewis mynd i’r gwaith am 12yp a gadael am 12:30yp, fy newis i yw hynny – ond fyddai’m yn cadw fy swydd yn hir. Allwn ddewis mynd i’r archfarchnad yn fy nillad isaf neu noeth hyd yn oed, ond bydd pawb yn siarad amdanaf a bosib yn chwerthin arnaf yn fy nghymuned. Efallai bydd rhywun yn galw’r heddlu ac o bosibl gai’n neud am fod yn anweddus. Felly dwi ddim. Y peth ydi fydd hyn ddim yn dod i fewn i’n newisiadau wrth wisgo i fynd allan. Nid dillad neu ddim ond pa ddillad. Hyd yn oed wedyn, dwi’n dewis rhywbeth sy’n gymdeithasol dderbyniol o fewn fy hunaniaeth fy hun. Rwy’n teimlo fy mod wedi bod yn rhydd i wneud fy newis ynglŷn â sut dwi’n edrych ac yn yr hyn a wisgaf, ond ydi hyn yn hollol gywir?

Mewn gwirionedd mae ein rhyddid wedi’i gyfyngu gan gyfreithiau, rheolau, normau ac ymddygiadau derbyniol sy’n aml yn pennu pa ddewisiadau sy’n dod â gwobrau a pha ddewisiadau sy’n debygol o fod yn broblemus. Wrth gwrs rydym yn derbyn fod rhai deddfau sylfaenol yn ddefnyddiol i annog pobl i beidio ymddwyn yn  wrthgymdeithasol neu niweidiol. Fodd bynnag, gall deddfau fod yn anghyfiawn, ac mae’n aml yn wir fod llawer o normau’n ffafrio rhai pobl benodol a ddim eraill.

Beth a wnelo hyn ag Undod? Mae rheolau, deddfau, normau, polisïau, ymddygiad derbyniol, targedau a rheoliadau i gyd yn hyfryd cyhyd â’ch bod chi ar yr ochr iawn iddynt, ac mi ydw i’n siŵr eich bod chi – nes bod chi ddim. Yn waeth na hynny efallai na fydd yn fai arnoch chi i chi beidio â bod: efallai eich bod chi’n cael bargen wael oherwydd pwy ydych chi, beth ydych chi’n ei wneud, o ble rydych chi’n dod, pa mor ‘normal’ ydych chi, pa mor hawdd rydych chi’n ffitio i mewn i’r brif ffrwd. A gadewch inni fod yn onest, y dyddiau hyn mae’n ymddangos fod y ‘brif ffrwd’ yn mynd yn gulach gyda phob ton newydd o wallgofrwydd sy’n amlyncu’r ynysoedd yma.

Chwyldro amdani felly!

Mae’n ymddangos nad yw pobl wedi cyffroi gan y syniad hwn am ryw reswm – sy’n fy synnu, i fod yn onest. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn unig mae’n debyg fod posib hawlio dros 120,000 o farwolaethau i lymder a dros 50,000 o farwolaethau Covid-19, gyda mwy i ddod. Mae pob un ohonynt yn farwolaethau gwleidyddol, pob teulu’n galaru am rai coll oherwydd dewisiadau gwleidyddol a pholisïau penodol. Ar ben hyn mae gennym nyrsys, meddygon, gofalwyr, gyrwyr, parafeddygon, gweithwyr siop o bob math, glanhawyr, athrawon – pob un i’w aberthu oherwydd dewisiadau a wnaed er mwyn y canlyniad ‘gwleidyddol’ gorau.

Fe gyfrodd Llywodraeth Prydain pob pâr o fenig fel dwy uned o PPE, hunan-les gwleidyddol oedd hyn. Fe wnaethant ddal yn ôl yn ormodol ar alw am gloi-lawr, fel y gwnaeth y llywodraeth yng Nghymru. Maent yn parhau i israddio gwerth ein bywydau i ba fudd bynnag sydd iddynt hwy a’u ffrindiau ym myd busnes, ond hefyd maent yn ein trin fel ffyliaid. Lle gallai fod wedi lliniaru mae disgwyliad i ni ddiolch am yr hyn a gawn yn wyneb marwolaeth, colled a’r trawma. A sbiwch ar y ffordd mae Boris Johnson yn amddiffyn ei gadfridog Dominic Cummings er iddo dorri reolau’r cau mawr. Un set o reolau i ni, un arall iddyn nhw.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig taliad ychwanegol o £500 i weithwyr gofal… neith £500 ddim prynu wythnos o wyliau i deulu o bedwar pan fydd hyn ar ben, ac yn sicr nid yw’n ddigon i’w gwneud yn iawn fod pobl yn gorfod dewis rhwng mynd i’r gwaith, peryglu eu bywydau, bywydau eu teuluoedd neu’r posibilrwydd o golli eu swyddi.

Yn waeth na hyn i bobl fwyaf gofalgar ein cymdeithas yw gorfod siomi’r tîm a’u cleifion os nad ydyn nhw’n mynd i’r gwaith. Mae’n sylweddoliad o’r math gwaethaf pan welwn fod ein llywodraeth felly yn manteisio ar y bobl ofalgar hyn, ein gweithwyr rheng flaen. Y rhai lleiaf abl i ddewis peidio â gweithio, y rhai sy’n gwneud y swyddi sydd fwyaf hanfodol i’n bywydau (ond na phoener, mae fy nwylo’n brifo o glapio ddydd Iau diwethaf … Mae fy pinkey, wel, yn binc o’r holl beth).

Felly ai’r ateb yw gwleidyddiaeth = drwg ydyw? NA. Na, oherwydd i ddewis peidio â bod yn wleidyddol sa’ waeth deud ‘Gwnewch beth bynnag a fynnoch gyda mi, fy mywyd, fy anwyliaid’. Opsiwn peryg iawn gydag un o’r llywodraethau fwyaf asgell dde er cof byw yn San Steffan. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud yn y tymor byr yw ehangu’r brif ffrwd. Ei ehangu fel ein bod ni i gyd yn ffitio i mewn. Cydnabod pwy yw ein cynghreiriaid. Pwy sy’n sefyll gyda ni fel pobl, fel bodau dynol? Sut ydyn ni’n gwneud i’r realiti hwn weithio i ni i gyd? Y munud a wnawn gwelwn na fydd newid yn bosibl heb ymgysylltiad gwleidyddol, ac mae angen newid arnom, mae angen i’n bywydau ni fod o bwys i’r rhai sydd yn llywodraethu. Mae angen iddynt fod yn gwneud eu penderfyniadau ar sail yr hyn sydd orau i ni.

Mae Undod yn ymladd dros Gymru annibynnol sy’n dod â rheolaeth go iawn i bobl a chymunedau – dyma sut gawn ni newid. Dyma sut wnawn ni’n bywydau fod o bwys i’r rhai mewn llywodraeth: trwy ddod â’r llywodraeth honno’n agosach atom ni. Yn aml fydd Mam neu Nain i’w clywed yn dweud ‘Pwy mae’n perthyn i?’ Dychmygwch os fysa’r rhai sy’n llywodraethu, sy’n dewis, mor agos atoch chi a’ch teulu a hyn. Dylent fod. Sa’ modd gyrru Anti Pat o gwmpas i gael panad gyda’u Mam pan wnaethant rywbeth hurt …

Rwy’n tynnu coes wrth gwrs, ond y pwynt ydi dyna pa mor agos yw ein cymunedau yma yng Nghymru a dyna beth ddylai gael ei adlewyrchu yn strwythurau gwleidyddol ein cymdeithas.

Yn y cyfamser, gadewch inni ddelio â datganoli. Gadewch inni fwrw ymlaen i wneud y newidiadau y gallwn er gwell. Rhaid peidio bod ofn, does dim angen i ni fod. Gadewch inni ddewis sut rydyn ni’n gwneud ein dewisiadau ein hunain. Gadewch inni feddwl am ein rheolau, deddfau, normau, polisïau, targedau a rheoliadau a’u diwygio fel eu bod yn darparu fframwaith lle gall pobl wneud dewisiadau go iawn, lle maent yn rhydd mewn ystyr ystyrlon, a lle mae ansawdd eu bywyd yn cael ei wella. Yn bersonol, byddaf yn dal i bleidleisio yn erbyn siopa noeth, ond dyna’ch dewis chi.

Mae Llywodraeth Cymru a 3.136 miliwn o bobl yn sefyll gyda nhw, ysgwydd i ysgwydd, yn barod iddynt fod yn ddewr, i sefyll gyda ni. Trwy Undod rydym yn codi’n lleisiau gyda’n gilydd. Rydyn ni’n dychmygu Cymru well heddiw fel y gallwn wireddu Cymru ni, yfory.

Darlun gan youtookthatwell

Un ateb ar “Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod?”

  1. And this is why I have joined Undod.
    If this article and Undod had been around six years ago I would not have spent this time (up until last week) reading, watching, listening and communicating with various groups new as well as old trying to find my place. The thing is because I spent that time transiting from no longer being a Labour party member and finally decontaminating my mind, body and Celtic Soul, it worked out for the better.
    I have had time to study everyone, to meet people, to see how the Welsh political system works and how it blatantly mirrors Westminster due to a familiarity that has gone as far as enabling scum like UKIP into Y Senedd. A Tory MP in Bridgend and sadly, on an embarrassing personal note, a Tory Mayor in Llanelli, my home town! At a time when the Tories are being seen for what they really are my home town council decides to give their ‘mates’ the chain! Procedure my arse! This is what is so sick and corrupt about our politicians at town, district and county council level. They look after their own which is an English establishment trait although the welsh elite are not, nor ever will be English and they will never be accepted by them, even if they did go to grammar school.
    Gwynfor Evans is, undoubtedly a hero of our nation in his time and what he did and achieved was amazing. Goes without saying if only we had another patriot like him today we may no longer be tethered to England!
    Well, we have and they are coming up from very home, terrace, back lane, street, town and community via YesCymru, AUOB and other ‘new kids on the block’! The crap I have heard about all these new groups ‘splitting the Indy vote’ is exactly the same as those that used to say ‘wales isn’t big enough’. I purposely used a lower case w for that disrespectful word. All Undod and ‘others’ are doing is taking votes away from the British politicking parties and I will say now, which is my own personal view, if Plaid Cymru do not watch out and get their house in order they may be resigned to the history books like all the English based political parties will be!
    Gwynfor gave us hope, a renewed strength that was uniting our nation, but like so many great leaders there was no one to take over and continue the great legacy he started. Okay, yes, someone did take over, then they changed the rules and he now sits comfortably in the English dominated House of Whores, on the pretext that it was there where he could best carry on the fight. When that party sold out it sold itself to the devil. Then it had to do ‘deals’ later with Carwyn Jones who has proved that he cares not about Cymru (okay perhaps ‘wales’), but more about his own ascension to English rewards like Ellis Thomas, Kinnock and all the other traitors to our people that went before. Harsh words? Fair due, I’ll give you two more that are related, Aberfan and Lord Tonypandy!
    Anyway, that is enough from me. I hope my membership went through because, I have not heard back from you guys at Undod since I took the step of faith to join you to do my bit to help save what little we have left of our lands, people, nation and culture.
    Dafydd
    May 28th 2020, Wolborough

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.