Dwi’n gwenu wrth feddwl amdanynt – Lenin a Silyn yn sgwrsio yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Llundain lle daethant i ‘nabod ei gilydd tua 1903. Ar yr olwg gyntaf, does dim yn debyg rhwng y chwyldroadwr o Rwsia a’r gweinidog Methodist o Ddyffryn Nantlle, ond mae nodweddion cyffredin. Roedd dyddiadau eu geni a marw yn debyg, roeddent yn rhannu’r un credoau gwleidyddol, a daethant yn ddigon enwog i gael eu hadnabod gan un enw yn unig. Wedi dweud hynny, falle fod mwy wedi clywed am Lenin na Silyn.
Ganed Silyn, neu Robert Roberts, yn fab i chwarelwr ym 1871 ym Mryn Llidiart, Pen Cymffyrch, tyddyn sy’n adfail yn un o ardaloedd uchaf a mwya diarffordd Dyffryn Nantlle. Gadawodd ysgol Nebo yn 13 oed a mynd i weithio i’r chwarel. Ond diau fod hanesion am ei ewythr wedi dylanwadu arno. Collodd hwnnw ei waith pan yn ddwy ar bymtheg oed wedi streic yn Chwarel y Penrhyn 1846 a bu raid iddo ‘fudo i’r Amerig. Yno, yn Etholiad 1861 bu’n areithio ar ochr Abraham Lincoln.
Ond roedd cyfiawnder cymdeithasol yn fater o synnwyr cyffredin i chwarelwyr Dyffryn Nantlle, ac yno y cafodd Silyn ei addysg go iawn. Wedi pum mlynedd yn y chwarel, cafodd fynd i Ysgol Ramadeg Clynnog. Wedi astudio yno am dair blynedd, fe’i derbyniwyd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Graddiodd gyda anrhydedd mewn Saesneg cyn mynd i astudio ar gyfer y Weinidogaeth yng Ngholeg y Bala, a dilyn cwrs gradd MA ar yr un pryd. Ef oedd un o’r pum cyntaf yng Nghymru i ennill gradd MA. Erbyn hynny, roedd wedi cael cryn lwyddiant gyda’i farddoniaeth ac wedi ennill cadeiriau yn y steddfodau coleg. Ym 1902, ennillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn weinidog ar gapel Cymraeg Methodist yn Llundain.
Ni anghofiodd Silyn ei wreiddiau, ac yn sicr, roedd o flaen ei oes. Mor gynnar â 1896, roedd yn tarannu yn erbyn ‘the jingoism and the land grabbing of John Bull’, ac yn dadlau dros Ddiarfogi. Mynnai mai ymryson masnachol rhwng gwledydd oedd yn achosi cymaint o wario ar arfogaeth, a bod pentyrru arfau yn gwneud rhyfel yn fwy tebygol. Yn y flwyddyn hon, cyhoeddodd ei fod yn Sosialydd.
Roedd yn ŵr ifanc a garai gynnwrf, ac wrth sgwennu ei gofiant, meddai nhaid am Silyn, ‘Os byddai rhywbeth mawr yn digwydd yn rhywle, yr oedd Silyn eisiau bod yn ei ganol’. Pan oedd rhyfel rhwng Groeg a Thwrci ym 1897 a Groeg yn ymladd dros annibyniaeth i Greta, Silyn oedd un o’r ddau gyntaf i gynnig ei henwau i fynd yno i ymladd drosti. Ei arwr mawr oedd Byron, ac roedd elfen ramantaidd gref yn ei gymeriad. Ym 1903, roedd wedi ymweld â’r Unol Daleithiau a Chanada, wedi cael cyfnod o dri mis yn pregethu yn Utica, teithiodd i Ffrainc, Gwlad Belg a’r Iwerddon.
Wedi tair mlynedd lwyddiannus yn Llundain, daeth ef a’i gariad, Mary Parry i Danygrisiau i fyw. Priodwyd y ddau, aethant i fyw i Afallon ac ef oedd gweinidog Bethel. Er fod y capel wedi ei ddymchwel bellach, mae’r festri yn enwog fel stiwdio recordio Gai Toms. Ganed tri o blant iddynt, Glynn, Meilir a Rhiannon.
Yn ŵr ifanc 34 oed, daeth Silyn yn weinidog poblogaidd yn Nhanygrisiau, yn enwedig efo’r bobl ifanc. Doedd ganddo fawr o amynedd efo ffug barchusrwydd rhai aelodau oedd yn edrych i lawr eu trwynau ar gwmni drama. Ymateb Silyn oedd mynd ati i sgwennu drama iddynt.
Ni chafodd unrhyw anhawster cymhathu ei grefydd a’i wleidyddiaeth, dwy ochr i’r un geiniog oeddent. Pan basiwyd Deddf Tyddynod ym 1908, er mwyn i’r Cynghorau Sir brynu tir a’i osod i dyddynwyr, bu Silyn yn frwd o blaid y syniad. Ysgrifennodd gyfres o erthyglau i’r Glorian am sut i wneud cais am dyddyn. Cyn pen dim, roedd wedi ei ethol fel Cynghorydd Sir yn ddiwrthwynebiad. Ambell waith, sgwennai lythyr i gwyno fod ffermwr wedi ei droi o’i fferm, dro arall, sgwennai at Fwrdd Llywodraeth Leol am fod hen wraig wedi gorfod aros pum wythnos cyn cael ei phensiwn (sy’n taro nodyn cyfoes efo’r problemau gaiff pobl heddiw efo’r credyd cynhwysol). Yn y Blaid Ryddfrydol y’i magwyd, ond roedd yn aelod o’r Fabian Society o oedran cynnar iawn. Bu’n hynod weithgar gyda’r ILP – yr Independent Labour Party. Pan ddaeth trefnydd yr ILP yng Ngogledd Cymru i siarad ym 1908, cychwynnodd Silyn gangen ym Mlaenau Ffestiniog. Dyna sut y daeth David Thomas, Talysarn (fy nhaid) a Silyn i adnabod ei gilydd. Deuai Silyn i annerch canghennau oedd David Thomas wedi ei sefydlu yn Sir Gaernarfon, a deuai David Thomas i annerch y canghennau yn Sir Feirionnydd yr oedd Silyn wedi ei sefydlu. Erbyn Rhagfyr 1908, yr oedd Silyn wedi cyhoeddi pamffled ceiniog, ‘Y Blaid Lafur Anninynnol, ei Hanes a’i Hamcan.
Dyma ddyfyniad,
‘Nis gall neb agor ei lygaid ac edrych.. heb gael ei argyhoeddi mai perchnogion tir a chyfalaf yw gwir feistriaid y genedl….Ond dan Sosialaeth fe baid eiddo yn yr ystyr hwn â bod, oblegid fe droir y cyfan yn eiddo’r cyhoedd; yna fe ddaw grym llywodraethol sydd yn awr yn nwylaw ychydig oludogion yn eiddo’r holl bobl. Fel hyn y golyga Soaialaeth ryddid trefniadol, a chydraddoldeb gweleidyddol perffaith’
gan ychwanegu,
‘Gelyn anghymodlawn gwyddoniaeth a Sosialaeth yw’r dyn hunanol, a fyn gadw ei feddwl a’i egni i wasanaethu arno ef ei hun.’
Mynych oedd y galwadau arno i ddarlithio yn y De. Bu yno deirgwaith yn nechrau 1909 a bu’n annerch yr Ŵyl Lafur ym Merthyr ar Galan Mai 1911. Siaradwr pwyllog a thawel ydoedd, a siaradai gyda argyhoeddiad dwfn a gallai lenwi cyfarfodydd. Un oedd yn ŵr ifanc bryd hynny oedd Jim Griffiths, a etholwyd yn ddiweddarach fel Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. Meddai am Silyn,
‘Yr oedd i’w ddyfodiad ef arwyddocád arbennig i ni ieuenctid Deheudir Cymru. Yr oedd ef yn ddolen yn cydio’r hen a’r newydd… Silyn oedd y ddolen. Pregethai Dduw a Datblygiad. Yr oedd yn weinidog ac yn Sosialydd… Efe oedd ein hysbrydoliaeth, a’n cyfianwhad hefyd… Yr oedd ef yn cydio De Cymru Evan Roberts wrth Dde Cymru Keir Hardie.’
Cai pobl ddifyr noddfa ar aelwyd Afallon. Mae’n debyg fod llawer ohonom yn gyfarwydd â’r cerflun trawiadol ar y brif stryd yn Nulyn, o’r undebwr Jim Larkin. Daeth o i annerch cyfarfod yn y Blaenau ym Mawrth 1911 a rhoddodd gopi o’i gyfrol ‘Labour in Irish History’ yn anrheg i Silyn. Dau arall fu yno oedd Keir Hardie a George Lansbury. Un o gyfeillion Silyn oedd gŵr cyfoethog o’r enw George Davison a adeiladodd blasty iddo’i hun yn Harlech, Wernfawr. Gwerthwyd y tŷ yn rhad i Tom Jones i’w droi yn Goleg Harlech. Yno y cynhaliwyd cynhadledd yn 1910 i drafod Adroddiad y Lleiafrif ar Ddeddf y Tlodion, a ysgrifennwyd gan Sidney a Beatrice Webb (a gafodd lawer mwy o sylw na’r adroddiad swyddogol). Byddai Ysgol Haf y Fabian Society yn cael ei chynnal yn flynyddol yn Penrallt, Llanbedr, rhyw dair milltir o Harlech. O ganlyniad i waith Silyn a’i gyfeillion, sefydlwyd Pwyllgor Cenedlaethol Cymreig i hyrwyddo diwygio Deddf y Tlodion gyda George Davison yn ysgrifennydd. Dan y teitl, I’r Gad yn erbyn Tlodi, cyhoeddodd ei erthyglau ar Adroddiad y Lleiafrif yn Y Glorian. Darlithiodd yn aml ar y pwnc efo’r testun, ‘Cors Tlodi a’r modd i’w sychu’. Pwyswyd ar Silyn yn aml i sefyll fel ymgeisydd seneddol, ond gwrthod a wnaeth.
Y pwnc agosaf at galon Silyn oedd addysg i’r gweithiwr. Doedd dim syndod mai’r testun yn un o eisteddfodau bach Blaenau Ffestiniog oedd crynhoi ffeithiau Adroddiad. Y Lleiafrif. Roedd ef a Mary Silyn wedi cael eu hysbrydoli mor gynnar â 1905 ar eu hymweliad â Denmarc, a daethant yn gyfarwydd gyda gwaith yr Esgob Grundvig, sylfaenydd yr Ysgolion Gwerin yno. Mor gynnar â 1906, daeth a chymdeithasau llên lleol at ei gilydd ac un o’r pethau cyntaf wnaeth Silyn oedd adeilady ysgoldy gan fod y festri rhy fach i gynnal cyfarfodydd. Ym 1909, yng Nhwyl Lafur y Chwarelwyr, clywodd anerchiad gan Tom Jones,
“Mynnwch ddosbarthiadau i astudio…Robert Owen; dysgeidiaeth y Tadau Eglwysig ar fasnach; dysgeidiaeth y Testament Newydd ar ryfel a neges Denmarc a’r Iwerddon i amaethwyr Cymru.”
Dyma danio’r fflam yn Silyn. Er nad oedd wedi clywed am sefydlu’r WEA ym 1903, wedi clywed Tom Jones (a oedd yn aelod o’r WEA) yn annerch, cafodd ei ysbrydoli. Anfonodd Tom Jones gopiau o’r cylchgrawn misol, ‘The Highway’ iddo. Yr oedd Silyn a Tom Jones yn aelodau o Lys Coleg Bangor. Gofynnodd Silyn i Goleg Bangor am ddarlithydd a allai gynnal dosbarthiadau ar economeg yn y Blaenau. Ymatebodd y Coleg yn ffafriol. Wedi cysylltu ag Undeb y Chwarelwyr, dewiswyd Blaenau Ffestiniog fel y lle i gynnal y dosbarthiadau cyntaf. Meddai John Morris Jones, “Rydw i’n deall be sy arnoch chi ei eisiau – eisiau magu arweinwyr sy arnoch chi, on’te?” Roedd o wedi deall yn burion.
Dyna sut y daeth y darlithydd ifanc, J F Rees i’r Blaenau i roi cyfres o 24 darlith ar Hanes Diwydiant. Daeth pump ar hugain i’r dosbarth, a thri ohonynt yn swyddogion yr Undeb. Dyma gychwyn Dosbarthiadau Tu Allan a barodd am flynyddoedd pan oedd Coleg Bangor yn berthnasol i’r bobl leol. Awgrymodd Silyn eu bod yn mynd i ardaloedd chwarelyddol eraill a chychwyn dosbarthiadau i weision ffermydd Sir Feirionnydd. Meddai Silyn yn Y Glorian yn 1911,
‘Bydd y dynion hyn (fydd wedi dilyn y dosbarthiadau am dair blynedd) yn gaffaeliad mawr ar gynghorau lleol a sirol, ac yn ddinasyddion deallgar a chryfion mewn gwlad.’
Dyma wreiddiau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng ngogledd Cymru.