
- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Caernarfon: cyfarfod i drafod yr ymgyrch dros Gymru annibynnol, radical
27 Gorffennaf 2019. 3:00 PM - 5:00 PM
Free
Annwyl gyfaill,
Bydd rali dros annibyniaeth sy’n cael ei gydlynnu gan All Under One Banner a grwpiau eraill yng Nghaernarfon rhwng 13:00 a 14:00 ddydd Sadwrn 27ain mis Gorffennaf 2019.
Manteisiwn ar y cyfle y bydd llawer ohonom fel trefnwyr a chydymdeimlwyr yn mynychu’r rali i gynnal cyfarfod yn Llety Arall, 9 Stryd y Plas rhwng 15:00 a 17:00 wedi’r digwyddiad.
Nodwch fod y lleoliad a gyhoeddwyd yn wreiddiol wedi newid i: Llety Arall.
Ein bwriad yw i drafod aelodaeth, datganiad ar egni cymunedol o’r cyfarfod yn Y Pengwern yn Llanffestiniog a chynlluniau eraill fel digwyddiad yr Hydref yn Aberystwyth.
Gobeithiwn eich gweld yno i barhau y drafodaeth a’r ymgyrch dros Gymru annibynol, radical.
Croeso cynnes iawn i bawb ymuno.
Cofion gorau,
Undod