- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Cyfarfod cenedlaethol, Cell B (lleoliad newydd)
25 Ionawr 2020. 10:00 AM - 4:00 PM
FreeNodwch fod lleoliad y cyfarfod bellch wedi symud i CellB (yn hytrach na’r Pengwern).
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd cyfarfod cyffredinol nesaf Undod ym mis Ionawr.
Wedi lansio ein tudalen ymuno ar 13eg Rhagfyr mae gennym llwythi o aelodau newydd, ac o ganlyniad bydd y cyfarfod yma’n gyfle gwych i weld ein gilydd ac i ddechrau llunio rhaglen gwaith y mudiad a thrafod ein datblygiad yn 2020.
Byddem, ymhlith pethau eraill yn penderfynu ar gyferiad rhan nesaf o’n taith, gan edrych ar gyfansoddiad, ethol rhai cydlynnwyr, a thrafod ein strategaeth dros y misoedd nesaf. Bydd manylion yn dilyn ond rydym yn annog chi i roi’r diwrnod yn eich dyddiadur.
Grwpiau sy’n ymgyrchu dros Gymru
Bydd rhai efallai’n ymwybodol bod yna clash anffodus gyda chyfarfod blynyddol YesCymru. Ymddiheurwn i’r sawl byddai wedi dymuno mynychu’r ddau gyfarfod ac ymdrechwn i beidio gwneud yr un camgymeriad eto.
Yn hynny o beth mae’n gyfle pwysleisio eto nad oes unrhyw awgrym o gystadleuaeth gydag YesCymru. Fel mae’r ymgyrch yn Yr Alban wedi dangos, mae yna le i fudiadau niferus o fewn yr ymgyrch ehangach, a lle mae YesCymru yn gweithredu dros yr egwyddor democrataidd cyffredinol o annibyniaeth i Gymru, rydym ni am gynnig – a gweithio tuag at – uchelgais a gweledigaeth flaengar: Cymru bydd yn gwella ansawdd bywyd pobl, yn trin pawb gydag urddas, gan barchu ein hamgylchfyd.
Gobeithiwn trwy’r gwaith hwn i ysbrydoli mwy o bobl i ymuno gyda’r mudiad dros annibyniaeth a gorfodi ein gwleidyddion blaengar (honedig) i wneud y gorau dros Gymru nawr ac yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, dymunwn tymor y Nadolig da i chi, ac edrychwn ymlaen at flwyddyn newydd a’r cydweithio sydd i ddod.
Teithio a llety
Byddwn yn dilyn y cyhoeddiad hwn gyda mwy o fanylion. Os ydych chi am deithio o’r de neu’r gorllewin i’r cyfarfod, a hoffech chi geisio rhannu lifft neu rydych am ystyried aros noson y 24ain yn CellB, cysylltwch gyda ni, cyn y 6ed o Ionawr.
Cyfathrebu
Peidiwch a phoeni os na fydd modd i chi fynychu – bydd nifer o gyfarfodydd yn dilyn ac mae yna bob tro cyfle i gysylltu gyda ni trwy e-bost, Facebook a Twitter er mwyn rhannu barn neu roi cynnigion gerbron.