
- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Protest Undod dros hawliau’r Cwrdiaid ar bwys TUI Merthyr Tudful
4 Mai 2019. 10:00 AM - 11:00 AM

Bydd aelodau Undod, ac unrhyw un arall sydd eisiau cymryd rhan, yn cynnal protest di-drais dros hawliau y Cwrdiaid – ar yr un pryd â channoedd o ymgyrchwyr eraill.
Dewch i siop TUI (124 Stryd Fawr, Merthyr Tudfil, CF47 8BL). Rhwng 10am a 11am byddwn ni’n dosbarthu taflenni sydd yn galw ar bobl i foicotio Twrci fel lle ar gyfer gwyliau nes bod ei llywodraeth yn parchu hawliau pobl Cwrdaidd. Darllenwch am yr ymgyrch yma.
Wedyn fe fydd digwyddiad am y mudiad llafur ac annibyniaeth yng Nghanolfan Soar.