Ym 1952 roedd Prydain i raddau helaeth yn gymdeithas daeogaidd a oedd yn gorfodi cydymffurfiaeth oedd yn mygu pobl.

Pan esgynnodd Elisabeth II i’r orsedd, nid oedd gan Gymru na’r Gymraeg unrhyw statws gyfansoddiadol. Ystum sinigaidd oedd y seremoni cyhoeddi dwyieithog yng nghastell Caerdydd y penwythnos diwethaf i geisio dilysu trefn wleidyddol sy’n dadelfennu’n gyflym.

Ni welwyd yn hanes y ddynoliaeth y fath newid dramatig ag a welwyd yn y 70 mlynedd diwethaf.

Mae cymdeithas ormesol o gydymffurfiol y 1950au wedi’i rhoi o’r neilltu. Mae mudiadau rhyddhau menywod, LGBT+ a phobl dduon wedi ennill buddugoliaethau pwysig. Mae angen inni wthio’r ymgyrchoedd hyn ymlaen, nid glynu at greiriau y gorffennol.

Mae rhai yn cwyno nad yw’r tywysog yn dod o Gymru. Ond does dim lle i frenhiniaeth yn y Gymru sydd ohoni.

Dylai cynrychiolwyr cenedlaethol fod yn atebol i’r bobl, nid wedi cael eu penodi oherwydd genedigaeth-fraint. Mae’r presenoldeb parhaus y frenhiniaeth yn symbol sy’n cyfiawnhau ein system gyfalafol gyfan, a hynny yn gadael miliynau yn brwydro i grafu byw tra bod eraill yn byw mewn moethusrwydd na fedrwn ei amgyffred. Nawr bod costau byw yn cynyddu yn aruthrol, mae’r addoliad o gyfoeth a phŵer y mae’r frenhiniaeth yn symbol ohono yn sarhad llwyr.

Roedd brenhiniaeth Lloegr yn ganolog i wladychu pobloedd ar draws y byd er mwyn ei elw ei hun – gan achosi trallod a marwolaeth lle bynnag yr aeth. Saif y frenhiniaeth ar gopa gwladwriaeth Brydeinig sydd heb ei diwygio, ac yn ymddwyn fel pe bai’n dal i reoli chwarter y byd. Nid oes le mewn Cymru flaengar i sefydliad sydd ag etifeddiaeth mor ddamniol.

Rydym eisiau Cymru heb hierarchaeth a lle na all un grŵp ddominyddu unrhyw un arall. Mae’r teitl o dywysog Cymru yn sarhad i gymdeithas ddemocrataidd. Mae’n bryd inni ei ddileu. Byddwn yn gwrthwynebu arwisgiad William – boed yng Nghaernarfon, neu yng Nghaerdydd fel yr awgrymwyd.

Fel y caiff un farwolaeth gael ei galaru’n sefydliadol drwy dictat, dylem gofio ag urddas am farwolaeth Tony Parris, un o Dri Caerdydd, gafodd ei garcharu ar gam am lofruddiaeth. Mae marwolaeth Tony yr un mor bwysig â marwolaeth brenhines.

Os yw’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd wedi gadael blas chwerw yn eich ceg, ymunwch â ni i adeiladu Cymru newydd.

Gweriniaeth Gymreig rydd.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.