Diolch i Nye Davies am sgwrs ddiddorol gyda ni yng Nghanolfan Soar, Merthyr yng nghyswllt y mudiad llafur ac annibyniaeth. Trafod yr adnabyddus S.O. Davies, AS Merthyr 1934-1972, oedden ni – a’r modd roedd yn mynegi ei gred mewn cyd-ddibyniaeth annibyniaeth a sosialaeth.
Cymharwyd syniadau Davies â rhai Aneurin Bevan gan ddangos bod y ddau yn rhannu nifer o gredoau sylfaenol, yn enwedig eu gwrthgyfalafiaeth, a’u cred yn y sustem ddemocrataidd, ond bod Davies yn gweld rheolaeth economaidd Cymreig yn anhepgor er mwyn inni osod ein llwybr unigryw.
O ddiddordeb mawr o safbwynt gwahaniaethau’r ddau oedd eu cefndir yn yr ystyr bod S.O. Davies (o gymuned Gymraeg yn Abercwmboi) wedi cymhwyso fel Gweinidog yng Nghaerdydd tra bod Bevan (â’i dad yn fardd Eisteddfodol ond yn hannu o Dredegar gymharol Saesneg) wedi derbyn ei addysg yng Ngholeg Llafur Canolog yn Llundain, a bod e felly wedi astudio hanes radical o safbwynt Prydeinig gan ddeall ideoleg sosialaidd trwy’r ffram honno.
Ar y llaw arall mae Rob Griffiths, arweinydd y Blaid Gomiwnyddol Brydeinig. yn ei gofiant o S.O. Davies yn dangos ei ffocws ar sefyllfa Cymru – a’i ddadleuon cyson bod Cymru yn cael ei hanwybyddu gan San Steffan, a bod y wlad yn cael ei deall llai nag unrhyw wlad arall yn y Gymanwlad. Mae’r cyfle i Gymru datblygu yn ôl eu gwerthoedd, diwylliant ac arferion ei hun felly yn amhosib, a dim ond hunan-reolaeth – yn enwedig annibyniaeth economaidd – fydd yn sicrhau y gallu a’r grym democrataidd digonol i ddatblygu economi Cymru, er lles pawb yng Nghymru.
Yn wir, os nag yw annibyniaeth i Gymru yn golygu rheolaeth dros ein diwydiant a’n economi er mwyn gwella bywydau y werin, yna, y cwestiwn sydd rhaid gofyn yw ai annibyniaeth go iawn yw hynny? Beth yw ymreolaeth i Gymru os nag oes gan bobl Gymru rheolaeth dros fywydau nhw eu hunain?
Digon i feddwl am felly, a diolch eto i Nye.