Bydd Plaid Cymru yn cyfarfod yn Abertawe am eu cynhadledd flynyddol dros y penwythnos, a mae’n siŵr y gallwn ddisgwyl pob math o addewidion am y Gymru annibynnol sydd yn ymddangos yn nes nag y bu ers oesoedd. Ond ydi hon yn Blaid y gallwn ddibynnu arni i’n harwain i’r gwynfyd? Neu fydd hi’n debyg o’n suddo mewn gwladwriaeth fydd yn adleisio’r drefn yn San Steffan efo’i sinigiaeth, ei chefnogaeth i gyfalafiaeth a militariaeth – ond wedi ei wisgo mewn lifrai Cymreig?
Gallwn gyfeirio at sawl mater, ond am y tro beth am weld be sy’n digwydd ym mydysawd afreal y diwydiant niwclear ar hyn o bryd?
Wel, os dechreuwn drwy edrych ar gastiau Cyngor Gwynedd sy dan arweiniad y Blaid, dydi’r rhagolygon ddim yn dda.
Ar wefan “Sell2Wales” mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am rhywun i wneud arolwg o’r effeithiau amgylcheddol yn dilyn adeiladu a rhedeg atomfa yn Nhrawsfynydd.1 Mae nhw hyd yn oed yn brolio y bydd y math yma o atomfa yn gyntaf o’i fath. Fel Cyngor Mon, bu Cyngor Gwynedd yn frwd eu cefnogaeth i Wylfa B. Mae’r un mor frwd dros adweithydd niwclear yn Nhrawsfynydd, ar waetha pob tystiolaeth sy’n dangos yn eglur mai breuddwyd gwrach economaidd ydi’r cyfan. Unwaith eto, gwelwn fod addewidion – waeth pa mor annelwig – am swyddi, yn dallu pob cynneddf feirniadol. Hynny, a’r gred ryfedd fod gwrthwynebu niwcs yn “gwneud drwg i’r Blaid”. Anwybyddir unrhyw ystyriaeth arall – megis y peryglon, y gwastraff, y gwaddol i’n disgynyddion ac yn y blaen. A mae’r holl beth yn rhan o “Gynllun Twf Gogledd Cymru”.
“Sell2Wales”? Na, Sell Out Wales!
Oes arweiniad gan y Blaid yn ei huchelfannau? Nac oes. Anwybyddwyd adroddiad cynhwysfawr gan Madoc Batcup2 – a gomisiynwyd gan Leanne Wood ac Aelodau Cynulliad y Blaid yn 2013 – y byddai niwcs yn a gallu gwneud Cymru annibynnol yn fethdalwr, heb son am ystyriaethau eraill. Cefnogwyd niwcs yn frwd gan aelodau etholedig y Blaid yn lleol – Liz Saville Roberts, Rhun ap Iorwerth ac wrth gwrs Dafydd Elis Tomos pan oedd yn dal yn y Blaid. Mae’r rhai o’r hoelion wyth hefyd yn gefnogwyr – Dafydd Wigley ac Ieuan Wyn Jones.
Mae tawelwch aelodau blaenllaw sy’n erbyn niwclear yn nodweddiadol o’r Blaid ar y pwnc yma. Ac yn fater o dristwch.
Beth am Adam Price? Yn ei ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth, dywedodd na fedrai Cymru ddim cael Wylfa B ac annibyniaeth oherwydd ystyriaethau ariannol – ond dim gair ganddo y pryd hwnnw nac ers hynny am y peryglon, na chwaith air am adweithyddion bychan o’r math a fwriedir ar gyfer Trawsfynydd. Deallwn ei fod wedi sefydlu gweithgor (eto fyth!), er mwyn datblygu polisi ynni, ond dim gair o waith hwnnw hyd yn hyn.
Dim ymateb ganddo chwaith i’r dystiolaeth ddamniol sy’n cysylltu niwclear sifil a niwclear milwrol.3
Dim pwyso ar Lywodraeth Cymru ar eu polisi niwclear – cofiwn fod prosiectau sy’n llai na 350MW wedi eu datganoli. Dim gofyn am ymgynghoriad cyhoeddus. Dim cyfaddefiad fod niwclear bellach yn dechnoleg ddoe. Dim cydnabod mai plentyn y peiriant cyfalafol/milwrol sy wedi dod a’r blaned at ymyl dibyn difancoll ydi’r diwydiant niwclear.
Hyd yn hyn, dim arweiniad.
Yn y byd mawr y tu allan i swigen etholiadol Cymru fach, mae technolegau amgen o gynhyrchu ynni yn brasgamu ymlaen – a hynny am brisiau sy’n rhyfeddol o isel o’u cymharu ag ychydig flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddar cytunwyd pris o £39-65/awrMW am ynni gwynt, sy’n llawer iawn is na’r £92-50/awrMW a delir am drydan o orsaf Hinkley C (sydd yn barod yn costio £2.9 biliwn yn fwy na’r amcangyfrif i’w adeiladu ac yn rhedeg ddwy flynedd yn hwyr).4
Dros y ddegawd diwethaf, mae’r “World Nuclear Industry Status Report 2019” yn dweud fod y prisiau masnachol am solar wedi gostwng 88%, gwynt 69% tra fod niwclear wedi codi 23%.5 Bellach, mae ynni adnewyddol yn rhatach na glo a nwy.
Tasg unrhyw blaid sy am warchod buddiannau pobl Cymru yw sicrhau mai ynni adnewyddol sy’n cael eu cefnogaeth, ac ymhellach na hynny mai pobl Cymru fydd yn elwa o ddefnyddio ein hadnoddau naturiol – nid cwmnïau mawr cyfalafol.
Os yw’r Blaid am barhau i fod mor anobeithiol o ddiglem ar fater mor bwysig, sut fedr hi ddisgwyl i bobl Cymru ymddiried ynddi i redeg y wlad er lles pawb?
Rally for welsh independence !
Thank you for pointing this out.
Adam Price said nuclear weapons were an ‘abomination’ in the election campaign.
We have to be anti-nuclear in all its forms. At best nuclear energy is a terribly false economy and at worse it curses generations with pollution and toxic waste.