Byddai heddiw wedi bod yn ddathliad o ddiwylliant, hunaniaeth ac annibyniaeth Cymru yn un o drefi mwyaf eiconig Cymru, Wrecsam: cartref pêl-droed Cymru, lager rhagorol, Saith Seren, Gŵyl Twm Sbaen, ac arloeswr anghydffurfiaeth Gymreig, Morgan Llwyd. Yn lle, rydym wedi ein caethiwo yn ein tai mewn cyfnod o hunan-ynysu ac argyfwng enbyd na fyddai llawer wedi ei ragweld cyn lleied â thri mis yn ôl. Yn anochel, ychydig fyddai wedi ei ragweld oherwydd diffyg cydnabyddiaeth, trafodaeth neu baratoi difrifol gan y rhai sydd a’r cyfrifoldeb i’n hamddiffyn.

Yng nghyd-destun annibyniaeth Cymru nid oes fawr o amheuaeth bod yr argyfwng hwn wedi ei wneud yn fater brys gan wthio’r  mudiad ymlaen – gan fod San Steffan nid yn unig wedi ein methu’n gyfan gwbl, mae wedi ein peryglu’n ddiangen, ac yn gyfrifol am gyfradd marwolaethau sy’n llawer uwch na’r mwyafrif o wledydd eraill. Yng Nghymru, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru sydd yn brin o’r hyder, yr awdurdod addas, ac i raddau, y pwerau angenrheidiol, i greu’r ymateb yr oeddem ei angen.

Mae’r cau lawr a’r argyfwng ehangach yn newid wyneb ein cymdeithas a’n heconomi ac, yng ngeiriau Andreas Kluth ar ran Bloomberg, mae’n creu seiliau chwyldro cymdeithasol. Yn hynny o beth mae’n rhaid i ni ailasesu ein gwerthoedd sylfaenol fel cymdeithas, a gwneud yr achos yn benodol mai annibyniaeth i Gymru yn unig – y tu allan i afael gwladwriaeth elitaidd Brydeinig sydd am atgyfnerthu’r status quo neoryddfrydol – sy’n rhoi cyfle i greu’r newidiadau rydym eu dirfawr angen.

Gan droi ein golygon at Wrecsam, un sefydliad yn y dref sy’n symbol, yn fwy na dim, o’r angen hwn am newid: carchar Berwyn. Wedi’i agor ym mis Chwefror 2017, sefydlwyd carchar mwyaf y DU yn Wrecsam ar sail yr angen dybryd am garchar yn y gogledd, a fyddai o fudd i garcharorion o ran cysylltiadau teuluol, yr iaith Gymraeg ac adsefydlu yn y gymdeithas, gan ddarparu hwb i’r economi leol – (gan gynnwys yr honiad lled syfrdanol y byddai’r diwydiant lleol yn gallu “elwa o ddarpariaeth adnoddau dynol medrus a lled-fedrus am lawer llai na’r cost llafur arferol”).

Afraid dweud bod realiti’r carchar yn wahanol i’r egwyddorion y sefydlwyd arnynt. Dangosodd adroddiad yn 2018 fod llai na 25% o’i 1100 o garcharorion ar y pryd yn dod o Gymru, gyda charcharorion o 125 o wahanol Awdurdodau Lleol yn Lloegr – tra bod 37% o holl garcharorion Cymru yn dal i fod mewn carchardai y tu allan i Gymru. Adroddwyd eisioes ar broblemau y diwylliant cyffuriau sydd wedi sefydlu ei hun, tra bod adroddiadau eraill wedi tynnu sylw at broblemau megis diffygion y cyfleusterau sylfaenol. Mae tueddiadau pryderus hefyd o ran hunan-niweidio, gyda dros 2.5 digwyddiad y dydd wedi eu cofnodi bob dydd yn 2019 (hyd at fis Medi), a thua 2 ymosodiad treisgar y dydd.

Dim ond cynyddu tensiynau a phryder yn y carchar gall yr argyfwng presennol, wrth gwrs, gyda’r firws yn lledu ymhlith y carcharorion ac yn heintio o leiaf 75 aelod staff. Dyma pam rydym wedi mynnu, fel rhan o’n hymateb polisi i’r argyfwng, bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda charchardai i gynghori a darparu adnoddau a chyllid ychwanegol i amddiffyn carcharorion a staff.

Yn ehangach, y mae’n rhaid i ni weithio i wyrdroi’r tueddiadau cyfredol sy’n gweld Cymru’n cofnodi cyfradd uwch o garcharu nag unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop, cynnydd yn nifer y menywod yn y carchar, y lefelau uchaf erioed o hunan-niweidio, defnydd uchel o gyffuriau, a niferoedd anghymesur o bobl BAME a rheini â phroblemau iechyd meddwl neu anableddau dysgu wedi’u carcharu.

Nid yw carcharu byth yn ddiogel, ac nid yw’n gweithio ar y gorau. Fodd bynnag, mae’n hynod greulon a dienaid i barhau i gadw pobl mewn carchardai a chanolfannau cadw yn ystod pandemig byd-eang. Dyma pam mae Undod wedi ychwanegu ein henw at y datganiad hwn gan ystod o sefydliadau sy’n galw am gamau brys i amddiffyn carcharorion ac atal y firws rhag lledaenu. Dylai pob canolfan mewnfudo gael ei chau ar unwaith gan ryddhau y sawl sydd dan glo. Mae angen lleihau poblogaeth y carchardai yn sylweddol hefyd er budd diogelwch carcharorion ac iechyd cyhoeddus ehangach. Mae yna enghreifftiau o bedwar ban byd – gan gynnwys sawl talaith yn yr UDA, Iran ac Iwerddon – o weithredu’r mesurau hyn, y gallai Llywodraeth y DU eu dilyn – ond hyd yn hyn mae wedi dangos diffyg diddordeb llwyr. Nid ydym eto wedi clywed gair gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn.

Yng nghyd-destun ehangach Cymru, ei heconomi a’i dyfodol, mae stori Berwyn yn ddameg o bwys mawr i ni. Mae carchar a sefydlwyd yn er budd honedig carcharorion o Gymru, ac eu hadsefydlu fel rhan o’n cymdeithas yn pen draw, nid yn unig yn ymddangos fel cafflo pellach gan San Steffan, mae hefyd yn symbol o brinder uchelgais i’n trefi a’n cymunedau. Mae’n ymddangos bod carcharu yn cynrychioli un o brif egwyddorion datblygiad rhanbarthol y DU yn ein rhan ni o’r perfidious Albion – a gyflwynwyd, wrth gwrs, gan ddosbarth llywodraethu o Gymru a fydd yn croesawu unrhyw ddiwydiant, waeth pa mor niweidiol, yn enw ‘swyddi’. Tystiwn, er enghraifft, i’r ymdrechion diweddar i sefydlu arch-garchar tebyg ym Mhort Talbot, a wrthwynebwyd yn daer ac yn llwyddiannus gan wleidyddion a thrigolion lleol. Rydym yn debygol o weld brwydr arall yn fuan, fodd bynnag, wedi i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder nodi yn ddiweddar ei fod am weld carchar newydd arall yng Nghymru.

Dyma pam mae Undod, fel rhan o’i egwyddorion craidd, yn gwrthod y diwydiant carchardai wrth alw am economi foesegol i Gymru, nad yw wedi’i seilio ar drais milwrol na chymdeithasol. Mae ein trybeini presennol – ac yn fwyaf arbennig arwriaeth, y cydgofalu, a natur gydweithredol ymateb ein cymunedau – yn dangos bod dyfodol arall yn bosibl, un lle mae Cymru a’i heconomi wedi’i seilio ar dosturi a chynaliadwyedd. Nawr yw’r amser i ddechrau adeiladu dyfodol gwell.

Ymunwch â ni wrth i ni ddechrau o ddifrif ar y gwaith hwn.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.