Mae ennill annibyniaeth radical i Gymru yn gofyn am rwydwaith o sefydliadau i gyfleu ein syniadau, dod â phobl ynghyd ac ymgyrchu dros y trawsnewidiad yr ydym am ei weld. Dyna pam y byddwn yn rhannu uchafbwyntiau o gyfryngau lawr gwlad Cymru y gallech fod wedi’u colli.
- Mae Desolation Radio wedi bod yn darparu dadansoddiad rheolaidd o ymateb pandemig llywodraeth Cymru [Spotify] [Soundcloud] [Podlediadau Apple] gan gynnwys pennod fanwl yn trafod gwyddoniaeth Covid-19.
- Mae Voice.Wales yn rhoi llais i brofiadau pobl dosbarth gweithiol yn ystod y pandemig. Gweler “rydym yn cael ein haberthu” am adroddiad gan weithwyr rheng flaen.
- Mae Wales.pol yn sianel newydd sy’n creu podlediadau a fideos sy’n canolbwyntio ar ymgyrchoedd lawr gwlad yng Nghymru – o hawliau rhentwyr i ymladd dros gyfiawnder i Christopher Kapessa.
- Mae erthygl ddiweddaraf gan un o’n haelodau, Dan Evans yn darllen hanfodol: Does dim mynd yn ôl i normal
- Mae colofnau beiddgar Laura McAllister yn WalesOnline wedi bod yn llais prin yn y cyfryngau prif ffrwd dros drawsnewid cymdeithas Cymru wedi’r cau lawr.
- Mae Valleys Underground, y rhwydwaith gweithredu cymunedol a gwleidyddol, wedi lansio sianel YouTube newydd – mae eu fideo cyntaf yn edrych ar fethiannau datganoli.
- Yn O’r Pedwar Gwynt, mae’r cyn-feddyg teulu Gruffudd Penrhyn Jones yn myfyrio ar y ffordd y mae’r ymateb i Covid-19 yn chwarae ar rai hen chwedlau – yn enwedig y cysyniad o’r Arall.
- Yn Nation.Cymru mae un arall o’n haelodau, Robat Idris yn ysgrifennu am y modd mae Covid-19 wedi datgelu’r heriau hirsefydlog a wynebir gan gymdogaethau gwledig yng Nghymru (Cymraeg / Saesneg).
- Ac ar Planet Extra mae cyfle arall i ddarllen traethawd Mark Redfern When Vice Came to Swansea a chamddarlunio diwylliant dosbarth gweithiol Cymreig – a enillodd Wobr Emyr Humphreys WalesPENCymru yn ddiweddar.