Yn anffodus bu farw David Graeber, un o ddeallusion adain chwith mwyaf dylanwadol yn y cyfnod diweddar, ar yr 2il o Fedi. Nid fi’n unig fydd yn teimlo colled ddofn o glywed y newyddion hyn – roedd yn lais eglur a gobeithiol i lawer ohonom ar y chwith, rhywun y byddem yn aml yn troi ato yn ystod cythrwfl gwleidyddol (roedd ei ddarn ar ôl yr etholiad yn engraifft berffaith o hyn). Fe’i cofir am ei rôl ganolog yn y mudiad Occupy (ac sy’n cael y clod am fathu’r ymadrodd “ni yw’r 99 y cant”), roedd yn gefnogwr brwd o frwydr y Cwrdiaid, ac am ei ymrwymiad gydol oes i anarchiaeth (er fel y nododd ei bywgraffiad Twitter, roedd yn ymddangos ei fod yn casáu labeli, ac yn gweld anarchiaeth fel “rhywbeth rydych yn ei wneud, nid hunaniaeth”) – egwyddorion a fyddai’n ei ddwyn i wrthdaro â byd academaidd a oedd weithiau’n elyniaethus i’w actifiaeth.

Fel llawer o feddylwyr ac ysgrifenwyr gwych eraill, llwyddodd Graeber i ddatgloi ein dychymyg i weld pethau a oedd gynt o’r golwg yng ngolwg pawb – a dod â ni ar y chwith yn agosach at fyd a oedd bob amser yn teimlo mor bell i ffwrdd. Ond, yn anad dim, nid cynnyrch syniadau damcaniaethol neu athronyddol yn unig oedd syniadau o’r fath. Fel anthropolegydd, daeth ei optimistiaeth o waith empirig ar draws gofod ac amser, roedd yn ein hanog ni i roi sylw i’n bywydau beunyddiol, cymhleth (ond cyffredin). Y canlyniad oedd nad oedd yn cynhyrchu gweledigaethau iwtopaidd amherthnasol (fel ffantasïau a allai fodoli yn ein pennau yn unig), ond roedd yn agor y drws i bosibiliadau a’u rhoi ar flaenau ein bysedd (sgil a rannodd gydag anarchwyr gwych eraill fel Kropotkin a Colin Ward).

Efallai mai elfen fwyaf nodedig Graeber oedd ei arddull ffraeth a hygyrch, a ddefnyddiwyd mewn modd grymus i ddiarfogi a gwawdio rhai o’r rhesymegau am gyfalafiaeth a’r wladwriaeth a oedd wedi hen gael eu derbyn yn ddigwestiwn. Roedd hyn yn hynod gyfareddol yn ei lyfr yn 2018 Bullshit Jobs, a oedd yn athrylithgar yn ei symlrwydd. Yn greiddiol iddo oedd yr honiad bod perthynas wrthdro rhwng gwerth cymdeithasol swydd a’i gwerth economaidd. Mewn geiriau eraill, mae’r swyddi sy’n hawlio’r cyflog uchaf (e.e. rheolwyr cronfeydd rhagfantoli, ymgynghorwyr gwleidyddol, gurus marchnata, cyfreithwyr corfforaethol ac ati) fel arfer yn ddiwerth yn gymdeithasol (mae Graeber yn mynd i fanylder gan egluro hyn fel profiad goddrychol, ynghyd â llawer o storïau difyr). Honnodd Graeber pe bai’r swyddi hyn yn diflannu yfory, nid yn unig na fyddai’r mwyafrif ohonom yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn ein bywydau beunyddiol, ond byddai’r byd yn debygol o fod yn llawer gwell lle. Ar y llaw arall, fel y nododd Graeber:

Pe bai pob un ohonom yn deffro un bore ac yn darganfod nid yn unig bod nyrsys, casglwyr sbwriel, a mecanwyr, ond hefyd gyrwyr bysiau, gweithwyr siopau groser, diffoddwyr tân, neu gogyddion byrbrydau wedi cael eu dwyn i ffwrdd i ddimensiwn arall, byddai’r canlyniadau’n drychinebus.

Mae hyn wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ystod argyfwng COVID, gan mai’r rhain yw’r gweithwyr rydym i gyd yn dibynnu arnynt i gynnal ac atgynhyrchu elfennau sylfaenol ein cymdeithas a’n bywydau bob dydd. Pwy fyddai wedi sylwi pe bai’r cyfreithwyr corfforaethol wedi rhoi’r gorau i weithio yn ystod anterth y cyfyngiadau symud? Yr hyn sy’n arbenig am y gwaith hwn yw ei fod yr hyn a wyddom yn barod ond nad oeddem yn gallu ei fynegi mor eglur – fel rhyw sgwrs tafarn wedi’i hymchwilio’n dda gyda choel empirig, hanesyddol a damcaniaethol. Heb os, mae’n cyflwyno llawer iawn o waith deallusol ac ymarferol i ni.

Wrth gwrs, mae ei weithiau eraill yr un mor bwysig – yn enwedig Debt, sy’n glasur modern, neu bleserau cudd biwrocratiaeth yn The Utopia of Rules, a’m ffefryn personol Fragments of an Anarchist Anthropology.

Mae’n deyrnged i’w ddylanwad bod cymaint ohonom (sydd, yn ôl pob tebyg, erioed wedi cyfarfod nac ymgysylltu ag ef) yn teimlo cymaint o dristwch yn dilyn ei farwolaeth. Ond, p’un a ydych yn ystyried eich hun yn sosialydd, yn gomiwnydd neu’n anarchydd (neu ba bynnag amrywiad/label rydych am ei roi i chi’ch hun), rydym yn gymuned (er mor dameidiog) sydd wedi’i hadeiladu ar undod, cariad, ac ymladd am fyd mwy cyfartal a thecach, ar y cyd. Rydym yn dathlu, yn brwydro, yn gweithio, yn anadlu, ac yn byw gyda’n gilydd, a phan fyddwn yn colli ein gilydd, rydym yn galaru gyda’n gilydd. Mae ei waith yn anrhegion y mae e wedi’u adael i ni, ond mae ei etifeddiaeth yn dibynnu ar ein gallu i’w defnyddio, eu siapio a’u hail-lunio i’r dyfodol. Ac nid oes ffordd well o ddathlu ei fywyd a’i syniadau na hynny.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.