Bydd gan bob un ei farn am y graddau y bydd pandemig Covid-19 yn parhau i fygwth ein trefn economaidd, ein ffordd o fyw, ein dyheadau a’n cyfleoedd, ond un peth sydd wedi ceisio annog yr ymdeimlad bod ‘normalrwydd’ am ddychwelyd yw’r neges ‘Dychwelwn i’r gwaith.’
Mae’n dangos pa mor ganolog yw gwaith yn ein bywydau pan fo dychwelyd iddo yn un o’r prif nodweddion wrth feddwl am ‘normalrwydd’. Meddyliwch, gallem fod yn dweud ‘Dychwelwn i addysgu’, ‘Dychwelwn i’r rhandir’, neu ‘Awn i’r parc i chwarae gyda’r plant’. Ond na, y neges yw bod rhaid dychwelyd i’r gwaith, i’r swyddfa, i’r cymudo…
Fodd bynnag, mae mwyfwy o bobl yn cydnabod nad yw dychwelyd i’r gwaith o reidrwydd yn gyfystyr â dychwelyd i’r swyddfa. Mae hyn yn rhannol oherwydd y risgiau y mae swyddfeydd yn eu hachosi i iechyd y cyhoedd, drwy ledaenu’r firws, yn ogystal â’n trenau sy’n debycach i loris defaid. Ond mae hefyd yn dangos bod y cyfuniad o orfod gweithio gartref, y cyfnod clo a ffyrlo wedi rhoi cipolwg i bobl o wahanol drefniadau gweithio. Bydd yn anodd dychwelyd i’r hen ffordd o weithio (mewn gwirionedd, rydw i o’r farn ei fod wedi rhoi cipolwg inni o ddyfodol ôl-waith lle mae awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial wedi disodli rhywfaint o’r hyn yr arferem ei wneud am gyflog. Ond mae honno’n ddadl ar gyfer diwrnod arall ac un, yn anffodus, a fydd yn dlotach o lawer heb ddoethineb rhyfeddol David Graeber, cwsg mewn hedd).
Y cartref neu’r swyddfa?
Er y gellid dadlau bod canolbwyntio ar leoliad y gwaith yn nodwedd fympwyol – yn hytrach na chanolbwyntio ar ei werth economaidd a chynhenid, ei swyddogaeth gymdeithasol neu ei allanoldebau niweidiol – mae tuedd bryderus yn y drafodaeth ar sut rydyn ni’n dychwelyd i’r gwaith yn y tymor byr, sydd wedi ysgogi’r darn hwn ac edefyn y cyhoeddais ar Twitter yn ddiweddar.
Mae’n rhaid i mi ddatgan diddordeb fan hyn: rwy’n ymwneud ag Indycube ac yn hyrwyddo ei nod o wneud gwaith yn decach. Rwyf hefyd yn ddiweddar wedi helpu Insole Court yn Llandaf i agor ei ofod cydweithio annibynnol (Desgiau’r Modurdy | Motor House Desks). Er nad oes gen i gyfran ariannol yn y fenter, mae’n haeddu llwyddo.
Yn syml, mae’n bosib bod yr opsiwn o naill ai gweithio gartref neu yn y swyddfa yn addas i gyflogwyr, ond i nifer fawr iawn o bobl, nid yw’n bosib ac/neu yn addas i weithio gartref, hyd yn oed yn achlysurol. Ni ddylid gadael i’r safbwynt cymharol freintiedig y sawl sydd yn berchen ar gartref gydag ystafell sbâr neu swyddfa bwrpasol, sydd heb blant yn byw gartref, neu sy’n medru rhannu gofal plant gyda phartner â phatrymau gweithio hyblyg, ac yn y blaen, reoli’r drafodaeth am leoliadau gweithio.
Yn sicr, mae manteision i weithio gartref i rai, yn achlysurol. Byddai’n rhagrithiol i mi beidio â chydnabod fy mod i wedi elwa ohono ar sawl achlysur dros y blynyddoedd. Ond fel y drefn arferol? Na, ddim o gwbl.
Cysuron cartref?
Ar y cyfan, mae pobl wedi bod yn wydn, yn hyblyg ac yn amyneddgar gyda threfniadau gweithio gartref dros y cyfnod clo. Ond mae ymateb o’r fath yn haws pan fydd rhywbeth yn newydd. Tybed a yw fy hyblygrwydd i wedi ei hogi mewn gwaith cymunedol lle rydw i wedi gweithio mewn pob math o leoliadau: neuadd yr eglwys, y swyddfa dai, caffis, y trên, swyddfa’r cyngor, y ganolfan gymunedol, y Stiwt, y clwb, fy nghar. Mae ‘fy swyddfa’ i wedi bod yn strydoedd ac ystadau. A, do, mae fy nghartref wedi bod yn swyddfa i mi hefyd. Dim ond canran fach o fy ngyrfa sydd wedi ei threulio wrth ddesg swyddfa bwrpasol, a’r rhan fwyaf ohono yn rhywle arall.
Os gallaf i ddod i arfer ag e, oni all pawb arall? Efallai, ond rydw i ar y cyfan wedi cael y rhyddid i ddewis o ble rwy’n gweithio. A dyma’r peth allweddol sydd ar goll o’r opsiwn cyfyng, un-neu’r-llall, o weithio gartref neu o’r swyddfa. Yn ogystal, nid yw pobl o reidrwydd yn wynebu dewis rhesymegol.
Beth yw’r dewis i’r gweithiwr sydd mewn perthynas gamdriniol yn y cartref os nad yw’r swyddfa ar gael iddynt?
Beth yw’r dewis i’r person ifanc sy’n dal i fyw gartref neu mewn llety a rennir?
Beth yw’r dewis i’r person sy’n dioddef aflonyddwch neu wahaniaethu gan gymydog?
Beth yw’r dewis i’r person sydd â phartner sy’n gweithio shifftiau ac yn cysgu yn ystod y dydd?
Beth yw’r dewis i’r person sy’n byw mewn llety rhent o safon isel?
Beth yw’r dewis i’r pâr y mae eu perthynas yn fregus ond sydd nawr yn gorfod gweithio o’r un bwrdd bwyta?
Costau’r cartref
Rhaid inni rymuso’r bobl hyn i allu gwthio yn ôl yn erbyn y dewis un-neu’r-llall y gallai rhai cyflogwyr ei gynnig. Ond mae gwaith eisoes yn ansicr iawn i nifer o bobl, a gyda disgwyl diswyddiadau wedi-ffyrlo, bydd gweithlu ofnus yn dod yn un sy’n cydymffurfio. Yn hynny o beth, gobeithir bod undebau llafur eisoes yn barod i weithredu. Yn ogystal â bod yn ansicr, i lawer mae gwaith yn afiach, yn ecsbloetiol ac yn cadw’r gweithwyr a’u teuluoedd mewn tlodi. Ond o ystyried aneffeithiolrwydd, cydsyniad neu ymoddefiad y mudiad llafur gyda’r tueddiadau modern hyn, efallai na allwn ddisgwyl y bydd yr undebau llafur yn camu i’r adwy wedi’r cyfan.
Er gwaethaf costau, aneffeithlonrwydd a niwed amgylcheddol cymudo, o leiaf roedd yn darparu ffin glir rhwng bywyd gartref a bywyd gwaith (er gwaethaf y demtasiwn i wirio negeseuon e-bost ar y ffordd i mewn). Pan fyddwch chi’n gweithio wrth y bwrdd bwyta gyferbyn â’ch partner am hyd at bum diwrnod yr wythnos, daw’r ffin honno yn llawer llai amlwg.
Rydym yn gynyddol ymwybodol o’r allanolion y mae ein system gyfalafol yn eu hachosi – llygredd a chostau amgylcheddol, risg systemig – ond gallem hefyd ychwanegu’r effaith emosiynol niweidiol ar berthnasau a theuluoedd. Oes modd hawlio ffioedd cwnsela priodasol ar dreuliau?
Dylid hefyd ystyried y gost o ddefnyddio mwy o gyfleustodau. Gellir tybio y bydd cyfran o’r gorbenion y mae sefydliadau ym mhob sector yn eu cynnwys mewn cytundebau a cheisiadau am grantiau a chyllid yn cael eu trosglwyddo i weithwyr mewn modd cost lawn sy’n effeithlon o ran treth. Eto, rwy’n gobeithio bod arbenigwyr cyfraith cyfrifyddiaeth a chyflogaeth undebau llafur eisoes yn gweithio ar hyn – bydd angen i’w therapyddion iechyd galwedigaethol fod yn effro i’r cynnydd anochel mewn poen gwddf, cefn ac arddyrnau yn sgil sefyllfa gweithio gartref anaddas.
‘Trydydd llefydd’
Mae’r cymdeithasegydd adnabyddus Ray Oldenburg wedi ymchwilio i’r hyn a elwir yn ‘drydydd llefydd’: y mannau hynny lle mae gwahanol bobl yn dod ynghyd i gymdeithasu, i drafod, i fwyta, i chwarae, i weddïo, i drefnu, ac yn y blaen. Maent yn wahanol i’r cartref a’r aelwyd (llefydd cyntaf) a’r gweithle (ail lefydd). Daw ystod eang o ofodau i’r grŵp hwn o lefydd. Mannau cymunedol fel capeli, sefydliadau a chanolfannau cymunedol. Nid yw’r trydydd lle yn eiddo cyhoeddus, cymunedol neu nid-er-elw yn unig. Ystyrier, er enghraifft, werth cymdeithasol mentrau preifat fel salonau a barbwyr i gymunedau Affro-Caribïaidd; amlygrwydd die Kaffeehäuser yn niwylliant Fiennaidd yr 20G; y dafarn Brydeinig; neu gaffi Eidalaidd Idomeneo Faracci y ‘Dark Philosophers’ enwog yn y clasur o nofel gan Gwyn Thomas, a pholisi Idomeneo o groesawu pawb i’r caffi p’un ai ydyn nhw’n prynu rhywbeth neu beidio, gan resymu mai pobl dlawd yn unig sy’n mynd drwy eu bywydau heb brynu dim byd.
Y bobl ifanc hynny sy’n casglu tu allan i siopau? Dyna drydydd lle arall.
Gyda’r pandemig yn debygol o bylu’r ffin rhwng ail lefydd a llefydd cyntaf gweithwyr, gallai persbectif ‘gweithiwr’ traddodiadol geisio gwthio yn erbyn y gofynion i weithio gartref. Fersiwn modern y perchnogion o gloi allan fyddai gwerthu’r swyddfa neu adael i’r brydles ddod i’w therfyn ar eu lleoliad presennol. Rwyf i o’r farn na ddylid dadlau ble mae’r perygl i’r llefydd cyntaf (y cartref) a’r ail lefydd (y gwaith) orgyffwrdd, ond yn hytrach dylem fod yn rhoi cyfle i ail a thrydydd llefydd asio o ran yr maent yn cynnig; o leiaf yn y tymor byr tra bo sgileffeithiau’r pandemig i’w teimlo.
Mae’r dull hwn yn caniatáu i’r chwith archwilio’r potensial cyfoethog ‘ail-trydydd’ llefydd newydd, hybrid a berchnogir gan y gymuned, sydd nid yn unig o fudd i’r gweithwyr, ond i’r gymuned ehangach y mae’r gofodau hynny ynddi, gan gynnwys y sector breifat.
Rwyf wedi colli cyfrif o’r nifer o weithiau rydw i a gweithwyr cymunedol eraill wedi cwyno am yr anhawster i ymgysylltu â phobl sy’n gweithio. Mae cymunedau difreintiedig, cymunedau ar gyrion trefi, ac ardaloedd gwledig yn diboblogi’n ddifrifol bob dydd. Mae hyn nid yn unig yn amddifadu’r cymunedau hynny o gyfalaf cymdeithasol gwerthfawr dyddiol, ond mae hefyd yn cyfyngu’r ffenestr aur sy’n agor rhwng tua 5.30-9pm o ddydd Llun i ddydd Iau (prin iawn ar ddydd Gwener i fod yn onest) i weithwyr cymunedol daro ar bobl sy’n gweithio i ofyn am eu sylw, eu syniadau, eu cyfraniadau, eu mewnbwn, eu cydsyniad neu eu llofnod.
Mae hyn hefyd yn cystadlu â chyfleoedd pobl sy’n gweithio i fynd i ymarfer côr, i ymarfer pêl-droed, i’r rhandir, i’r cartref gofal i weld mam neu dad, i’r gampfa, i weddïo, i ddosbarthiadau nos, i helpu’r plant gyda’u gwaith cartref, i noson rieni…
Fel y dangosodd Sendhil Mullainathan ac Eldar Shafir yn eu llyfr Scarcity: Why having so little means so much, mae gallu meddyliol pobl wedi ei raglennu’n ddieithriad i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n orfodol neu yn frys yn unig. Mae trydydd llefydd yn cynnig cyfle nid yn unig i osgoi cymudo ond hefyd i ymgorffori gwaith yn arlliw bywyd cymunedol a chadw, buddsoddi a harneisio cyfalaf cymdeithasol at ddibenion y cymunedau eu hunain, yn hytrach nag er budd cyrchfan yr allyrwyr dyddiol.
Cefnogi’r precariat
Mae ail-trydydd ofodau hybrid yn llefydd perffaith i hwyluso gwreiddio strwythurau a chysylltiadau cydweithredol sy’n helpu lleihau’r risg o weithio’n annibynnol – y math o weithio y rhagwelwyd y byddai’n cynyddu yng Nghymru cyn y pandemig – ac y mae’r mudiad Cydweithredol eisoes wedi ei adnabod fel rhywbeth eithriadol o ansicr. Er enghraifft, nododd adroddiad Not Alone nad yw enillion cynifer â 77% weithwyr hunangyflogedig yn eu codi uwchben y llinell dlodi, felly maent yn dibynnu ar gynilon, credyd (ffurfiol ac anffurfiol) ac enillion pobl eraill i oroesi. Mae eu hwyneb ‘rwy’n iawn’ maent wedi hen arfer ag ef yn cuddio’r simsanrwydd hyn.
Yn yr un modd ag y mae diffyg trwydded yrru a mynediad i gar wedi rhwystro pobl rhag cael gwaith, tybed a fydd diffyg amgylchedd addas i weithio ynddo y tu allan i’r swyddfa yn dod yn rhwystr ôl-pandemig i gyflogaeth a chynnydd gyrfaol? Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd aros mewn gwaith, mae’r neges bod gweithio gartref yn rhyw fath o newid radical yn y farchnad waith – fel y mae rhai rheolwyr yn ei awgrymu – yn wirion. Nid yw’n cynnig dihangfa o, ac mae’n cynyddu ecsploetiaeth gan, mwy-o’r-un-fath, i’r bobl hyn y mae David Harrey yn eu galw yn “precariat”.
Ac mae’r gris y mae’r precariat arni ar fin gweld nifer o draed eraill yn glanio arni.
Bydd gwaith mewn system gyfalafol yn parhau i ailstrwythuro a bydd yn addasu i amddiffyn breintiau penodol ymysg grwpiau penodol, fel y mae wedi ei wneud erioed. Felly, mae angen i’r gweithwyr eu hunain a grwpiau sy’n cynrychioli’r precariat, fel Undod, anelu’n chwyrn at y tir canol – rhywbeth y mae’r chwith radical yn aml yn amharod i wneud! – ond yn hyn o beth mae’r tir canol wedi ei ddiffinio fel gofodau cymunedau, fforddiadwy i gydweithio, sy’n agos i’r cartref a’r aelwyd. Mae’r gofodau hyn yn eithaf rhad i’w sefydlu ac ar y cyfan yn seiliedig ar asedau yn eu hanfod h.y., yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod pa gryfderau sydd eisoes o fewn y gymuned (cysylltiadau, rhwydweithiau, cyfleusterau); yn hytrach nag yn canolbwyntio ar yr hyn nad oes ganddi. Maent yn wrthgyferbyniad llwyr â llawer o’r modelau trefol o gydweithio sy’n gaeth i fodelau twf blinedig, echdynnol a phentyrrol, a cholledau’n wedi gwaranti yn eu herbyn gan y cyhoedd (rydych chi’n gwybod pwy ydyn nhw…).
Ymladd am yr hawl
Ond, mae nifer o heriau.
Nid yw’r gofodau hyn yn rhinweddol yn eu hanfod ac mae’n rhaid i’r sawl sy’n mynd drwyddynt barhau i fod yn ymwybodol o’r angen i fod yn gynhwysol ac yn oddefol. Mae’n rhaid iddynt hefyd fod yn wrth-foneddigeiddio yn ogystal ag yn ddi-foneddigeiddio.
Fel y mae Undod wedi ymgyrchu am y diffyg deddfwriaeth hawl-i-brynu fel cymuned yng Nghymru, yn wahanol i Loegr a’r agenda diwygio tir yn yr Alban, mae’n golygu bod gallu cymunedau i hunan-drefnu i baratoi i gaffael perchnogaeth o asedau cymunedol mewn cystadleuaeth fwy agored â buddiannau preifat a chorfforaethol. Yng Nghymru, mae dull mwy amlreiriog a hwylus wedi ei ffafrio lle trosglwyddir asedau i berchnogaeth gymunedol, ond yn bwysig iawn, dim ond o berchnogaeth gyhoeddus yn unig – enghraifft arall o ‘Gwnaed yng Nghymru’, a’r dwr croyw, coch. Mae’n gwrthod ieithwedd ymosodol y farchnad o blaid iaith y rheolwyr ac adeiladu partneriaeth. Er hynny, onid yw buddiannau preifat wedi parhau i brynu popeth mewn modd rheibus?
Mae angen deddfwriaeth newydd mwy hirdymor, ond yn y tymor byr mae’r aflonyddwch economaidd enfawr yn sgil y pandemig yn siŵr o amlygu rhai gofodau y gellid eu defnyddio.
Mae hefyd yn hynod o naïf i feddwl na fydd y gwacáu torfol o ganol o ddinas a blociau swyddfeydd tu allan i’r dref yn effeithio ar werth ein cronfeydd pensiwn. Bydd unrhyw un sy’n gwybod beth mae perchnogion y siambrau swyddfa yng nghanol dinas Caerdydd fel arfer yn ei fynnu mewn rhenti blynyddol (am lefel druenus o waith cynnal a chadw, er gwybodaeth), yn gwybod sut mae’r buddiannau masnachol hyn yn gweithio. Maen nhw’n gwybod sut i ymladd yn fudr ac mae ganddynt y coffrau rhyfel yn barod i’r sgarmesau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer ailadeiladu ôl-Covid yn ddiweddar sy’n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu canolfannau gweithio o bell sy’n agosaf i’r cartref. Ar bapur, mae hyn i’w groesawu, ond ni fydd mwy o’r un haeloni rheolaethol, gwladwriaethol drwy awdurdodau lleol neu’r cyrff arferol a noddir gan y Llywodraeth, yn creu gofodau gwirioneddol gymunedol a/neu sy’n eiddo i weithwyr. Yn y brys i wneud rhywbeth ym misoedd olaf tymor y Senedd hwn mae perygl bydd y wladwriaeth yn meddiannu gofod a allai, gyda meithrin gofalgar, addas, helpu cefnogi’r gwaith o adeiladu cymunedau cryf a rhwydweithiau o weithwyr yn gweithio ar draws pob sector.
Dylai hyn gynnwys datblygu gwaith sy’n cynnwys:
- Rhyddhau cyllidebau ar gyfer gwariant i’r hyn sy’n bwysig i weithwyr; os gellid rhoi o £10,000 yn ddi-gwestiwn i berchnogion cyfeiriadau busnes cofrestredig mewn cyfnod o argyfwng, fel y digwyddodd yn gynharach yn y pandemig, yna mae hyn yn bosib gyda’r ewyllys gwleidyddol.
- Gwerthuso sympathetig a hybu cynllunio gofodau newydd.
- Drwy weithio’n driw i egwyddorion datblygu a threfnu cymunedol gyda chymunedau hunan-dewisol, yn cynnwys cymundebau diddordeb, a pheidio â chael eu sodro i ddaearyddiaeth a ddiffiniwyd yn weinyddol.
- Gweithio drwy sefydliadau/rhwydweithiau cymunedau lleol i frocera rhwng y wladwriaeth a chymunedau.
- Digolledu’r costau sy’n ymwneud â hyfforddiant ar ddefnyddio cwmwl TG, diogelu data, a.y.b. i sicrhau nad yw gweithwyr yn torri rhwymedigaeth gyfreithiol yn anfwriadol mewn amgylchiadau cydweithio o’r fath.
- Digolledu cyngorau ynghylch trethi i ofodau a’u cydweithwyr i fod yn effeithlon o ran treth i bawb.
- Comisiynu gofodau cydweithio presennol i gynghori rhai newydd er mwyn annog cysylltiadau cyfoedion.
- Blaenoriaethu’r rhai a weithredir mewn/gan fentrau nid-er-elw a chydweithredol dros y rhai a fydd yn llenwi pocedi datblygwyr eiddo a landlordiaid.
- Darparu benthyciadau di-log cost isel i ofodau i brynu polisïau yswiriant a chynnyrch ariannol eraill mewn swmp i weithwyr.
- Drwy ymrwymo i drosglwyddo gofodau i grwpiau o weithwyr os nad yw’n bosib iddynt eu cynnal o’r cychwyn.
Fel y nododd y cymdeithasegwr Robert Putman, yn dilyn 9/11, parhaodd y galwadau llafar ar draws cymdeithas America – i ganolbwyntiai ar newid y ‘fi’ i roi mwy o bwyslais ar y ‘ni’ – am ryw chwe mis yn unig. Ar yr adeg hon, roedd hen werthoedd polisi tir llosg o elw tymor byr, cystadleurwydd a’r enillydd-yn-cymryd-popeth i gyd wedi ailategu eu hunain. Gellid dadlau bod y pandemig hefyd yn drawma tebyg o ran effaith i 9/11, ac er mwyn cael y ‘normal newydd’, mae arsylwadau Putnam yn awgrymu bod rhaid cynnal yr awydd i’w greu, ac nad yw’n anochel. Ystyriwch, pa mor bwysig y gallai’r gofodau newydd hyn fod, o ran ffurfio gofodau newydd o’r gwaelod i fyny a berchnogir gan y gymuned, er mwyn atgynhyrchu cyfalaf cymdeithasol mewn cyfnod sydd ei daer angen.
Prif lun: Dusty Forge, Trelai gan yr awdur