Ar y 3ydd o Fawrth bydd dadl yn y Senedd ar y galw am ymchwiliad annibynnol i’r safle ar gyfer Canolfan Ganser Felindre. Yma mae Tessa Marshall, ymgyrchydd gydag Achub Dolydd y Gogledd, yn cynnig dadansoddiad manwl o’r hanes diweddar o amgylch y datblygiad, gan amlygu’r angen am ymchwiliad o’r fath a’r problemau dyrys gyda gwleidyddiaeth y genedl sydd yn effeithio pob un ohonom.

Mae Save the Northern Meadows yn grŵp protest cymunedol a ddechreuwyd ym mis Mawrth 2020 i wrthwynebu datblygiad ‘Northern Meadows,’ Lady Cory Field, a’r hen doriad rheilffordd yn Coryton. Mae bioamrywiaeth yr ardal yn anhygoel o ystyried ei fod yn ddinesig; mae’n cynnal rhywogaethau a warchodir fel y draenog, y fronfraith, nadroedd glaswellt, a nadroedd defaid, gan gwmpasu tair ardal warchodedig, ac mae wedi cynnig hafan ddiogel i ni ei mwynhau yn ystod y cloeon mawr.

Sefydlwyd y grwp ar hanes cryf o wrthwynebiad i ddatblygiad y dolydd a ddechreuodd cyn 1995, ac yn fwyaf diweddar gwrthwynebwyd ceisiadau cynllunio a gyflwynwyd yn 2017. Dechreuasom gyda deiseb a grŵp facebook, ac yn awr rydym yn weithgar gyda 3,000 o aelodau yn lobïo Gweinidogion a Chynghorwyr i annog gwrthod datblygu ar y dolydd ar sail amgylcheddol, meddygol, ac economaidd. Rydym yn mynnu bod anghenion y gymuned yn cael eu rhoi yn gyntaf ac mae ein hiechyd, ein lles, a’n hamgylchedd yn cael eu diogelu i ni ac i genedlaethau’r dyfodol. Ond nid yw ein brwydr yn unigryw – mae cymunedau ledled Cymru yn cael eu gorfodi i frwydro yn erbyn datblygiadau – a gyflwynwyd yn aml gan y sector cyhoeddus – a fydd yn niweidio eu hiechyd, eu lles, a’u hamgylcheddau lleol.

Dryswch sy’n Drech

Pan ddechreuodd yr ymgyrch, nid oedd gan bobl yn ein cymuned a ddefnyddiodd y dolydd bob dydd – cerddwyr, teuluoedd, adaryddwyr, loncwyr – unrhyw syniad fod y ddatblygiad am ddechrau yn haf 2020. Mae hyn yn bennaf oherwydd dryswch, a chyfathrebu gwael o fewn y prosesau penderfyniadau ar y lefel leol (Cyngor) a chenedlaethol (y Senedd). Mae caniatâd cynllunio wedi bodoli i osod tai, swyddfeydd ac unedau masnachol ar y dolydd ac Ysbyty’r Eglwys Newydd ers dros 25 mlynedd (cais cynllunio 20/00357/MJR), ac mae wedi cael ei adnewyddu 5 gwaith heb fawr o ymgysylltu â’r gymuned.

Mae’r ganolfan ganser ei hun wedi cael caniatâd cynllunio amlinellol (sy’n golygu bod ‘outline plan’ ar gyfer rhoi rhyw fath o adeilad ar y safle) – ac mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys caniatâd llwyr ar gyfer gwaith galluogi. Mae’r caniatâd llwyr (sy’n golygu bod cynllun a dyluniad llawn wedi’i caniatau) yn cynnwys dwy bont enfawr ar draws yr hen dorriad rheilffordd – gyda’r gwaith adeiladu’n parhau am bron i bedair blynedd. Er gwaethaf y dogfennau cymhleth y gorffennol, eleni, mae’r datblygwyr Transforming Cancer Services (TCS) – sydd â’r dasg o gynllunio dyfodol gofal canser ar gyfer De Ddwyrain Cymru – wedi cyflwyno wyth cais cynllunio yn ymwneud â datblygu’r ddôl.

Cafodd y ceisiadau hyn eu gwthio drwodd heb ymgysylltu’n fanwl â’r gymuned. Dim ond Heol Pendwyallt a gafodd taflen am y diweddariad i ddechrau, ac anwybyddwyd y trigolion sy’n byw yn Ystâd Hollybush sy gyferbyn a’r dolydd a’r torriad rheilffordd. Oherwydd ein gwaith, sicrhawyd cannoedd o sylwadau yn erbyn y ceisiadau hyn. Pe na buasem wedi gwneud  hynny, byddai’r ceisiadau a ‘gwelliannau’ newydd wedi cael eu caniatau, a byddai llawer yn gwbl anymwybodol o’r datblygiad. Newidiodd un cais (20/01110/MJR), yr amserlen ar gyfer defnyddio llwybr mynediad dros dro o naw mis i bedair blynedd, gan roi’r gymuned yng nghanol y gwaith adeiladu.

Dim ond un enghraifft yw hon o gyfarfod cynllunio lle nad yw cynghorwyr yn myfyrio’n wirioneddol ar bryderon y gymuned. Er enghraifft, nodwyd bod y cais newydd yn ceisio cael gwared ar rheiliau warchod ar Heol Pendwyallt i atal beicwyr rhag cael eu wasgu a’u ladd gan gerbydau trwm. Ond roedd y swyddog cynllunio’n gyflym i ddweud fyddent yn cael eu cadw, i gadw’r stryd yn ddiogel i blant Ysgol Gynradd Coryton. Ond methodd â chydnabod y darnau o wal ar hyd y ffordd lle gallai beicwyr gael eu gwasgu’n hawdd, a methodd darparu dewis arall i atal beicwyr rhag cael eu gwasgu. Mae’r ffordd hon – lôn sengl i J32, gyda lôn feicio sy’n diflannu a dim ond un palmant – yn anaddas ar gyfer cerbydau trwm, ac mae yna dagfeydd  rheolaidd â thraffig. Mae’n anniogel ar ddiwrnod da. Bydd presenoldeb cerbydau nwyddau trwm am bedair blynedd yn rhoi cerddwyr, plant a theithwyr ‘heini’ mewn perygl. Ond fe gafodd y cynllun ei ganiatau.

 

Nid NIMBYs mohonom

Yma, rwy’n credu ei bod yn bwysig mynd i’r afael â pham ein bod yn ymgyrchu. Rydym yn aml yn cael ein galw’n NIMBYs am brotestio yn erbyn darn hanfodol o’n seilwaith gofal iechyd.

Rydym yn gwrthod y syniad hyn. Rydym yn poeni am y dolydd oherwydd bod ni’n poeni am le ryfeddol. Mae’r Coed Hir lled-hynafol yn ymestyn allan uwchben camlas Sir Forgannwg, gyda’r hen goed dderw gadarn yn edrych dros yr Afon Taf. Mae’r hen reilffordd ddiwydiannol wedi gweddu i’r dirwedd hon erbyn hyn, ac mae’n ymddangos ei bod yn ymestyn ymlaen am filltiroedd. Mae’r ardal gyfan yn gorlifo gyda choed creclyd ac adar yn canu o’r wawr i’r gwyll. Mae’r ddôl ei hun yn lle agored eang wedi’i orchuddio â glaswelltau, mieiri, eiddew, a choed ifanc yn tyfu, sy’n creu coedwig ifanc ar y ddôl. Mae’r mieri wedi gordyfu’r hen lwybrau ac mae rhai newydd wedi’u troedio gan gerddwyr. Pan gyrhaeddwch y pwynt uchaf, gallwch weld tŵr cloch Ysbyty’r Eglwys Newydd, gyda golygfa ar draws Caerdydd i’r De.

Mae’r gofod yn gofalu am ein hiechyd corfforol a meddyliol, ein lles, ein hamgylchedd, ac yn rhoi mynediad i ni i’n treftadaeth ddiwylliannol leol. Rydym yn cydnabod y gofal hanfodol a ddarperir gan Felindre, sy’n agos at galonnau pob un ohonom ar draws De Ddwyrain Cymru. Ond rydym hefyd yn cefnogi’r corff cynyddol o dystiolaeth feddygol sy’n nodi bydd adeiladu ar y dolydd yn wirioneddol ddrwg i gleifion canser sy’n derbyn gofal yn Felindre, ac yn ddrwg i iechyd corfforol a meddyliol y gymuned. Gallai adeiladu yma roi mwy o bwysau ar y GIG yn y tymor hir.

Mae canser yn glefyd dinistriol sydd wedi effeithio ar bron bob person yng Nghymru. Mae ein haelodau wedi profi canser fel unigolion, o fewn eu teuluoedd, gyda’u ffrindiau, fel mae pawb. Mae’n ddrwg calon gennym am bob claf sy’n cael triniaeth canser yn Felindre ac ar draws De Ddwyrain Cymru, ac i bawb sydd wedi colli teulu oherwydd canser. Rydym yn cynnig ein hundod a’n cefnogaeth i bob meddyg, nyrs a gweithiwr gofal iechyd o fewn y GIG, sydd wedi gweithio’n ddiflino yn ystod argyfyngau covid-19 er mwyn rhoi’r triniaeth gorau i gleifion yn ein cymuned.

Felly cawsom ein brawychu i weld bod £20 miliwn wedi’i wario, £3 miliwn arall wedi’i drosglwyddo ar gyfer 2020, a bydd grant pellach o £26.9 miliwn yn cael ei wario ar y prosiect cyn i’r gwaith ar y ganolfan wirioneddol ddechrau. Mae hyn wedi digwydd tra bod rhai cleifion yn Ne Ddwyrain Cymru yn cael eu gwrthod triniaeth oherwydd y gost. Felly, byddem yn disgwyl i hyn fod yn darparu’r model gofal gorau posibl, yn seiliedig ar ymchwil drylwyr ac ymgysylltu â staff a’r gymuned. Mae’r holl gleifion a staff yn haeddu model meddygol a all sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion a’r amodau gwaith gorau posibl er mwyn sicrhau y gellir darparu’r gofal gorau posibl.

Ac eto, yn haf 2020, cododd 60 o glinigwyr eu llais am y model, ac yr oedd yr adroddiad a ddibynnwyd arni i gyfiawnhau’r dewis o fodel yn ffuglen. Rydym wedi clywed ni wnaeth unrhyw ymgynghoriad digwydd â’r Byrddau Iechyd y tu allan i Felindre – sydd hefyd yn darparu triniaeth canser – ynghylch dyluniad y model. Ac, ar y 14eg o Ionawr 2021, anfonwyd llythyr yn nodi y gallai’r prosiect niweidio pobl De Ddwyrain Cymru i Felindre a’r Gweinidog Iechyd, a lofnodwyd gan 163 uwch glinigwyr. Mae’r model presennol o ganolfan ganser wedi gadael pobl De Ddwyrain Cymru gyda’r canlyniadau tymor byr, canolig, a hir gwaethaf i gleifion canser yn Ewrop.

Cynllunio Gofal Canser

Dechreuodd ein hymgyrch fel ymdrech i achub man gwyrdd anhygoel, ond mae wedi datblygu’n llawer fwy na hynny. Yr ydym yn awr yn sefyll gyda’r clinigwyr sydd wedi cael eu hanwybyddu a’u camgynrychioli gan Felindre a’r bwrdd gweithredol anatebol. Fel cleifion a theulu cleifion, yr ydym yn ddig bod y rhai a oedd yn darparu ein gofal wedi cael eu hanwybyddu a’u dychryn o gyfrannu’u syniadau pan oedd y prosiect yn cael ei gynllunio. Ac yn ogystal â’r pryderon clinigol sylweddol hynny ynglŷn â’r model canolfan ganser, rydym hefyd wedi clywed gan nyrsys, meddygon a meddygon teulu sy’n credu bod y dolydd yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles y pobl leol.

Oherwydd y methiannau difrifol diangen, creodd ein hymgyrch bwysau am ymchwiliad annibynnol i’r dewis o safle y Canolfan Ganser newydd trwy y pwyllgor deisebau. Sicrhaodd hyn Adroddiad Nuffield – nad yw’n ‘adolygiad clinigol annibynnol’ y galwyd amdano gan glinigwyr. Yn wir, hon oedd y feirniadaeth allanol gyntaf o’r prosiect sydd wedi bod ar waith ers dros ddeng mlynedd. Yn ddiweddar, trydarodd Tom Crosby – arweinydd clinigol y prosiect – yn gofyn i glinigwyr beth byddent am gael ar gyfer dyfodol gofal canser pe na bai’r gost yn gwestiwn, ac yn dathlu’r cydweithio rhwng byrddau iechyd. Ac eto, dim ond o ganlyniad i’n deiseb dechreuodd y cydweithio hwn rhwng Byrddau Iechyd De Dwyrain Cymru. Felly pam mae’r “ymgynghoriad” gwan hwn yn cael ei gynnal nawr – pan fydd contractau adeiladu  yn llythrennol allan i dendr?

Ar ei ffurf bresennol, mae gan y prosiect oblygiadau hirdymor difrifol i’n hiechyd. Bydd unrhyw ymgynghoriad sy’n digwydd yn awr ond yn arwain at chwarae ar yr ymylon, pan mae angen ailwampio’r holl beth yn llwyr. Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw graffu. Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ar draws dwy lefel o Lywodraeth (Cyngor Caerdydd, y Senedd) a phum corff cyhoeddus. Dylai’r penderfyniadau hyn ymwneud â rhoi’r cyhoedd a’n hanghenion yn gyntaf. Ond mae’r gymuned, yr amgylchedd, y clinigwyr sy’n darparu’r gofal, a bron i unrhyw un tu allan i’r ystafelloedd pwyllgor yn cael eu gwthio i’r ymylon a’u hanwybyddu.

Mae wir gennym frwydr ar ein dwylo.

 

Llythyren y Gyfraith

Lleolir y dolydd ar ffin yr M4 a Chyffordd 32 i’r gogledd/gogledd orllewin, Ystâd Hollybush i’r gogledd-ddwyrain, Ysbyty’r Eglwys Newydd i’r de-ddwyrain a Gwarchodfa Natur Leol Morgannwg i’r de-orllewin. Mae’r ardal yn cadw’r aer lleol yn lân, ac yn darparu hafan fwdlyd, wyllt, werdd i’n cymuned, yn enwedig yn ystod y cloeon mawrion. Mae cysylltiad agos rhwng y gofod a’n treftadaeth leol sy’n deillio o Ysbyty’r Eglwys Newydd, Camlas Morgannwg, a Fferm y Fforest. Y dolydd yw’r unig le ar ol sy’n debyg i’r tir fferm adeiladwyd ein cymuned ni arni. A chyda’r holl fannau cyhoeddus cymunedol ar gau, mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, a’r Byrddau Iechyd wedi nodi troeon bod mannau gwyrdd yn bwysig a dylem fod yn archwilio a defnyddio ein hardaloedd gwyrdd lleol.

Ariennir datblygiad y dolydd yn rhannol gan Grantiau Llywodraeth Cymru a’r MIM (Model Buddsoddi Cydfuddiannol/Mutual Investment Model) (sydd eisoes yn enwog) a ddylanwadwyd gan Mark Drakeford. Bydd yr arian yn dinistrio gofod hygyrch, gwyllt, lled-wledig, gan droi’r ardal yn ofod trefol yn barhaol. Bydd traean o ardal y warchodfa natur leol (LNR), safle o bwys ar gyfer cadwraeth natur (SINC), a ffin o safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI) yn cael ei effeithio a’i ddinistrio. Mae’r categoreiddio hyn i fod i ddiogelu mannau gwyrdd, agored, bioamrywiol; ac fe’u cefnogir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd. Dywedir wrthym y bydd y Ddeddf yn arwain at ddiogelu’r amgylchedd ledled Cymru, ond mae’r cyfreithiau wedi methu ag amddiffyn ein mannau bioamrywiol yn y ffordd y mae angen yn sgil datganiad o ‘argyfwng hinsawdd’.

Yn y dolydd, yng Nghaerdydd, ac ar draws De Cymru nid ydym yn teimlo effeithiau’r rheolau hyn. Prin mae’r system leol a chenedlaethol yn cydnabod, heb sôn am ddefnyddio’r amddiffyniadau amgylcheddol sydd wedi’u hymgorffori yn y Gyfraith Gymreig a Rhyngwladol ers blynyddoedd. Ni fydd y rheoliadau hyn yn dechrau ein helpu oherwydd geiriau fel ‘gyda golwg ar’, ‘rhoi sylw dyledus’, neu ‘ystyried’ yr amgylchedd. Mae’n rhaid i gynllunwyr, gwleidyddion, swyddogion gweithredol ar fyrddau iechyd feddwl am yr amgylchedd, meddwl am ‘liniaru’, ac mae cynlluniau’n cael eu chwifio drwodd gan gynllunwyr, cynghorwyr a gweinidogion. Mae’r datblygwyr hyn hefyd yn cael y fantais o adeiladu mewn anialwch rheoleiddiol, lle mae swyddfeydd gorfodi dan bwysau oherwydd degawd o lymder a llywodraeth yn San Steffan, sy’n ystyried rheoleiddio’n rhwystr i gynnydd. At ei gilydd, mae’r cyrff cyhoeddus yn adweithio i’w gilydd heb orfod esbonio’r cynllun i’r cyhoedd mewn gwirionedd ac eithrio cadarnhau dylem fod o blaid ac maent yn gwybod orau. Mae hyn yn golygu bod ein cymunedau, iechyd, lles, coed, cyrsiau dŵr, aer a bioamrywiaeth yn dioddef.

Er bod y cynllun ar gyfer y dolydd ac Ysbyty’r Eglwys Newydd yn cael ei gynllunio gan ddau Fwrdd Iechyd, nid ydynt yn adlewyrchu ‘nodau llesiant’, cynaliadwyedd nac unrhyw egwyddorion iechyd cymunedol. Er bod y ddeddf lles wedi’i chymhwyso yn ôl yr ymgeiswyr, anwybyddwyd llais y gymuned a’r gweithiwr ar bob tro. Nid yw’r prosiect yn mynd i’r afael â’r anghenion sydd gennym mewn gwirionedd – fel y ffaith bod gan Dde-ddwyrain Cymru rai o’r canlyniadau canser gwaethaf yn y DU, yr angen i ehangu ymchwil ac addysgu, a’r argyfyngau amgylcheddol, corfforol ac iechyd meddwl sydd megis caseg eira yn ystod y pandemig. Nid yw’r anwybodaeth hon o reidrwydd yn syndod ychwaith. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus diwethaf ar raddfa fawr ar gyfer y ganolfan ganser newydd yn 2017. Yn 2018, dywedodd y Prif Swyddog Meddygol Frank Atherton fod yr ymgynghoriad wedi dod i ben gan eu bod ‘o dan yr argraff bod pawb yn cefnogi’r datblygiad.’ Ond yn 2020 casglwyd dau  deiseb gyda 12,0039 a 5,241 o lofnodion, a thros fil o wrthwynebiadau ar draws nifer o geisiadau cynllunio. Dyma awgrymu nad oedd cynlluniau ymgysylltu’r datblygwyr yn ymgysylltu’n ddigonol â’r gymuned. Mae hyn wedi dod yn gliriach wrth i ni ddarganfod y syniad/cynllun ar gyfer gorsaf drenau Canolfan Ganser Felindre y tu ôl i Asda.

Ar Drywydd Arall

Yn ystod ein hymchwil, daeth yn amlwg bod Trafnidiaeth Cymru wedi arolygu’r ardal, sefydliad arall yng Nghymru a roddwyd yn ddiweddar i ddwylo cyhoeddus. Byddai’r orsaf newydd yn rhan o brosiect metro Caerdydd, sy’n ceisio ehangu trafnidiaeth gyhoeddus ar draws De Cymru. Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymgais i gysylltu Caerdydd a gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Ond craffwch rhyw ychydig ac fe welwch chi nad yw’r cynllun o reidrwydd wedi’i wreiddio mewn gwirionedd, ac mae eisoes yn cael ei herio gan gymuned Pentre-poeth oherwydd colled Fferm Gelynis a dôl leol, gan awgrymu dyfodol o ddinistr i’r prosiect sy’n dwyn i gof hanes HS2. Eu ‘gweledigaeth’ yw ymestyn llinell Coryton a’i chysylltu â Ffynnon Taff. Ar hyn o bryd, mae’r trên yn diweddu yn Coryton a Radyr, gan deithio ar hyd llinell pedol o’r Gogledd i ganol y Ddinas, ac yn ôl i Ogledd Caerdydd. Yn Coryton, arferai’r rheilffordd gysylltu â Ffynnon Taf, a byddai’r metro yn cynnig gwasanaeth cylch ar hyd yr hen linell. Cafodd y linell ei dileu yn y 1950au, ac wedi hynny cafodd y toriad rheilffordd ei ddad-ddofi, gan ddod yn hawl tramwy cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae’r torriad yn dangos inni’r union math o ddad-ddofi sydd angen digwydd i hen amgylcheddau diwydiannol i ymladd yr argyfwng bioamrywiaeth.

Ond mae’r hen linell wedi’i chlustnodi fel rhan allweddol o’r metro ac fe’i gwelir ar fapiau a gyhoeddwyd gan TFW. Maent yn ceisio disodli’r rheilffordd ar hyd y toriad, a’i ymestyn i Bentre-poeth, ac yna Ffynnon Taf. Byddai’r linell yn cynnwys parcio a theithio mawr ar Longwood Drive, a gorsaf drenau Canolfan Ganser Felindre, yn ogystal â gwaith enfawr yn newid gorsaf Coryton a Maes Lady Cory. Ni chodwyd hyn erioed gyda’r gymuned, a byddai angen dinistrio’r goedwig drefol sy’n rhedeg o Faes Lady Cory i J32, o dan yr M4 a hyd at Tongwynlais a Ffynnon Taf. Byddai hyn yn niweidio cymunedau Gogledd Caerdydd, a byddai’n effeithio ar wydnwch bioamrywiaeth ar ddwy ochr yr Afon Taf. Er ei bod yn ymddangos ei fod yn mynd i’r afael â’r angen am fwy o drafnidiaeth gyhoeddus, nid yw’n cynnig unrhyw ystyriaeth i sut y bydd ein ffyrdd o fyw a’n patrymau gwaith yn newid ar ôl neu yn ystod y pandemig, na beth sydd wir ei angen ar ardaloedd fel Ystâd Hollybush a Chymoedd de Cymru o’n trafnidiaeth gyhoeddus. Cyhoeddodd Undod erthygl ddiddorol yn cyfeirio at y drafferth gyda’r metro yn 2020. Mewn gwirionedd, os ydym am sicrhau gwydnwch bioamrywiaeth, ni allwn fod yn adeiladu rheilffyrdd drud drwy fannau bioamrywiol, pan allem fod yn archwilio datblygiad ein gwasanaethau bws, tram neu reilffordd ysgafn.

Nid oes gerddi gan dros 250 o bobl leol, ac nid oes lleoedd parcio ar Ystâd Hollybush ychwaith. Mae pobl yma’n byw heb fynediad i’r rhyngrwyd, ac mae unigolion yn byw mewn mannau byw â chymorth, ar draws Ffordd Pendwyallt a’r Ystâd. Mae ysgol gynradd ac ysgol breswyl ar gyfer plant awtistig, sy’n defnyddio’r dolydd ar gyfer ‘ysgolion coedwig’. Mae pob un ohonom yn haeddu mynediad i’n treftadaeth naturiol a diwylliannol gall yr ardal darparu. Ac er bod TCS yn dweud mai dyma fydd yr ‘ysbyty gwyrddaf ym Mhrydain’, does dim ffordd yn y byd bod torri miloedd o goed i lawr, gan adeiladu ar ben LNR a SINC, a gosod dau floc o fflatiau dan flynyddoedd o lwch o waith adeiladu, ac yna teithiau trên rheolaidd dan eu ffenestri, yn ddatblygiad gwyrdd.

Felly rhybudd yw’r penderfyniad i ddinistrio’r dolydd, fod arweinyddiaeth y GIG yng Nghymru yn nwylo pobl sydd wedi ymrwymo i breifateiddio ddarparu gwasanaethau gofal iechyd effeithiol a rhagorol. Mae’n dangos bod y system drafnidiaeth hefyd yn nwylo swyddogion sydd wedi ymrwymo i weledigaeth o greu elw yng Nghaerdydd a De Cymru, ac ymelwa ar weithwyr drwy eu cysylltu â Chaerdydd ac agor Coryton, Pentre-poeth, a’r Cymoedd i foneddigeiddio. Ac mae’n dangos gwendid llwyr y ddeddfwriaeth y honir y bydd yn ein harbed rhag cymunedau anghynaliadwy, afiach a llygredig.

 

Ffordd Sicr o Greu Llanast

Mae angen i’n holl gymunedau gael mynediad at dreftadaeth naturiol a diwylliannol, mae arnom angen y gofal canser gorau posibl, ac mae arnom angen trafnidiaeth gyhoeddus a thai fforddiadwy. Ond bydd prosiect Felindre nid yn unig yn masnacheiddio ein gofal canser drwy ddefnyddio’r model MIM. Bydd yn agor rhan allweddol o’n treftadaeth ddiwylliannol yn yr Eglwys Newydd i foneddigeiddio yn ogystal. Bwriedir i dai, swyddfeydd, ‘unedau manwerthu’, a fflatiau fynd o fewn ac o amgylch ysbyty’r Eglwys Newydd. Mae’r ceisiadau cynllunio diweddar wedi’i gwneud yn glir na fydd y rhain yn unedau tai a manwerthu hygyrch, fforddiadwy a theg sydd eu hangen arnom i gadw ein cymunedau’n fyw. Felly, ynghyd â cholli ein mannau gwyrdd, byddwn yn cael ein gadael gyda chanolfan ganser ddrud yn hyfyw am 10-15 mlynedd yn unig, rheilffordd drwy goedwig hudol, tai executive, ein treftadaeth ddiwylliannol yn cael ei gwerthu ar gyfer fflatiau, ac unedau manwerthu drud sy’n addas ar gyfer masnachfreintiau amlwladol. Darparwyd y cyfan gan grant o £26.9 miliwn gan y Llywodraeth i agor y dolydd i’w datblygu.

Bydd yr holl effeithiau hyn yn digwydd heb hyd yn oed fynd i’r afael â goblygiadau draenio dŵr wyneb o’r safle cyflenwi Melingriffith (ac yna’r Afon Taf), a orlifodd mewn i gartrefi ger y dolydd ym mis Ionawr 2020 ac a ddaeth yn beryglus o agos i wneud yr un peth ym mis Rhagfyr 2020/Ionawr 2021. Nid yw’n mynd i’r afael â’r bygythiadau i ffurf Ysbyty’r Eglwys Newydd na’r Capel rhestredig, diogelwch ar y ffyrdd, llygredd aer, tai fforddiadwy cyfyngedig, na’r ffaith nad yw Gweinidog yr Amgylchedd erioed wedi ymateb i’n hymholiadau. Y gwir amdani yw, pe bai Gweinidogion yn gofalu am genedlaethau’r dyfodol, byddent yn gweithio’n ddiwyd i ysgrifennu a chymhwyso deddfwriaeth effeithiol a allai ddiogelu, rheoli, a gwella natur, cefnogi ac ymgysylltu â chymunedau lleol, a rhoi inni’r gofal canser a’r ymchwil rhagorol, modern yr ydym yn eu haeddu. Prin y bu unrhyw ymgysylltiad gan Weinidogion – gan gofio fod Mark Drakeford, Vaughan Gething, Julie James, Lesley Griffiths, a Julie Morgan oll a rhan mewn gwthio’r prosiect hwn ymlaen.

Y methiannau diri sydd wedi ein difreinio, ein hanwybyddu a’n llethu trwy gynllunio gwleidyddol biwrocrataidd yw’r un ffactorau sy’n achosi colled mannau gwyrdd, boneddigeiddio, tai anfforddiadwy, niwed i’n diwydiant cerddoriaeth leol, dinistrio ein treftadaeth ddiwylliannol, ac adeiladu neuaddau preswyl myfyrwyr anfforddiadwy ledled Caerdydd a De Cymru.  Yn neilltuol, bydd datblygu’r dolydd yn sefydlu De-ddwyrain Cymru fel yr ardal gyda’r canlyniadau canser gwaethaf yn Ewrop, ac yn rhoi terfyn ar y cyfle i Felindre gynhyrchu ymchwil arloesol, sy’n hanfodol ar gyfer hyfforddi radiolegwyr ac oncolegwyr ifanc. Ac yn hytrach na defnyddio Ysbyty’r Eglwys Newydd am rywbeth cadarnhaol – fel amgueddfa (gallai hyd yn oed yr amgueddfa meddygaeth filwrol fynd yma, er nid dyma’r lle i drafod natur wirioneddol ofnadwy’r amgueddfa ei hun) – byddwn yn debygol o weld yr un patrwm o dai tryd wedi’u hadeiladu gan Redrow, ni fydd yn gwneud dim i adlewyrchu hanes yr ardal.

Felly rydym yn pendroni ac yn  gofyn beth yw gwerth lles i Lafur Cymru a’n gwleidyddion? A yw ond yn air ar ddarn o bapur, ar ddisgrifiad swydd newydd, neu flwch arall i’w dicio? Neu ai dyma’r cam ymlaen tuag at gymdeithas lle y gofalir am anghenion dinasyddion, a chaiff eu barn ei glywed gan gynrychiolwyr gwleidyddol wrth wneud penderfyniadau am ddyfodol ein tir a’n cymunedau? Mae’r ymgyrch hon wedi dangos i ni fod pobl Caerdydd am ofalu am eu lles, maent yn poeni am eu milltir sgwar, ac maent am gael dweud eu dweud yn y ffordd mae’r ardal wedi’i chynllunio. Mae’r Cyngor, y Llywodraeth, y Byrddau Iechyd, a’r gwasanaethau trafnidiaeth yn ein hatal yn bendant rhag cymryd rhan adeiladol yn y sgyrsiau hyn. Mae pobl am achub y dolydd a mannau gwyrdd eraill nid yn unig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ond ar gyfer y rhai presennol sy’n eu mwynhau a’u defnyddio fel amwynder cyhoeddus hanfodol ar hyn o bryd. Ni all “lliniaru” gwneud yn iawn am y blynyddoedd o lwch a sŵn safle adeiladu, nac effaith newid hinsawdd sy’n cyflymu bob dydd heb weithredu newid strwythurol, systemig. Bydd ein dinas yn suddo o fewn 30 mlynedd os ydym yn canlyn y llwybr dinistriol hwn. Rhaid inni ddefnyddio pob arf posibl, gan gynnwys cadw mannau gwyrdd a bioamrywiaeth i sicrhau bod gennym gyfle i ymladd dros ddyfodol y ddinas hon.

Nid ydym yn honni bod gennym yr holl atebion, ond mae gennym rai syniadau yn ymwneud â ble i ddechrau. Rydym am i’r Cyngor weithredu gofynion Reclaim Cardiff, y gallwch ddod o hyd iddynt yma, a rhoi saib ar benderfyniadau cynllunio wrth i ni barhau drwy’r pandemig. Rydym am i’r Cynllun Datblygu Lleol newydd, sydd newydd orffen ei gylch cyntaf o ymgynghoriadau, fod yn wirioneddol gynrychioliadol o’r hyn y mae’r bobl ei eisiau. Nid yw hynny’n golygu ymgynghoriadau ffuantus sy’n anwybyddu neu’n ‘lliniaru’ gwrthwynebiadau, ond proses drwyadl o ymgysylltu sy’n gosod anghenion cymunedau uwchlaw cynlluniau datblygwyr. Rydym am weld strategaeth amgylcheddol ar gyfer y ddinas gyfan yn cael ei gweithredu ar unwaith, gan gynnwys diogelu a gwella’r holl fannau gwyrdd yn llwyr, ehangu mannau gwyrdd i ardaloedd sy’n profi amddifadedd amgylcheddol, a phwyslais cyfreithiol ar yr amgylchedd fel mater cynllunio hollbwysig. Ond mae hyn yn mynd y tu hwnt i’r Cynghorau lleol. Os ydym am newid a diogelu ein hamgylchedd o ddifri, mae angen i Lywodraeth Cymru ddiwygio Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd i gynnwys iaith gref i wella gwydnwch, creu, a chynnal a gwella ecosystemau presennol. Yn olaf, mae arnom angen cyrff cyhoeddus sydd yn atebol yn gyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn rhy fach i allu craffu’n ddigonol ar weithredoedd gweision sifil anetholedig sy’n rhedeg cyrff fel Felindre a Thrafnidiaeth Cymru. Ond mae’r cyrff hyn yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth, sy’n golygu bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar brosiectau sydd wedi’u cynllunio’n wael (fel y nVCC a’r metro newydd) pan fydd pobl yng Nghymru wir yn dioddef. Man lleiaf  rydym yn haeddu cynrychiolaeth a gwrandawiad yn y broses o wneud penderfyniadau, a phrosesau gwybodaeth ac ymgysylltu gwirioneddol hygyrch pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud a fydd yn effeithio ar ein gofal iechyd, ein hamgylchedd, trafnidiaeth, yn ogystal â’r ardaloedd lle’r ydym yn byw.

Gwyddom, os ydym am cael gafael ar yr argyfyngau lluosog sy’n wynebu ein gwlad heddiw ac yn y blynyddoedd i ddod, fod angen inni sicrhau bod gofalu am ble yr ydym yn byw wrth galon y broses o wneud penderfyniadau. Dylai gofal fod yn allweddol pan drafodwn gynllunio mannau cymunedol, yr amgylchedd, trafnidiaeth, tai, gofal iechyd, a phob agwedd o lywodraethu. Rhaid inni wrando ar y meddygon a’r aelodau o’r gymuned sy’n dadlau’n angerddol dros ddiogelu mannau gwyrdd, bioamrywiol mewn dinasoedd ac ar draws cefn gwlad, ac nid y cynllunwyr, y cynghorwyr a’r gweinidogion sy’n agor y drws ar gyfer datblygiadau anghynaliadwy, a di-hid yn ein cymunedau. Ac yn y bôn, rhaid ystyried bod safbwyntiau ac anghenion y gymuned yn allweddol i bob datblygiad. Os methwn â dangos gofal am anghenion cymunedau ymhob penderfyniad a wnawn, ni fyddwn yn gallu gofalu am ein hiechyd a’n lles ein hunain, ac ni fyddwn yn gallu ymdopi â’r argyfyngau hinsawdd, bioamrywiaeth, iechyd ac economaidd a wynebwn.

Dysgwch fwy am yr ymgyrch i Achub y Dolydd Gogleddol ar ein gwefan, ar ein tudalen a’n grwp ar facebook, ar instagram, ac ar twitter.

3 ateb ar “Y Frwydr dros Ddolydd y Gogledd: Moeswers y Gymru Gyfoes”

  1. What can I say but its a brilliant synopsis of the whole debacle facing the communities of north Cardiff. In an age of climate change and the wholesale destruction of nature – which will the biggest pandemic of our time if we let it – there really needs to be a serious rethink by the Welsh Government and Cardiff Council. Think globally, Act locally!

  2. I spoke to a Civil Engineer today who told me that Morrisons paid Mowlem Civil Engineering £280,000 to build a carpark at Llanishen It is exactly the same size as the planned carpark on the meadows It is so expensive because interceptors have to be constructed to prevent petroleum products running off the car park surface and polluting the nearby watercourses This whole project would be an environmental disaster being pitched immediately adjacent to the Glamorgan Canal And the civil engineer told me that the planners know that the cost of the project is unsustainable in money terms and potential environmental disasters but that it is Politically Driven with total disregard for any constraints This one party autocratic approach by the Welsh Govt and Cardiff City Council signals the end of local decision making and democracy if it goes unchallenged ……the project will cost half a billion pounds and turn north cardiff into a latter day Chernobyl Believe the blog this will be the white elephant that poisoned the Capital City of Wales !

  3. Erthygl wych, hanfodol. Excellent article that adressed most of the questions. I must admit that NIMBYISM was my initial response to the campaign. I spent a year working at Felindre 4 years ago, and know people who have received cancer care there. One in two of us are now predicted to be diagnosed with a form of cancer in our lifetimes. I hope that supporting campaigns such as Save Northern Meadows will give momentum to shift the narrative from finding cures for cancer towards prevention of cancer.

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.