Ar yr wyneb, mae’r fargen a gyhoeddwyd yr wythnos hon rhwng y ddwy blaid yn cynrychioli toriad go iawn gyda pethau fel y mae nhw. Byddai dod â rheolaethau rhent, capiau ar ail gartrefi a sefydlu cwmnïau newydd sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn golygu toriad dramatig gyda’r syniad mai’r ‘farchnad sy’n gwybod orau’, a bod angen gweithredu uniongyrchol gan y llywodraeth i amddiffyn pobl a chymunedau.

Tra bod Llafur Cymru wedi manteisio ar y rhith o ‘ddŵr coch clir’, y realiti fu llywodraeth sy’n siarad yn radical ond yn gweithredu’n araf. Mae The Welsh Way a gyhoeddwyd yn ddiweddar (gyda nifer o gyfraniadau gan aelodau Undod) wedi dangos yn derfynol mai myth yw fod Cymru yn fwy blaengar na gweddill y Deyrnas Gyfunol.

Mae cinio am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn fuddugoliaeth haeddiannol i gynghrair o ymgyrchwyr cymdeithas sifil sydd wedi gweithio mor galed. Ond ni ddylai unrhyw lywodraeth sosialaidd erioed fod wedi gadael i dlodi bwyd gynyddu dan ei goruchwyliaeth yn y lle cyntaf. Bydd yn costio i’w weithredu, ond yn y bôn nid yw’n herio unrhyw fuddiannau pwerus yng nghymdeithas Cymru.

Dyna pam mae’r cynlluniau ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn ymddangos yn hynod o arwyddocaol. Dyma lle mae’r cytundeb yn gwneud y mwyaf i herio rheol y farchnad, ond yn y rhan fwyaf o feysydd eraill mae’r ymrwymiadau’n amwys a byddai’n hawdd eu gadael i gasglu llwch ym Mae Caerdydd – fel cymaint o addewidion yn y gorffennol.

Cynlluniau i roi cap ar nifer yr ail gartrefi, a defnyddio’r system gynllunio i atal eu lledaeniad yw’r gwir ymrwymiad cyntaf i ddatgan bod pobl a chymunedau o bwys mwy nag elw preifat. Mae hynny’n ei gwneud yn fuddugoliaeth hyd yn oed yn fwy i Gymdeithas yr Iaith a chyfeillion eraill, a chymunedau sydd wedi ymladd yn ddiflino am eu bodolaeth.

Ar raddfa lai, mae hyd yn oed sôn am reolaethau rhent, er eu bod yn wan ar hyn o bryd, yn dyst i grwpiau fel ACORN sydd wedi codi yn ystod y pandemig i drefnu gweithiwyr. Mae cynlluniau ar gyfer strategaeth bwyd cymunedol yn galonogol a gobeithio y byddant yn arwain at gaffael cyhoeddus o fwyd a gynhyrchir yn lleol. Dylai pob ysgol ac ysbyty yng Nghymru fod yn gweini cynnyrch lleol.

Wrth i ffermydd teuluol gael eu prynu ar gyfer gwrthbwyso carbon corfforaethol, mae’r diffyg sôn am ddiwygio tir yn siomedig. Fel y mae Robat Idris wedi amlinellu mewn erthygl ar gyfer Undod, mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd tra’n cryfhau cymunedau gwledig.

I bawb sydd eisiau Cymru sy’n rhoi pobl o flaen elw, dim ond dechrau’r frwydr yw’r fargen hon, nid y diwedd. Mae’n cynrychioli’r amlinelliad gwelwaf o Gymru y tu hwnt i neoryddfrydiaeth y mae’n rhaid i ni ei ymladd gyda’n gilydd er mwyn ei sylweddoli yn llawn. Er mai dim ond annibyniaeth all greu Cymru lle mae ein pobl nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu, mae hwn yn gam i wneud defnydd llawn o’r pwerau sydd gan ein llywodraeth eisoes.

Cyferbynnwch y cytundeb Llafur-Plaid hwn, gyda’r cyhoeddiad neoryddfrydol a wnaed gan Keir Starmer yr wythnos hon. Mae’n amlwg bod awydd yng Nghymru am rywbeth gwell, ac nad yw’r undeb yn cynnig hynny.

Bydd buddiannau pwerus fel undeb y landlordiaid yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal y newid hwn i’n cyfeiriad gwleidyddol, felly mae pentyrru’r pwysau ar wleidyddion i fyny i ni. Rhaid inni ddweud ‘ewch ymhellach’ ‘gwnewch hynny nawr, nid ar ôl ymchwiliad arall eto’ a pheidio â rhoi budd yr amheuaeth iddynt sydd wedi caniatáu cymaint o ddiffyg gweithredu o Fae Caerdydd dros y ddau ddegawd diwethaf.

Byddwn yn gweithio gyda phwy bynnag sydd am fanteisio ar yr agoriad newydd hwn. A byddwn yn mynnu y gweithredu radical sydd ei angen i wireddu gweledigaeth y fargen hon – ymunwch ag Undod heddiw i fod yn rhan ohoni.

Un ateb ar “Y fargen rhwng Llafur a Plaid yw’r amlinelliad gwelwaf o Gymru y tu hwnt i neoryddfrydiaeth”

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.