Bydd y byd yn newid yn llwyr, hyd yn oed i’r rhai ohonom sy’n ei wneud yn fyw … Ond mae’r bobl a’n harweiniodd i’r drychineb yn dal i fod yno. *
Yn ein crynodeb diweddar o’r argyfwng, buom yn tynnu sylw at gyfres o gamsyniadau gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd y gobaith y byddai eu hymdriniaeth o’r sefyllfa yn gwella, gan sicrhau ein bod yn lleihau effeithiau Covid-19 yma yng Nghymru. Yn yr un modd, awgrymwyd bod hyn yn annhebygol o ystyried yr hyn a wyddom am ein diwylliant gwleidyddol. Mater arall a godwyd gennym oedd sut na fu’r lefel angenrheidiol o gwestiynnu na chraffu ar y llywodraeth na gan y cyfryngau – gan awgrymu y byddai dyfydol y llywodraeth a rhai o’i phersonél o leiaf yn bwynt siarad mewn cyd-destunau eraill.
“Bob dydd rydym yn darllen bod nyrsys a meddygon yn marw. Ac mae hynny’n bendant wedi codi braw cynyddol dros y pythefnos diwethaf,”
“Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o’r trawma enbyd y mae ein staff a’n cleifion yn mynd i brofi yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Mae rhywun yn gwybod ei fod yn mynd i bara’ am flynyddoedd – y trawma hwn.”
Anna, Meddyg Iau
Wythnos a mwy ymhellach i mewn i’r argyfwng, ac mae’r tair thema hyn wedi cael eu hamlygu eto fyth. Bu newid o sylwedd o ran craffu gan y cyfryngau wrth i Andy Davies, gohebydd Channel 4 dros Gymru, ymroi gydag egni a chrib man – mewn modd nad ydym yn gyfarwydd ag ef (tystiwch, er enghraifft, i’r clod a diolch a gafodd ar twitter Cymreig). Y stori benodol a ddilynodd gyda brwdfrydedd oedd y tro trychinebus a welodd cam gwag enfawr gan Lywodraeth Cymru, wrth i’r profion – yr oedd, yn ôl pob golwg, wedi’u gwarantu fel rhan allweddol o’i strategaeth – lithro o’u gafael. Mae’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r cwmni Roche yn parhau i fod yn dywyll inni, ond mae’r awgrym bod Llywodraeth San Steffan rhywsut wedi achub y blaen ar y profion hyn yn dangos pa mor ansicr yw ein pwerau, a diffygion dwfn y setliad datganoli – lle mae gwleidyddion a’r cyhoedd fel ei gilydd wedi dod i dderbyn ‘anffawd’ o’r fath fel rhan annatod o’n diwylliant gwleidyddol nychlyd.
Os ydym yn paratoi ar gyfer rhyfel, mae gennym yr holl arian sydd angen gyfer hynny. Ond ble mae’r paratoi ar gyfer hyn? Hynny yw, does gennym ni ddim byd. ‘Dy ni ddim yn derbyn [gynau], ni’n cael ffedogau bach … Maen nhw’n dweud wrthym … bydd yn rhaid i’r mygydau llawfeddygol gwneud y tro … hyd yn oed os ydyn ni’n gweithio o amgylch y cleifion corona.
Rydw i wedi gofyn am brawf yn ddyddiol, wedi crefu.
Becky, Cynorthwyydd Gofal Iechyd
Ni fu ansawdd ein llywodraeth, y craffu ar y cyfryngau, na’n diwylliant gwleidyddol erioed yn dderbyniol, ac mae’r problemau hyn – o ystyried bod cymaint o fywydau yn y fantol yn ystod yr argyfwng hwn – bellach yn faterion moesol dyfnion na ellir eu hanwybyddu bellach fel gemau gwleidyddol neu ddifrod ar hap. Wrth ysgrifennu, mae 351 o bobl wedi marw yng Nghymru o ganlyniad i’r clefyd, gan gynnwys o leiaf dau weithiwr iechyd – sydd wedi cymell ymateb taer, rhwysgredig gan un o’r undebau. Mae natur ddyrys a digymar y sefyllfa sydd ohoni wedi cael amlygu mewn modd pwerus yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf gyda dwy erthygl afaelgar: yn gyntaf, cyfrif alegorïaidd Ted Jackson o anghymhwysedd y llywodraeth, a oedd yn amgyffred ac awgrymu i ni anferthwch y drosedd yn erbyn dynoliaeth a gyflawnwyd yn enw ‘busnes fel arfer’; yn ail, erthygl y Voice yn dwyn tystiolaeth o’r erchyllterau sy’n mynd rhagddi yn ein Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol gyda thystiolaethau gweithwyr rheng flaen. Ni allwn, y cyhoedd yng Nghymru, sefyll yn dawel yn wyneb hyn oll. Ydynt, mae’r Torïaid yn San Steffan wedi sefyll ar blatfform ideolegol a pholisi sydd wedi achosi niwed aruthrol i bawb yn y DU, ond os oedd datganoli a Llywodraeth Lafur Gymreig i olygu unrhyw beth, roedd yn rhaid iddo wneud popeth o fewn ei allu i lywio ar hyd llwybr gwahanol a gweithredu cyn gynted â phosibl.
Rwy’n nyrs staff mewn gofal critigol ac mae ein PPE yn druenus o annigonol. Rwy’n teimlo fel dynes farw ar gerdded.
Margaret, Nyrs
Yng nghanol y trobwll hwn o anghymhwysedd, analluedd a chynllwyn mae’r Gweinidog Iechyd ei hun. Nid yw cynnwrf o ryw fath erioed wedi bod ymhell o’r unigolyn yma, a gafodd ei foment fwyaf enwog wrth gerdded i ffwrdd o gyfweliad ITV Wales dan bwysau ynghylch yr angen am ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd. Mae’n deg dweud, o ystyried peth o’r cwestiynu yn ystod yr wythnosau diwethaf, bod perfformiad arall o’r fath yn ymddangos fel posibilrwydd. Llawer mwy gofidus, fodd bynnag, fu’r petruso ymddangosiadol, y diffyg cyfeiriad, a’r parodrwydd i gael ei gyfeirio’n ddigwestiwn gan Downing Street – fel y manylwyd yn ein sylwebaeth ddiweddar: y fiasco o ran y rygbi a gigs Stereophonics; y diffyg gweithredu cyflym mewn perthynas â’r mudiad torfol i gefn gwlad Cymru; y diffyg enbyd o PPE i’n gweithwyr iechyd rheng flaen. Gofynnwn, yn wir, ble roedd greddf gwleidydd Llafur o Gymru, a ddylai naturiol rhagdybio bod rhybudd iechyd enbyd ynghlwm ag unrhwy bolisi Torïaidd? Pe bai unrhyw un yn amau’r problemau neu gryfder yr ymdeimlad ymysg staff rheng flaen dylid bwrw golwg ar y 1200 o enwau a mwy sydd wedi llofnodi llythyr agored gan weithwyr iechyd proffesiynol at y llywodraeth yn gofyn – ers yr 20fed o Fawrth – am well diogelu (a rhai o’r tystiolaethau torcalonnus a gynigiwyd). Mae straeon llawer mwy arswydus bellach yn dechrau dod i’r amlwg o realiti yr achosion yn ein hysbytai.
Mae angen ffitio ein mygydau. Mae angen profion. Mae angen PPE digonol arnom. Rwy’n nyrs ac mae gen i ddau o blant ifanc. Rwy’n eu rhoi nhw a minnau mewn perygl heb sôn am gleifion os nad oes gennyf y tri pheth sylfaenol hyn i barhau â fy ngwaith trwy gydol yr amser hwn. Rwyf wedi ceisio a threfnu gosod masgiau yn fy amser fy hun wedi gadael nifer o negeseuon ond nid oes unrhyw un wedi dod yn ôl ataf
Laura, Gweithwraig Ofal
Yn ganolog i hyn, a’r hyn sydd bellach wedi dod yn fater o’r pwys mwyaf yr wythnos hon, yw’r diffyg profion ar gyfer staff y GIG – a’r diffyg profion ehangach i’r cyhoedd. Mae cyd-destun ehangach yma y mae’n rhaid ei gydnabod ac mae hynny’n amlygu’r broblem o gynffona i San Steffan, yn hytrach na bod gan y Gweinidog Iechyd yr ewyllys a’r dychymyg i geisio llwybr gwahanol. Adroddir fod rhagdybiaeth ‘imiwnedd y fuches’ wedi’i roi i’r neilltu erbyn hyn; ond nes i ni ddechrau profion wedi’u targedu a’u cyflwyno ar raddfa ddiwydiannol, dyma i bob pwrpas y polisi rydym yn ei ddilyn. Heb brofion o’r fath, yn syml, nid oes gennym y wybodaeth i ddilyn arddull sydd wedi’i dargedu’n well ac sy’n cyd-fynd â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, ac yn hytrach rydym yn defnyddio’r cau lawr a’r pellhau cymdeithasol i arafu (ond nid cwtogi) lledaeniad y clefyd. Hyd yn oed gyda bargen Iechyd Cyhoeddus Lloegr â chwmni Roche, ni fydd eu profion yn cael eu ehangu’n hanner ddigon cyflym nac yn ddigon eang i fabwysiadu polisi sy’n adlewyrchu argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd. Wrth ddilyn Lloegr, gyda dechrau cymharol waeth i’r argyfwng (a chyda gallu profi sydd hyd yn oed yn fwy cyfyngedig oherwydd colli’r fargen) rydym, mae’n ymddangos, yn dilyn yr un polisi a danseiliwyd eisioes, gyda llai fyth o obaith ymarferol o fabwysiadu dull mwy rhesymegol a thrugarog.
Dyna pam rydych chi wedi dod i’r proffesiwn … Gofalu am gleifion. Ac maen nhw’n bobl sydd eich angen chi fwyaf, a chi yw’r rhai a all eu helpu. Wyddoch chi, dyna rydyn ni i gyd yn ei sylweddoli. A dyna pam rydyn ni’n troi lan bob dydd er mwyn gwneud hynny.
Amy, Nyrs
Yn y cyfamser, mae gennym ficrobiolegwyr arbenigol yn ein Prifysgolion gyda’r gallu i gynnal profion nawr yn galaru’r ffaith eu bod nhw wedi cael eu gadael i ‘droedio dŵr’ am dair wythnos. Erbyn hyn ymddengys mai dilyn rhaglen cynhyrchu profion ein hunain yw’r lleiaf gallwn geisio er mwyn atal lledaeniad y clefyd. Rydym yn wynebu argyfwng go iawn, gyda doctoriaid yn ymuno gydag eraill i geisio sicrhau ffynhonnell arall o gyfarpar diogelwch. Ac eto beth fu ymateb ein Gweinidog Iechyd? Ni chafwyd cydnabyddiaeth ei fod wedi gwneud camgymeriadau; ni chafwyd cydnabyddiaeth bod yn rhaid iddo wneud yn well a bod angen newid sylweddol; yn hytrach gwelwyd yr un hen arfer blinedig, rhagweladwy – ac anfaddeuol bellach – a gafwyd eisioes, gan wyro cyfrifoldeb tuag at eraill, byrddau iechyd a meddygon gorbryderus fel ei gilydd.
Mae hyn yn lladd ein pobl. Mae angen ymateb gonest nawr.
Tanya Palmer, Ysgrifennydd UNISON Cymru
Yn 2019, yn dilyn ‘un o’r adroddiadau mwyaf beirniadol a gyhoeddwyd erioed am ofal iechyd yng Nghymru’ ar achos trallodus gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf, bu galwadau iddo ymddiswyddo ar lawr y Senedd. O ystyried ei ymdriniaeth o’r argyfwng, y sefyllfa ofnadwy yr ydym bellach yn ei chael ein hunain ynddi yng Nghymru, rhaid inni ailadrodd yr alwad hon yn awr: rhaid i Vaughan Gething ymddiswyddo. Rhaid inni bwysleisio wrth gwrs bod a wnelo hyn nid yn unig â’i achos unigol. Mae ei gydradd yn San Steffan yn haeddu’r un faint o gystwyo, os nad tipyn mwy. Ond oni bai ein bod ni yng Nghymru yn mabwysiadu’r difrifoldeb a’r parodrwydd i feirniadu yn ein diwylliant gwleidyddol, oni bai ein bod yn tynnu llinell fel dinasyddion Cymreig ac yn mynnu’n well, ac oni bai ein bod yn gweld cyfrifoldeb gwleidyddol yn golygu rhywbeth go iawn byddwn i gyd yn talu’n ddrud – nid yn unig yn ystod yr argyfwng presennol hwn, ond byth byddoedd.
Nid nawr yw’r amser i “gefnogi” yr arweinwyr annwyl…
mas o fywyd cyhoeddus; eu hesgymuno o’n hanes.
I wrote to my AM stating that Vaughan Gething is incompetent and should be sacked and this was after the PPE fiasco before all these other litany of errors . I urge everyone else who has access to email to find the email address of their AM and ask for this dismissal.
I also think the existance of this Welsh Assembly and whether a devolved government is the best way to go should be questioned after this pandemic is over. Its dire performance in the last 20 years and especially in this crisis means this needs to be put back to the Welsh people in a referendum for its abolition and the money saved put directly back into the NHS in Wales and education.