Yn gwbl gywir, mae sylw wedi troi at incwm sylfaenol fel dull o sicrhau diogelwch ariannol yn ystod y pandemig a’r dirwasgiad economaidd dwfn fydd yn ei ganlyn. Yn wyneb y disgwyliad o fywiolaethau drylliedig ac incwm yn diflannu, gwelsom Drysorlys y DU yn rhoi gwarantau i fusnes ar lun 80% o gymhorthdal cyflog, rhyddhad o dreth ac amryw o symiau enfawr arall o arian. Byddai incwm sylfaenol yn achub pobl yn uniongyrchol a mae hyn yn un o ofynion craidd Undod. Mae materion fel sut y mae incwm sylfaenol yn ymwneud â’r sustem lês gymdeithasol yn llai pwysig pan mae’n fesur tymor byr a thros dro (byddai’n cael ei dalu ar ben yr holl daliadau a dderbynir ar hyn o bryd yn yr achos hwn).

Fodd bynnag, mae’n eglur yn y tymor byr na ellir cael at arian ar y raddfa trawsnewidiol hyn heblaw am ar lefel y wladwriaeth Brydeinig. Ac yn hollol lythrennol, gwaherddir Llywodraeth Cymru gan y DU rhag creu taliadau lles cymdeithasol newydd – er y dylid nodi nad ydi Llywodraeth Cymru ddim wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno incwm sylfaenol prun bynnag. Mae’n amlwg fod yn rhaid i ni bwyso i’r sustem lês gael ei datganoli fel y gellir cael chwaneg o enillion yma.

Fel dewis amgen  sydd ar gael yn syth, mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth lawn dros dreth cyngor.  Mae’n rheoli pob agwedd o’r dreth gan gynnwys bandiau, cyfraddau, prisiant eiddo, budd treth cyngor, a chasglu. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru i’w ganmol yn rhannol am newid y sustem orfodaeth er mwyn cael gwared o garcharu am beidio a thalu treth cyngor.

Yn amlwg, bwriad treth cyngor yw cyllido llywodraeth leol.  Dydi’r dreth ddim yn ddelfrydol fel arf cenedlaethol i warchod pobl rhag tlodi.  Ond mewn sefyllfa bandemig fedrwn ni ddim fforddio bod yn anodd ein plesio. Treth cyngor yw’r dreth ddatganoledig unigol sy fwyaf tebygol o gael effaith ar sefyllfa ariannol pobl.  Hefyd, o’i gymharu â threth incwm, mae’n anodd i’r cyfoethog ei osgoi gan ei fod yn dreth ar eiddo.

Mae’r bobl fwyaf bregus un yn cael cymorth efo’r dreth cyngor eisoes wrth gwrs drwy’r sustem Cymorth Treth Cyngor. Ond mae’r dreth yn parhau i rwydo nifer fawr o gartrefi gweithiol, pobl dlawd, yn enwedig y tlawd sy’n gweithio.

Gallai Llywodraeth Cymru gymryd y camau canlynol neu gyfuniad o rai ohonynt ar unwaith. Ymddengys fod sefyllfa’r gylideb yn aneglur ar hyn o bryd. O ran cyd-destun, codwyd swm cyfatebol i tua £100m drwy gasglu (‘ail-flaenoriaethu’) oddi fewn i’r gyllideb Gymreig bresennol. Fedrwn ni ddim costio yr holl awgrymiadau yma heb y math o wybodaeth sy gan weision sifil.  Ond rhaid gwneud rhywbeth.

Gellid defnyddio’r sustem Cymorth Treth Cyngor i roi taliad argyfwng i breswylwyr tai yng Nghymru – un ai fel taliad cyffredinol neu wedi ei gyfyngu i’r preswylwyr tai mwyaf bregus. Cost y sustem bresennol yw £270m.  A fyddai £100m yn gwneud gwahaniaeth trawsnewidiol? Gellid tybio y byddai’n bosibl codi nifer mawr o bobl allan o dalu treth cyngor am, dyweder, chwe mis i flwyddyn.

Byddai atal treth cyngor i’r traean o eiddo sy’n y ddau fand isaf yn costio, yn fras, £500 miliwn. Fodd bynnag, byddai gwneud hyn yn rhyddhau arian arwyddocaol o’r sustem Cymorth Treth Cyngor er mwyn targedu y rhai anghenus yn y bandiau uwch o eiddo.

Gellid diddymu dyledion treth cyngor yng Nghymru, oedd yn £94m yn 2018 yn ôl yr adroddiad hwn. Yn sicr dylid rhoi memorandwm o gyfarwyddyd i bob cyngor lleol i atal pob gorfodaeth ymosodol am y dyfodol gweladwy, a mynd ar ôl treth cyngor sy’n ddyladwy gan yr eiddo bandiau uchaf (mesur amherffaith ond un fyddai ar y cyfan yn dal pobl efo eiddo ac asedau).

Gallai Llywodraeth Cymru flaengar neu radical ystyried rhewi neu leihau biliau treth cyngor ar gyfer pobl benodol mewn cymdeithas – pobl anabl, rhai mathau o bobl hunan-gyflogedig, neu bobl a wnaed yn segur neu sydd wedi cael toriad cyflog o ganlyniad i’r pandemig (byddai rhaid i beth o hyn gael ei hunan-adrodd). Beth am rewi neu atal treth cyngor ar gyfer pawb sy wedi eu cofrestru fel cydgymorthyddion efo un ai eu hawdurdod lleol neu gyda grŵp cymunedol?

Mae treth cyngor yn creu incwm o tua £1.8bn y flwyddyn a thra nad oes gennym y gallu i gostio cynigion penodol yn llawn, yn amlwg dylai fod yn bosib fforddio gweithrediadau wedi eu targedu mewn cyfnod o argyfwng.

Efallai y gelwir y gofynion hyn yn afrealistig. Ond mae’r cloc yn tician, a biliau treth cyngor newydd yn cyrraedd blychau drws a mewnflychau cyfrifiaduron ledled y wlad. Ynghyd a gweithredu ar rentwyr preifat, dyma faes lle y gallai llywodraeth sosialaidd wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, gan ddangos fod hunanlywodraeth yn well i bobl dosbarth gweithiol na rheolaeth San Steffan.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.