Dyma drafodaeth a recordiwyd ar Nos Fercher 18fed Tachwedd 2020.

Dyma ddisgrifiad gwreiddiol y digwyddiad:

O gymunedau bach gwledig i’n trefi a dinasoedd, mae gan Gymru argyfwng tai.

Tra bod adeiladau’n eistedd yn wag, mae pobl yn cael eu thaflu allan ar y strydoedd oherwydd diffyg tai fforddiadwy a’n gwladwriaeth les ddifreintiedig.

Mae eraill yn cael eu prisio allan o’u cymunedau eu hunain wrth i ail gartrefi dominyddu’r farchnad dai, gydag effeithiau trychinebus i’r Gymraeg a’r dosbarth gweithiol.

Mae ail gartrefi a digartrefedd yn ddwy ochr o’r un geiniog.

Mae tai digonol mewn cymunedau ffyniannus yn fraint yng Nghymru, nid yr hawl y dylai fod.

Ymunwch ag Undod a’i ffrindiau am noson o drafod wrth i ni ofyn: Sut ydyn ni’n trwsio’r argyfwng tai yng Nghymru?

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.