Mae’r nos ar ei dywyllaf cyn ddaw’r wawr. Dyma eiriau i’w gofio yn nyfnderoedd argyfwng COVID-19. Wedi’r diwedd disymwth i Brexit a’r dilyw diweddar, mae ymadrodd arall yn neidio i’r meddwl – sef bod pethau drwg yn digwydd mewn trioedd. Mae’r digwyddiad diweddaraf yma, fodd bynnag, o fath arall – anhrefn, ar raddfa Feiblaidd.
Cymorth o fath yw ceisio fframio’r digwyddiadau yma yn nhermau hanesyddol diweddar, yn enwedig mewn perthynas â datgymalu graddol y wladwriaeth Brydeinig. Mae’r bennod bresennol yn un sy’n teimlo fel y weithred olaf ond un, mewn cyfres o hanesion trasig – ac mae’n briodol rhywsut bod y byd yn rhythu arnom mewn arswyd ac anghrediniaeth, wrth i’r llywodraeth pentyrru mwy o ddioddefaint ar ei phobl, trwy’r cyfuniad hwnnw o dwpdra ac anwiredd yr ydym bellach mor gyfarwydd ag ef. Gellir benthyca o waith Anthony Barnett wrth olrhain yr hanesion yma, gan ddechrau gydag ergydion drom Thatcheriaeth ar ein cymunedau dosbarth gweithiol, ac yna meddwl am drychineb polisi tramor Rhyfel Irac a fu mor niweidiol i hunanddelwedd Prydain, cyn troi at y trychineb ariannol a’r llymder dilynol, ac yna hanes y niferoedd sylweddol yna o’r cymunedau rheiny a ddioddefodd ers Thatcher, a ddefnyddiodd Brexit fel modd i daro’n ôl. Mae anallu ein llywodraeth i ymdopi â’r trychineb sydd ar ddod – a ddallwyd gan yr obsesiwn â Brexit ac sydd yn amlwg awyddus i arddangos eu “rhyddid” newydd trwy wneud pethau’n wahanol – yn crynhoi eironi trasig y Deyrnas Gyfunol erbyn heddiw. Hy, anwybodus ac afiach: hen ddyn dryslyd, sâl Ewrop.
Rhaid cofio, wrth gwrs, fod rhan o’r awydd i wneud pethau’n wahanol ynghylch COVID-19 yn adlewyrchu ideoleg sydd yn dyrchafu’r farchnad; gellir ei ddisgrifio naill ai fel adlewyrchiad o’n diwylliant neoryddfrydol sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ein cymdeithas, ac sy’n rhoi elw o flaen pob dim arall, neu fynegiant efallai o ryddfrydiaeth laissez-faire mwy clasurol y gallai Boris Johnson fod eisiau uniaethu ag ef. Pa un bynnag, mae’r canlyniad yr un peth. Mae wedi cymryd embaras rhyngwladol, a’r sylweddoliad y gall 400,000 farw, er mwyn iddo newid ei gwrs. Ac efallai bydd yna dro yn y gynffon yma, o ystyried y pwerau aruthrol sydd newydd eu trosglwyddo i’r wladwriaeth yn sgil y crochlefau cyhoeddus i weithredu. Efallai y byddai Johnson wedi gobeithio – mewn amrant Churchillaidd – ysbrydoli’r boblogaeth i weithredu mewn ysbryd o undod cenedlaethol, ond ar ôl gwneud gymaint a neb i ddileu unrhyw ymdeimlad gweddilliol o Brydeindod unedig, adeiladol, nid oedd hynny byth yn debygol o ddigwydd. Ac felly rhaid bod ar ein gwyliadwraeth nawr wrth roi sylw i sut y bydd Rhif 10 Downing Street yn ceisio defnyddio’r pwerau newydd hyn – dros bethau fel arestio, cadw a chwarantîn – at eu dibenion eu hunain.
Felly ble mae hyn yn ein gadael ni yng Nghymru? Wel, un agwedd ar y stori na chyfeiriwyd ati uchod oedd digwyddiad seismig datganoli o dan Blair. Nid oedd bryd hynny, ac nid yw bellach yn cael ei ystyried felly (proses, cariad bach, nid digwyddiad). Fodd bynnag, wrth dystio i’r DU yn gwegian o dan straen y datblygiadau y cyfeiriodd Barnett atynt, anodd yw peidio casglu bod y penderfyniad hwn wedi creu’r amodau ar gyfer posibiliadau newydd, a allai, o dan yr amgylchiadau presennol, cynnig rhyw sail am obaith.
Yr hyn sydd wedi bod yn fwyaf siomedig yn ymateb Llywodraeth Cymru hyd yn hyn yw nad yw wedi cyd-fynd â rhagdybiaethau sylfaenol datganoli; nid dim ond y ffaith bod iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg wedi’u datganoli, ond bod y cysyniad o ddatganoli ei hun wedi’i seilio ar y syniad bod Cymru yn gyfundrefn unigryw gyda’i phobl a’i diwylliant gwleidyddol ei hun, sy’n ystyried y byd mewn modd gwahanol, ac sydd â thraddodiadau a phrofiadau gwahanol i alw arnynt. Mae’n ddiawledig o drist bod yr wythnos ddiwethaf hon wedi datblygu gyda stori’r gêm rygbi a’r gigs Stereophonics yn rhoi miloedd mewn perygl, gan adlewyrchu amharodrwydd ar ran y llywodraeth Lafur i gymryd yr awenau a diffinio ymateb a allai fod wedi bod mor wahanol. Yn wahanol i Brydain fel gwladwriaeth, mae gan Gymru atgof byw iawn o undod, cydsefyll ac ysbryd cymunedol a all ein helpu ar adeg fel hon. O ystyried ein bod yn byw mewn byd cenedlaetholgar – hynny yw, un lle mae’r mwyafrif o bobl yn ystyried bod y genedl (neu genhedloedd) yn cynrychioli rhan o’u hunaniaethau cymhleth – onid bellach yw’r amser i ddefnyddio’r grym hwnnw er daioni, a manteisio ar ein hymdeimlad o berthyn er mwyn ymateb ar y cyd? Gall rhethreg o’r fath fod o gymorth wrth greu ewyllys ac ysbryd i’n helpu trwy’r amseroedd anodd hyn, ac annog y syniad o hunanaberth er budd pawb. Gadewch i ni ofalu amdanom ni’n hunain a’n gilydd, a gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol i oroesi orau y gallwn, yn ystod yr amser hwn.
Ac yn y modd yma, rhaid i ni ystyried ein hymateb nawr fel yr hyn bydd yn diffinio ein llwybr yn y dyfodol. Gall y modd yr ydym yn ymdopi â’r drychineb hon fod yn allweddol yn yr hyn sy’n digwydd wedyn. Dywedir yn aml am ryfel bod yn rhaid ei gynnal gyda’r bwriad o sicrhau heddwch cyfiawn, ac er nad yw’r gyfatebiaeth yn un hollol addas, mae’r un ymdeimlad yna, sef bod yn rhaid i ni edrych ar ein gweithredoedd nawr gyda golwg ar natur cymdeithas y dyfodol yr ydym ei eisiau. Oherwydd oddi fewn yr epidemig hwn y mae hanfod newid oesol, yn arbennig gan ei fod yn digwydd ar adeg pan mae angen byd o’r newydd, yn seiliedig ar werthoedd newydd, er mwyn amddiffyn ein hamgylchedd naturiol ac arbed ein hunain rhag gwleidyddiaeth casineb, rhagfarn a hiliaeth sydd wedi wedi lledu fel tân yn y gwyllt.
Ac os bydd rhywun yn edrych amdanynt mewn modd pendant a ffyddiog, mae’n posib dirnad yr arwyddion o’r drefn newydd yn amlygu eu hunain yma; cymunedau sy’n trefnu eto i ofalu am eu hunain, cyfryngau annibynnol radical yn ceisio codi llais, trafodaethau difrifol ynghylch y posibiliadau ar gyfer mesurau fel Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Mae’r awr dywyll iawn hon yn rhybudd olaf na ellir cynnal ein ffordd o fyw hyper-gyfalafol, hyper-fyd-eang a hyper-brynwriol, ac o’r diwedd – i gofio geiriau Gramsci – rhaid i’r newydd cael ei eni.