Rhan o’r gyfres Cam nesaf Cymru

Mae’n bosib eich bod chi’n un sydd wedi gofyn, beth yw’r stori felly?  A myfyrio rhywfaint ar y cwestiwn a holwyd yn lled gyson: ‘Pam?’

Dyma geisio esbonio i chi rai ystyriaethau felly, a dangos pam bod mudiad o’r fath yn angenrheidiol yn y cyfnod sydd ohoni.

Y man cychwyn yw’r angen am fudiad sy’n mynegi’n eglur sut fath o Gymru annibynnol, sosialaidd sydd angen ei datblygu. Lle mae YesCymru ac AUOB Cymru yn fudiadau sydd yn ymgyrchu dros yr egwyddor o annibyniaeth, swyddogaeth Undod yw mynegi posibiliadau yr annibyniaeth honno o safbwynt creu Cymru decach, sydd yn gwarchod y bobl a’r amgylchfyd fel ei gilydd.

Ymateb cynifer sydd yn ystyried y cwestiwn o annibyniaeth i Gymru, yw gofyn sut byddai’n newid pethau. Ein gwaith ni yw dangos y posibiliadau sydd i bawb. Nid rhaniad diangen o YesCymru, felly, ond datblygiad naturiol o fudiad sy’n aeddfedu; edrychwn tua’r gogledd a ffyniant mudiad yr Alban trwy grwpiau niferus, yn eu plith Radical Independence .

Bydd rhai efallai am fynnu bod gweithgaredd o’r fath yn gallu digwydd o fewn ein pleidiau, gan fod Plaid Cymru erioed wedi cynnwys y chwith cenedlaetholgar, tra bod canran helaeth o bleidleisiwyr y Blaid Lafur erbyn hyn yn mynegi cefnogaeth dros annibyniaeth, a’r grwp Llafur dros Annibyniaeth yn cynrychioli aelodau o’r anian hynny.

Un ateb, wrth gwrs, yw bod y pleidiau cyfansawdd yma yn aml yn gwanhau neu neilltuo’r dadleuon a’r syniadau yma. Ac eto, mae pwysleisio pwysigrwydd pleidiau’n ddealladwy mewn cymdeithas lle rydym wedi tueddu, ar y cyfan, cymryd yn ganiataol mai pleidiau sydd yn ‘gwneud’ gwleidyddiaeth, a bod unrhyw weithgaredd amgen yn digwydd yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.

Diflanodd yn ogystal yr undebau llafur – i raddau helaeth – o’r ymwybod gwleidyddol (er i gyfnod Corbyn eu llusgo nôl rhyw fymryn, a’r argyfwng hwn rhoi llais iddynt). Ac ar wahân i eithriad y mudiad iaith, ychydig iawn o gydnabyddiaeth gyhoeddus a fu o fudiadau yng Nghymru ers tro.

Ond diolch yn rhannol i YesCymru ac AUOBCymru, a’n cyfryngau amgen eginol, mae’n siwr eich bod chi wedi sylwi bod hynny yn dechrau newid, ac mae hynny’n rhan elfennol o’r newid sydd ei angen.

Ehangu ystyr ‘gwleidyddiaeth’

Mae taer angen codi ymwybyddiaeth ynglyn â sut mae gwleidyddiaeth yn digwydd ym mhob agwedd o’n cymdeithas, ym mywyd pob dydd pob un ohonoch – o’r cartref i sefydliadau rhyngwladol pellenig. At ei gilydd, rydym yn llai ymwybodol na chenedlaethau gynt ynghylch sut mae gwleidyddiaeth cenedl yn cael ei heffeithio gan bob math o ddatblygiadau, nid dim ond datblygiadau’r pleidiau gwleidyddol.

Nid damwain mohoni: dyma ganlyniad Thatcheriaeth a bwriad pwrpasol diwylliant gwleidyddol ‘proffesiynol’ sydd wedi ein harwain i anghofio bod modd dylanwadu . Dyma adlewyrchu’r ffordd mae ein cymdeithas ddinesig (civil society) wedi pellhau oddi wrth gwleidyddiaeth y pleidiau. Prinach o lawer yw’r cysylltiadau organig rhwng proffesiynoldeb a strwythyrau pleidiau a bywydau pob dydd pobl.

Er mwyn i ni gael y cyfle i sicrhau’r dylanwad felly, mae angen i ni ddeall sut mae grym gwleidyddol yn gweithio, a sut mae agweddau pobl yn cael eu llunio. Mae’r diwylliant cyfoes o ddiffyg trafodaeth ddeallus wedi arwain at ddiffyg parch at unigolion a rhannau eang o gymdeithas. Mae slogan tri gair wedi di-orseddu rhesymeg. Felly mae angen galluogi ein gilydd i feddwl mewn termau gwahanol. Tasg Undod yn rhannol yw gwneud hynny, gan gysylltu’r dotiau o’n cwmpas fel bod modd deall yr hyn sy’n ein wynebu.

Gwendid difrifol yw’r diwylliant hwn, wrth gwrs – tu hwnt i ystyriaethau’r mudiad dros annibyniaeth. Wrth i rywun ymddiddori’n gynyddol yn ein gwleidyddiaeth, daw yn fwyfwy ymwybodol bod ein cyhoeddfa (public sphere) – y gofod yna lle mae syniadau cymdeithas yn treiddio’r sefydliad gwleidyddol ac yn dylanwadau arni – yn eiddil ac aneffeithiol dros ben. Yr enghraifft amlycaf i bawb yw’r diffyg cyfryngau Cymreig dylanwadol sydd yn cyfathrebu i, ac yn adelwyrchu trwch ein poblogaeth – cyfryngau gallasai arwain sgyrsiau cenedlaethol (ac y mae Llywodraeth Cymru yn dyheu amdani nawr er iddynt treulio’r 20 mlynedd diwethaf yn anwybyddu’r alwad i ddatganoli darlledu).

Felly, mae mudiad gwleidyddol arall, un sydd a’r bwriad o ddenu pobl o bob cefndir, sy’n anelu at weithredu a chyfrannu ar lefel y gymuned, ac sydd a’r gobaith o weithredu nawr er mwyn creu Cymru’r ddyfodol, yn ddatblygiad sydd yn gallu helpu ymateb i’r galw mawr o fewn ein cymdeithas gyfoes.

Y llwybr i annibyniaeth

Rhaid ystyried yn benodol wrth gwrs sut y gall mudiad arall gyfrannu at y nod o symud Cymru tuag annibyniaeth – mewn cenedl sydd wedi bod yn simsan ar y gore o safbwynt yr egwyddor o ymreolaeth. Mae’n addas i ni edrych ar y newidiadau gwleidyddol yn Catalunya ac i raddau llai yn yr Alban, lle mae’r gymdeithas ddinesig wedi bod ar flaen y gad.

O safbwynt gwthio a datblygu agenda annibyniaeth, yr hyn oedd yn nodedig yn achos Catalunya oedd dylanwad mudiadau llawr gwlad, yn groes i’r patrwm traddodiadol o bleidiau yn arwain y ffordd. Gwelwyd elfen gref o hynny yn yr Alban hefyd, er bod yr SNP wedi rhoi annibyniaeth ar yr agenda trwy ei maniffesto: wrth i’r refferendwm agosai, blodeuodd mudiad annibyniaeth a thrawsnewidiwyd y disgwrs gwleidyddol. Daeth daioni o’r refferendwm o safbwynt diwylliant gwleidyddol ehangach y wlad – a ddylanwadodd mae’n siwr ar ansawdd y drafodaeth ynghylch Brecsut (ydych chi’n cofio hwnnw?).

Yn Catalunya gwyrdrowyd y patrwm arferol yn gyfan gwbl wrth i bleidiau o bob lliw ymateb i’r ymchwydd mewn gweithgaredd ac mewn ymgyrchu. Yn achos gwlad fel Cymru, lle mae’r grym gwleidyddol traddodiadol yn un sydd wedi ei rwymo (hyd yn hyn) i’r Undeb a San Steffan, a lle mae’r mecanwaith ar gyfer dylanwadu ar y grym hwnnw heb ei ddatblygu ddigon, mae’r gwaith am fod yn anos.

Ac eto, mae’r argyfwng sydd ohoni (y mae Covid-19 dim ond yn bennod arall ohono) – a dioddefaint cynyddol cymunedau ledled y wlad – wedi creu’r amodau angenrheidiol ar gyfer newid. O dan yr amgylchiadau, yr hyn all newid y sefyllfa o ddifri yw corws o leisiau o du allan i’r sefydliad gwleidyddol – er mwyn hyrwyddo’r angen a’r dyhead am newid.

Pwysigrwydd mudiad

Ennill grym trwy’r broses gyfansoddiadol (pleidleisio, etholiadau, sefydliadau llywodraeth lleol a chenedlaethol) yw bwriad pleidiau; trawsnewid yr hinsawdd wleidyddol trwy weithgaredd mewn cymunedau a sefydliadau yw bwriad mudiad.

Yn naturiol ddigon byddai disgwyl gorgyffwrdd rhwng dau endid o’r fath, ond tra bod y naill yn canolbwyntio ar ddwyn perswâd ar yr etholaeth i bleidleisio drostynt, mae’r llall yn rhydd i ymroi yn gyfan gwbl i’r egwyddorion a’r delfrydau sydd yn ei gyrru.

Ceir deinameg tra gwahanol rhwng plaid – sy’n teimlo’r pwysau i ymateb i hinsawdd y realiti gwleidyddol cyfredol ac sy’n cael ei chyfyngu o’r herwydd yn ei pholisïau a’i gweithredoedd – a mudiad nad yw’n anelu i ennill pleidleisiau ond sydd â’r rhyddid i hybu ei egwyddorion yn ddigyfaddawd, gan geisio trawsnewid y sefyllfa wleidyddol. Ymhellach, lle mae Plaid yn naturiol canolbwytnio ar ymgyrchu i ennill pleidleisau, mae mudiad fel Undod yn anelu at newid amgylchiadau mewn cymunedau lleol. Nid mewn Senedd a sefydliadau ffurfiol eraill fel Cynghorau yn unig mae gwleidyddiaeth yn digwydd. Mae yn y bwyd ar y bwrdd, y to uwch dy ben, a’r gwaith ti’n ei wneud. Ac yn niffyg y pethau hynny.

Yn y cyswllt hwn, mae pwyslais Undod ar wynebu’r heriau mae cymunedau’n wynebu nawr yn hollbwyig, yn ogystal a’r angen, wrth ddychmygu Cymru o’r newydd, i geisio dylanwadu er gwell. Gyda dwy blaid honedig flaengar yn y Senedd, ac un ohonynt â’i dwylo ar rym yno ers y cychwyn, mae yna le i graffu a beirniadu o’r tu allan a chynyddu uchelgais, gan bwysleisio’r posibiliadau radical bob tro. Dyma yw ein bwriad yn y misoedd nesaf wrth i ni geisio adfer Cymru yn wyneb Covid-19.

Dyfod yr awr

Wrth ystyried y foment hanesyddol rydym yn byw trwyddi, creu delweddau trawsnewidiol o Gymru sydd o’r pwys mwyaf – a thrafod hyd yr eithaf yr hyn sy’n bosib. Nid dim ond er mwyn dylanwadu ar bleidiau ond er mwyn cynnig gobaith a delfryd i’r gymdeithas ehangach.

Mae hi’n amser peryglus, arswydus; ni wyddom eto natur yr hyn sydd i ddod, ond fe wyddom ddigon i gydnabod – yn wyneb cyfuniad o Covid-19, natur loerig Brecsut, yr hinsawdd eithafol anoddefgar mae wedi ennyn, a phen llanw neoryddfrydiaeth a pholisi llymder – bod tanchwa’n bosib. Ar ben y cwbl mae’r argyfwng newid hinsawdd.

Mae’n gynyddol amlwg i’r mwyafrif ohonom fod hyn i gyd wedi cysylltu gyda chyfalafiaeth eithafol, a fod y gelyn hwnnw i’n lles bellach wedi ei gornelu gan fynydd o dystiolaeth ddamniol – a’r argyfwng hinsawdd yn bennaf oll, un sydd wedi’i yrru gan y prynu a threulio sydd wrth galon cyfalafiaeth. Ond gelyn peryglus yw un sy wedi ei gornelu, a bydd yn fodlon gwneud unrhyw beth i gadw cyfoeth yn nwylo yr ychydig breintiedig.

Gramsci

Gellir deall trwy syniadau y Sardinwr Antonio Gramsci beth yw posibiliadau ond hefyd peryglon y fath gyfnod, wrth i’r realiti gwleidyddol amlygu ei hun i gymdeithas; mae Covid-19 yn dinoethi agwedd gwbl erchyll y Toriaid a’r Wladwriaeth Brydeinig i’r dosbarth gweithiol a’r Cymry.

Ond, roedd ei edmygydd mwyaf yma yng Nghymru a ysbrydolwyd gymaint ganddo – yr hanesydd Gwyn Alf Williams – yn pwysleisio’r angen am fudiad torfol er mwyn herio’r grym hegemonaidd (dominyddol, hollbresennol): un i ‘wasanaethu’, i ‘ryddhau a chlirio llwybr’, un y byddai Gramsci, ‘ pe bai wedi bod yn Gymro, wedi ei alw’n werin yn ymdrechu i sicrhau ei gweriniaeth .’

Mae angen y gobaith a’r weledigaeth yna nawr. Mae angen llwybr clir o’n blaenau. Gwyddwn ar sail hanes yr hyn sy’n digwydd i bobl dan warchae ac o dan straen pan nad oes gobaith. Mewn gwahanol gyfnodau yn y gorffennol, bu delfryd ar gael i alluogi’r Cymry, chwedl Gwyn Alf ac Emyr Humphreys, i ail-greu eu hunain. Dyna’r math o adferiad sydd angen arnom.

Mewn amgylchiadau o’r fath y mae cynnig gweledigaeth ymarferol, fanwl ar gyfer Cymru amgen, a gweithio nawr i’w gwireddu, yn gwbl angenrheidiol – gweledigaeth sydd hefyd yn cynnig balm i’r enaid ac ysgogiad i’r ysbryd, ac un sydd, uwchlaw pob dim, yn pwysleisio mai cariad a thrugaredd sydd yn drech.

Gofynnwch i chi felly myfyrio ar yr uchod, ystyried ymuno gyda’r achos, a chyfrannu at yr ymdrech i newid Cymru – a’r byd – er gwell.

Join Undod

Llun Rali Caernarfon 2019 gan Dafydd Owen

GIF gan Tad Davies

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.