Mae’r canlynol yn cyflwyno’r achos dros ddull radical o daclo’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru, ac yn gwahodd cyfraniadau gan aelodau Undod i archwilio pynciau perthnasol mewn rhagor o fanylder.
Mae’r argyfwng go iawn ar y gorwel…
A ninnau yng nghanol pandemig byd-eang, hawdd yw anghofio ein bod ni hefyd yng nghrafangau argyfwng llawer mwy. Mae helynt yr hinsawdd a chwymp ecolegol yn fygythiad marwol i bob agwedd ar fywyd ar y ddaear, a bydd y tarfu rydyn ni’n ei brofi ar hyn o bryd yn bitw o’i gymharu.
Ond fel yn achos argyfwng Covid19, mae angen cadw persbectif. I lawer o bobl, mae effeithiau bob dydd y cwymp ecolegol sy’n datblygu yn dal i fod yn amlwg. Yn achos cymunedau’r de, cyflwynwyd y cyfyngiadau symud bron yn syth ar ôl llifogydd catastroffig a berodd i lawer o bobl ddod yn ddi-gartref, a hynny ar adeg pan oedden ni i gyd yn cael ein hannog i ‘aros gartre’ – ac wrth gwrs mae’r union un cymunedau wedi dioddef dilyw arall.
Felly hefyd yng ngweddill y byd, mae trychinebau sy’n ymwneud â’r hinsawdd a’u heffeithiau anghyfartal ar y byd yn dod yn haenau ar ben heriau Covid19 – fel seiclon Amphan ym Mae Bengal, sy’n ein hatgoffa mai cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd. Ar yr un pryd, mae cyfoeth biliwnyddion y byd wedi cynyddu £434 biliwn hyd yma yn ystod y cyfyngiadau symud, sy’n dangos i sicrwydd nad ydyn ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd yn y sefyllfa yma.
Nid yw’r cysylltiadau rhwng y pandemig presennol ac achosion gwaelodol ein hargyfwng amgylcheddol byd-eang yn anodd eu gweld – gydag economi draphoeth fyd-eang wedi’i phweru gan gyfalafiaeth neoryddfrydol ddi-reolaeth, dim ond y diweddaraf o blith llu o glefydau trosglwyddadwy iawn yw Covid19, ac ni allwn ond disgwyl mwy.
Mae’n rhaid ni hefyd oedi i ystyried bod taclo newid hinsawdd a’r argyfwng ecolegol yn mynd law yn llaw â’r angen i daclo hiliaeth systemig yn ein cymdeithas; pwnc enbyd sydd wedi ffrwydo i’r brif ffrwd ers llofruddiaeth George Floyd ym Minneapolis. Dyma ddwy ochr yr un geiniog ymelwol. Mae newid hinsawdd yn ganlyniad i oruchafiaeth wen – system gymdeithasol ac economaidd sy’n trin rhai cymunedau a phobl fel rhai y gellid eu haberthu neu taflu i’r neilltu. Rhaid i ni amlygu’r cysylltiad hwn wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli natur – mae angen i’r drafodaeth a’r polisi yng Nghymru amlygu’r cysylltiad rhwng mynd i’r afael ag ymelwa yn ei holl ffurfiau.
Er bod Covid19 wedi llwyddo i raddau i atal y brynwriaeth a’r gorsymudedd sy’n sail i gyfalafiaeth (gan drosglwyddo elw i freichiau agored Jeff Bezos), mae’n hollol angenrheidiol ein bod ni’n rhwystro cyfeiriad yr hyn sy’n dod nesaf er mwyn atal fersiwn fwy eithafol o “fusnes fel arfer”. Wrth i siopau ailagor ac fe’n hanogir i siopa’n hyderus. Mae Llywodraeth Cymru wedi benthyca’r dyfyniad “Ailgodi’n Gryfach” yn eu hymgynghoriad ar y camau nesaf. Cyn i ni ailgodi, mae angen i ni gwestiynu’r rhagdybiaethau pydredig y mae ein heconomi’n seiliedig arnyn nhw – gan gynnwys yr hiliaeth a’r rhywiaeth gynhenid sy’n bwtresi’r gymdeithas gyfalafol – oherwydd heb gwestiynu’r model economaidd sylfaenol, mae ‘cryfach’ bob amser yn golygu ‘mwy’, a hynny ar draul rhywun arall, yn ogystal â’r blaned.
Does dim dychwelyd i ‘normal’
Ymhlith y galwadau am adferiad gwyrdd, mae angen i ni gadw’r pwysau am ddull sy’n wirioneddol radical, neu fel arall bydd gweithredu defnyddiol ar newid hinsawdd yn cael ei golli yng ngeiriau gwag ‘cyfalafiaeth werdd’. Heb fawr ddim amser ar ôl i osgoi trychineb llwyr, a phwysau enfawr i ‘gael yr economi i symud’, mae perygl y bydd yr ieithwedd bresennol yn gosod yr angen i weithredu ar yr hinsawdd yn erbyn yr angen am dwf, yn hytrach na meithrin ieithwedd adferiad teg sydd o fudd cyfartal i bawb. Gyda’r dethol rai yn straffaglu i achub cyfalafiaeth ymelwol a sicrhau bod yr anfoneb am wariant y wladwriaeth ar Covid19 yn mynd i aelodau tlotaf y gymdeithas, bydd hi hefyd yn hanfodol ein bod ni’n brwydro am system drethu deg – mae digon o arian i ariannu polisïau ecogyfeillgar ynghyd â gwasanaethau cyhoeddus, ond dim ond os yw’r rhai sy’n dod yn gyfoethog drwy ein system economaidd bresennol sy’n seiliedig ar elw yn talu eu ffordd.
Does dim prinder tystiolaeth i ddangos sut mae’r sefyllfa bresennol yn gadael y blaned a phobl Cymru i lawr. Er enghraifft, mae adroddiad Toesen Cymru gan Oxfam (sy’n seiliedig ar y model Economeg Toesen a luniwyd gan Kate Raworth) yn dangos sut rydyn ni ar ein taflwybr presennol yng Nghymru yn torri drwy o leiaf chwech o naw ffin blanedol (fel newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth ac iechyd y cefnfor) ac yn methu ym mhob un o’r 13 elfen sy’n ffurfio ‘llawr cymdeithasol’ y model ar gyfer poblogaeth Cymru (fel tai, incwm, llywodraethu ac addysg). Mae’n amlwg nad ydy’r sefyllfa bresennol yn gweithio ar gyfer y blaned nac ar gyfer pobl.
Mae argyfyngau’n cynnig cyfleoedd i ail-feddwl mewn modd blaengar, ond ymhlith yr anhrefn mae risgiau enfawr hefyd y bydd pobl yn cymryd mantais ar ran cyfalaf byd-eang a buddiannau breintiedig er mwyn cipio a chamddefnyddio mwy fyth o’n hadnoddau ni i gyd – mae’n ffaith bod hyn yn digwydd nawr. Yn ddiweddar, y pasiodd San Steffan y bil amaethyddiaeth drwodd i Dŷ’r Arglwyddi, gan wrthod derbyn diwygiadau a fyddai wedi diogelu safonau bwyd a ffermio mewn cytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau yn y dyfodol. Mae hyn yn mynd â ni gam yn agosach at ddyfodol o gyw iâr clorinedig, ac mae’n bygwth ein diwydiant ffermio yn uniongyrchol – wele dadleuon disglair Siwan Clark – un o’r rhesymau niferus i frwydro dros annibyniaeth radical i Gymru. Gallwch lofnodi deiseb yn galw am ddiwygio’r bil.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi creu mewnflwch y gallwn ni anfon syniadau iddo.
Dylen ni wthio am ymgysylltiad mwy ystyrlon ac am gynulliad dinasyddion llawn, sy’n cynrychioli ein holl gymunedau (mae hwn yn un o brif ofynion y mudiad hinsawdd Gwrthryfel Difodiant, fel y gwelwyd yn eu gwrthdystiad pellter cymdeithasol ar risiau’r Senedd yr wythnos hon) er mwyn eu galw i gyfrif ar eu datganiad argyfwng hinsawdd. Cynhaliwyd cynulliad dinasyddion yng Nghymru y llynedd, ond erbyn hyn mae angen datblygu’r broses hon ar frys i fod yn fodel o ymwneud gwirioneddol, yn hytrach na llithro’n ôl i ymgynghori mewn ffurflen ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol fel sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau y caiff datrysiadau radical eu gweithredu yn hytrach na’u bod yn ddim ond testun trafod.
Mae’n werth cofio i ni orfod wynebu pandemig byd-eang cyn cyflwyno datrysiad i ddigartrefedd stryd yng Nghaerdydd – mesurau a allai fod wedi’u cyflwyno ar unrhyw adeg gyda’r ewyllys wleidyddol angenrheidiol – mae’r un peth yn wir yn achos taclo newid hinsawdd. Yn 2015, gosododd yr adroddiad Lle Dwfn strategaeth adfywio i Dredegar ar sail egwyddorion yr economi sylfaenol, gan gynnwys cadwyn gyflenwi fwyd leol. Nod y cynigion oedd ‘mynd i’r afael â’r lefelau uchel o dlodi a brofir mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol… gan gydnabod rheidrwydd carbon isel’. Ni weithredwyd argymhellion yr adroddiad, a disgrifiwyd Tredegar yn ddiweddar gan Centre for Towns fel y dref fwyaf difreintiedig ond un yng Nghymru a Lloegr.
Newid cyfeiriad
Felly be allen ni fod yn ei wneud?
Fe gydnabyddir yn helaeth mai’r bobl sydd wedi cyfrannu leiaf at achosi’r broblem fydd yn profi effeithiau mwyaf difrifol newid hinsawdd, a’r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn ne’r byd. Ar yr un pryd, mae’r bwlch rhwng disgwyliad oes y bobl fwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru wedi cynyddu ers 2010, ac mae’r cynnydd mewn disgwyliad oes cyffredinol a welwyd yn ystod y degawdau blaenorol wedi arafu i ddim. Y lle i ddechrau, yn sicr, yw polisïau hinsawdd-gyfeillgar a fydd yn lleihau’r effaith y mae ein ffordd o fyw yn ei chael ar iechyd a lles pobl mewn gwledydd eraill, gan fynd ati ar yr un pryd i daclo’r problemau economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldeb sydd wedi ymwreiddio yng Nghymru. Does dim gwerth i’r gair ‘adferiad’ os nad yw’n lleihau rhai o anghyfiawnderau amlwg yr economi cyn y cyfyngiadau symud. Mae’r polisïau canlynol yn enghreifftiau a allai gael eu hariannu gan system drethu deg, sy’n trethu cyfalaf yn hytrach nag incwm ac sy’n cydnabod darwagiad adnoddau naturiol wrth gynhyrchu elw.
Mae llygredd aer a’r effeithiau niweidiol cysylltiedig ar iechyd yn cydberthyn ag amddifadedd, sy’n golygu mae cymunedau tlotaf Cymru sy’n wynebu’r effeithiau gwaethaf. Mae tlodi trafnidiaeth yn broblem eang yng Nghymru hefyd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Er mwyn sicrhau’r lleihad yn allyriadau carbon trafnidiaeth rydyn ni wedi’i weld yn ystod yr argyfwng Covid, gan wella cyfiawnder trafnidiaeth, dylem drosglwyddo gofod yn ein holl dtrefi a dinasoedd o’r ceir i’r bobl, gan ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gerdded a beicio, ac mae angen trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel, reolaidd a hygyrch ar ein cymunedau gwledig. Y mae Transform Cymru, clymblaid o sefydliadau cynaliadwyedd, wedi creu gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy yng Nghymru.
Mae dros 10% o holl aelwydydd Cymru’n byw mewn tlodi tanwydd. Mae angen trosglwyddo cynhyrchiant ynni i berchnogaeth gymunedol, gan gyflymu datblygiad gwaith cynhyrchu ynni adnewyddadwy graddfa fach, a hynny dan berchnogaeth gydweithredol ac wedi’i reoli gan y cymunedau sy’n ei ddefnyddio. I gyd-fynd â hyn, dylid cael rhaglen raddfa fawr i ddiweddaru tai ledled Cymru at ddibenion effeithlonrwydd ynni, a fyddai hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd. Dylen ni sicrhau bod pob tŷ a gaiff ei adeiladu yn y dyfodol yn glynu at y safonau effeithlonrwydd uchaf (gallen ni fod wedi gwneud hyn flynyddoedd yn ôl, ond plygodd Llafur Cymru i lobi’r diwydiant adeiladu).
Roedd lefelau newyn a diffyg diogeledd bwyd yng Nghymru eisoes yn syfrdanol, gyda dros 14% o bobl Cymru yn rhedeg allan o fwyd cyn iddyn nhw allu fforddio prynu mwy. Mae llawer o hyn o ganlyniad i effeithiau llymder a dirywiad ein system lles, ond dylai sut a ble rydyn ni’n cynhyrchu bwyd fod yn ffocws brys yn ein hadferiad, er mwyn sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd ffres a fforddiadwy, sydd wedi’i dyfu mor lleol â phosib.
Mae diogelu ardaloedd llawer mwy o gynefinoedd naturiol, lleihau erydiad y pridd, ac ail-feddwl gwaith cynllunio defnydd tir yn hanfodol er mwyn gwrthdroi’r tuedd o niwed ecolegol dinistriol a wneir yn enw cyfalafiaeth. Mae cymaint o dystiolaeth o werth bioamrywiaeth a mynediad at natur a gofod gwyrdd i wella iechyd a lleihau effeithiau amddifadedd – mae’n rhaid i ni sicrhau bod gan holl bobl Cymru fynediad at natur, a’u bod yn cael addysg ecoleg gadarn er mwyn i ni allu creu dyfodol lle rydyn ni’n deall sut i fyw ym myd natur a gyda natur, yn hytrach na brwydro yn ei erbyn.
Yr wythnos nesaf, bydd Undod yn gofyn i nifer o gyfranwyr archwilio’r materion yma ymhellach, ond os hoffech gyfrannu blog ar yr hyn ddylai Cymru annibynnol a radical fod yn ei wneud o ran ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaliadwy, amaethyddiaeth, neu bwnc arall yn ymwneud â thaclo cyfiawnder hinsawdd, cysylltwch â ni.
Yng ngeiriau Fred Magdoff, yr awdur ac ecolegydd; ‘Nid yn unig mae economi arall yn bosib, mae’n hanfodol’.
Delwedd: Seiclon Amphan ar 18 Mai 2020, gan Brifysgol Colorado