Aeth 75 mlynedd heibio ers i’r Americanwyr, gyda chytundeb Prydain, ollwng bomiau atomig ar Hiroshima a Nagasaki. Dyma’r tro cyntaf, a hyd yma yr unig dro, i arfau dinistr torfol niwclear gael eu defnyddio. Y gred arferol yw mai hyn arweiniodd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ond ‘roedd Siapan yn barod ar ei gliniau, felly yn ymarferol dod a’r rhyfel yn gynt wnaeth y weithred. ‘Roedd y bomio yn ffordd o ddangos i Rwsia beth allai grym yr UDA ei gyflawni, gan nad oedd gan Rwsia fom niwclear ar y pryd. Arweiniodd hyn at Rwsia yn datblygu arfau tebyg. Dyma ddechrau y Rhyfel Oer. Mae gwaddol y ddwy danchwa enbyd yma yn taflu cysgod enfawr dros pob gwlad yn y byd.

Dathlwyd Diwrnod VE yn swyddogol yma gyda sbloet jingoistaidd, a bydd dathlu diwrnod VJ ar 15fed Awst. Ond tawedog yw’r wladwriaeth am Hiroshima a Nagasaki. Priodol yw i ni adolygu yn fyr hanes arfau niwclear.

Be ddigwyddodd?

Pryderai UDA a Phrydain fod yr Almaen Natsiaidd yn gweithio ar fom niwclear. Cydweithiodd y ddwy wlad a Canada ar Brosiect Manhattan fyddai’n arwain at Hiroshima a Nagasaki. Ddylem ni ddim synnu fod Prydain dan Churchill wedi ceisio arwain y prosiect, ond wrth gwrs ‘roedd gallu y wladwriaeth hon i ariannu unrhyw beth wedi hen ddarfod, a gorfu i Churchill gytuno i reolaeth UDA o’r gwaith. Cofir Robert Oppenheimer, pennaeth Labordy Los Alamos a weithiai ar y prosiect, am ei ddyfyniad o’r hen glasur o’r India, y Bhagavad Gita: “Yn awr fi yw Angau, Distryw Bydoedd”.

Am 8:15 y bore ar 6ed Awst 1945 ymosodwyd ar Hiroshima gyda bom wraniwm math-gwn a lys-enwyd ‘Little Boy’, wedi ei gollwng o’r awyren Enola Gay. Dyma’r arf niwclear cyntaf i’w ddefnyddio erioed. Lladdwyd 20,000 o filwyr a 70,000 i 126,000 o sifiliaid. Ymledodd cwmwl ymbelydrol o ‘ludw angau’ dros ardal eang, gan effeithio mwy o bobl. Dioddefodd llawer o’r rhai a oroesodd y danchwa gan ddatblygu lewcemia tua 4 i 6 mlynedd yn ddiweddarach.

Gollyngwyd y bom plwtoniwm mewnffrwydrol ‘Fat Man’ o’r awyren Bockscar ar Nagasaki ar 9fed Awst 1945. Lladdwyd 39,000 i 80,000 o bobl. Bu farw miloedd lawer yn y misoedd yn dilyn y bomio.

Ildiodd Siapan ar 15fed Awst 1945. ‘Roedd y byd wedi newid, a dynoliaeth efo’r gallu i’w ddileu ei hunan.

Be ddigwyddodd wedyn?

Yn syml, cafwyd ras orffwyll rhwng UDA a Rwsia i gynhyrchu arfau niwclear. Dyma y Rhyfel Oer. ‘Roedd ofn gwirioneddol y gallai rhyfel niwclear ddigwydd. Mae’n debyg mai penllanw’r cyfnod hwn oedd argyfwng Ciwba ym mis Hydref 1962, pan ddaeth y byd o fewn trwch blewyn i gyflafan. Presenoldeb arfau niwclear Rwsia yn Ciwba oedd asgwrn y gynnen. Yn ffodus, daeth UDA dan Kennedy a Rwsia dan Khrushchev i gytundeb, ac arweiniodd hyn at gyfnod o dawelwch cymharol, tan i’r ddwy wlad gynyddu eu harfau rai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Yn raddol datblygodd gwledydd eraill arfau niwclear. Prydain, Ffrainc, India, Pakistan, Gogledd Korea ac (yn answyddogol) Israel. Daeth yr ymadrodd ‘Mutually Assured Destruction’ (MAD) i fodolaeth.

Lle ydan ni erbyn hyn

Gostyngodd y nifer o arfau niwclear o tua 70,000 ar ddiwedd y Rhyfel Oer, a’r amcangyfrif ar ddiwedd 2019 oedd 13,865. Wrth gwrs, mae hyn yn fwy na digon i ddinistrio’r byd. Mae’r arfau cyfoes yn llawer iawn mwy pwerus na’r rhai a ollyngwyd ar Hiroshima a Nagasaki. Mae gan Rwsia 6,500; UDA 6,185; Ffrainc 300; China 290; y Deyrnas Gyfunol 200; Pakistan 150 – 160; India 130 – 140; Israel 80- 90; Gogledd Korea 20 – 30.

Ar hyn o bryd daeth y bygythiad niwclear yn ôl gyda grym nas gwelwyd ers degawdau. Tynnodd Trump ei wlad allan o’r Intermediate-Range Nuclear Forces Treaty rhwng Rwsia a’r UDA. Cytundeb arwyddwyd gan Reagan a Gorbachev oedd hwn, ac arweiniodd at leihau arfau, a chyfnod o dawelwch cymharol.

Mae Trump hefyd wedi tynnu allan o’r cytundeb niwclear efo Iran (cytundeb oedd yn cynnwys Rwsia, China, y DG, Ffrainc a’r Almaen) oedd yn dileu sancsiynau economaidd yn gyfnewid am oruchwyliaeth o safleoedd niwclear sifil y wlad honno. O ganlyniad credir fod Iran wedi dechrau cynhyrchu wraniwm a gyfoethogwyd, ac ofnir y gallai hyn arwain at gynhyrchu arfau niwclear. Mae hyn yn ychwanegu at yr helbulon diddiwedd yn y Dwyrain Canol.

Cefnogir adnewyddu Trident gan Lywodraeth y DG, a gan y Blaid Lafur. UDA sy’n gyfrifol am y taflegryn, tra mae y DG yn rhedeg y llongau tanfor (a yrrir gan beiriant niwclear) ac yn darparu’r pen ffrwydrol. Amcangyfrifir y bydd hyn yn costio £205 biliwn.

Beth am Gymru?

Nid oes arfau niwclear yma. Ond mae ynni niwclear wedi ei gynhyrchu yma yn Wylfa a Trawsfynydd, a bwriad y don gyntaf o atomfeydd oedd i gynhyrchu plwtoniwm ar gyfer arfau niwclear. Mae ynni niwclear yn dal ar yr agenda gwleidyddol, ar waetha’r cysylltiad amlwg sy’n dal i fodoli rhwng niwclear sifil a niwclear milwrol – mae hynny’n bod yma ac yn UDA hefyd.

Yn yr wythdegau ‘roedd Cymru yn swyddogol yn galw ei hun yn ‘Gymru Ddi-Niwclear’. Merched o Gymry sefydlodd wersyll heddwch Comin Greenham i wrthwynebu taflegrau niwclear Cruise yn adeg Thatcher.

Ar y llaw arall yn ôl llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar “Wales and the Bomb” cyfrannodd dros 40 o Gymry at ddatblygu arfau niwclear, a mae sawl gwyddonydd o Gymru yn gweithio yn yr Atomic Weapons Establishment yn Aldermaston heddiw. Mae ymchwil ar arfau niwclear wedi ei wneud ym Mhrifysgolion Cymru, ac yn y cyfnod cynnar gwelwyd Gwaith Dyffryn Rhydymwyn a Gwaith Nicel Mond Clydach yn gysylltiedig â datblygu arfau niwclear.

Beth am ein gwleidyddion?

Cofiwn i Carwyn Jones ar ei liwt ei hun gynnig Cymru fel lle fyddai’n fodlon croesawu llongau tanddwr Trident os y byddent yn gadael yr Alban.

Mae Nia Griffith, oedd yn arfer bod yn wrth-niwclear, bellach yn arddel safbwynt sy’n amddiffyn Trident ers iddi fod yn Weinidog Amddiffyn Cysgodol y Blaid Lafur dan Corbyn. Hon a gyflwynodd Early Day Motion yn 2006 yn cefnogi Cymru Ddi-Niwclear!

Mae Liz Saville Roberts yn gwrthwynebu Trident, ond yn cefnogi adweithydd niwclear yn Nhrawsfynydd ar waetha’r dystiolaeth sy’n cysylltu niwclear sifil a niwclear milwrol.

Cafodd Leanne Wood a Jill Evans eu harestio ar brotest yn erbyn Trident yn Faslane. Mae Jill bellach yn Llywydd CND Cymru.

‘Roedd y diweddar Paul Flynn yn gadarn wrth-niwclear.

Y dyfodol

Mae y cyfnod gwleidyddol ansefydlog presennol yn golygu dyfodol peryclach ac o bosib eithafol o ddinistriol. Polisi swyddogol UDA drwy eu Hadran Ynni yn 2020 yw “adfer gallu sofran America i reoli ei defnydd o’r elfen fwyaf pwerus sy’n bodoli ar y blaned – wraniwm – at ddibenion heddychlon a dibenion amddiffynnol”. Gallwn ddisgwyl i Lywodraeth y DG beidio a gwrthwynebu, yn enwedig o gofio yr angen i sicrhau cytundeb masnach efo’r wlad bwerus honno.

Dengys polisi UDA afael y peiriant milwrol-diwydiannol ar y wlad. Adlewyrchir hynny yma hefyd. Daliwyd undebau llafur ac ardaloedd tlawd yn y rhwyd, gan fod gwaith yn gysylltiedig.

Efallai mai dibwys, ar yr wyneb, fydd unrhyw beth a wnawn ni yng Nghymru. Ond siawns na fedr pob un ohonom ddatgan ein gwrthwynebiad i arfau niwclear? Pwyso ar ein gwleidyddion ar bob lefel. Gwneud iddyn nhw feddwl am y pwnc. A gweithio tuag at adfer y teitl anrhydeddus “Cymru Ddi-Niwclear”. Diflannodd dan bwysau didrugaredd y peiriant milwrol-diwydiannol. Ai dyna mae pobl eisiau go iawn? Fedr Cymru fod yn annibynnol os nad yw’n Gymru Ddi-Niwclear?

Ayumi Fukakusa (Cyfeillion y Ddaear Siapan), Meilyr Tomos (PAWB), Naoto Kan (cyn-brif weinidog Siapan yn ystod trychineb Fukushima), Robat Idris (PAWB), Linda Rogers (PAWB) – llun o ymweliad PAWB â Siapan yn 2018

Nodyn personol

Fel ymgyrchydd gwrth-niwclear ers blynyddoedd fy hun, ‘rwyf wedi cyfarfod â chymaint o bobl dda ac ymroddedig. Un o’r rhai mwyaf nodedig yw merch ifanc o Siapan – Ayumi Fukakusa, gweithwraig efo Cyfeillion y Ddaear, Siapan. Bu yma yng Nghymru sawl gwaith yn ymgyrchu yn erbyn Wylfa B. Trefnodd daith i Siapan i mi ac eraill i weld y llanast amgylcheddol a dynol yn Fukushima, ac i gyfarfod gwleidyddion a’r cyhoedd. Penderfynodd Ayumi ymgyrchu yn erbyn niwclear yn dilyn tanchwa Fukushima, ac am iddi weld y cysylltiad rhwng y drasiedi honno a thrasiedi ei thaid a’i nain. ‘Roeddan nhw wedi goroesi y bom ar Nagasaki.

Gwybodaeth bellach

Llun baner: Cofeb Heddwch, Parc Coffa Hiroshima gan Oilstreet (CC)

2 ateb ar “Hiroshima-Nagasaki 75: gweithio tuag at Gymru ddi-niwclear”

  1. Cymru should commit to phasing out Wylfa and Trawsfynydd forthwith. However, generations of nuclear technologists will be required to protect our country from two decrepit hulks, to begin the process of dismantling the reactors (say, hundreds of years at least) and to utilise advances in health and other fields where nuclear isotopes have safe application. That should be the limit of it. The economic costs of Hinkley Point C should ensure that Wylfa B will not be built. The former will be so expensive to operate, it may not even be fired up. Just another blind alley of the UK government trying to defeat ‘the market’, which firmly favours renewable soft technologies.

    But there is an opportunity for Cymru here. Before long, we won’t be exporting much food and goods. Trade will become a much smaller part of our economy while conventional and unsustainable economic growth will largely cease. We could export Welsh talent in nuclear-decommissioning and assist other countries with their sad nuclear legacies. This is only one sector where a well-educated Cymrian population could work to improve our world. Plenty of scope for that in forestry, biochemistry, agronomy, aquaculture and many other spheres here and abroad.

    A non-nuclear commitment would be a necessary accompaniment to new diplomatic initiatives in support of global disarmament, conflict resolution and peace. Now that would be an independent Cymru we could all be proud of!

    We have a deep heritage to draw from. Though the chapels might have diminished in influence, the pacifists and the peaceniks are still here. Yma o hyd!

    Independence with full sovereignty will be required – no horse trading that allows new rUK reactors on the Dee or the Severn! Independence without sovereignty is worthless. Undod should be clear where we stand – for real independence!

  2. Thanks Neil for your constructive comments.
    In case you’re interested, here are some nuclear, military and peace related articles I wrote for Undod.

    VE Day – and the other realities of war. https://undod.cymru/en/2020/05/07/ve/

    Healthy communities are the basis of our lives
    https://undod.cymru/en/2020/02/06/sail/
    For a fuller analysis by SAIL see https://www.sail.cymru/wp-content/uploads/2020/07/Sail_English.pdf

    Plaid Cymru and nukes – meltdown mentality
    https://undod.cymru/en/2019/10/03/plaid-cymru-niwcs/

    Arms licences for Saudi Arabia illegal says the Court of Appeal – what’s this got to do with Wales?
    https://undod.cymru/en/2019/06/28/arfau/

    And if you don’t want to look at my stuff, please read Angharad Tomos on Epynt.
    Cofiwch Epynt… Is it not high time that the army left the area?
    https://undod.cymru/en/2020/06/28/epynt/

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.