Rai misoedd yn ôl fe ysgrifennodd Angharad Dafis am gau Ysgol Felindre.  Yma mae hi’n myfyrio ar yr hyn ddigwyddodd wedyn, a sut mae stori ysgol bentref yng Nghymru yn dinoethi rhith y Gymru ofalgar, gymunedolaidd, gan amlygu sut yr ydym bellach wedi ein caethiwo o fewn strwythurau neoryddfrydol twyllodrus y wladwriaeth Brydeinig. 

Doeddwn i ddim yn dwlu ar rifyddeg erioed er i mi yn bum mlwydd oed yn ysgol Llanybydder gael llyfr ysgrifennu yn wobr gan Miss Tomos Bonton ‘am wneud symiau mor dda’. Addas hynny rywsut oherwydd llawer gwell gen i yn ddiweddarach oedd chwarae â geiriau fy mamiaith. Roedd hyn yn rhyw fath ar wrthryfel meddal iawn yn erbyn dau riant oedd wrth eu boddau’n cyfri, yn lluosi, yn rhannu ac yn cyflawni pob math o gampau mathemategol rhyfeddol. Tra bo ambell un o ‘nghyfoedion yn yr ysgol uwchradd yn metamorffoseiddio’n bync rocyrs ac yn sefftipineiddio’u cnawd drwy gyfrwng iaith fain y Sex Pistols, fy ffordd ddiniwed i o dorri fy nghwys fy hun oedd ymwrthod â’r llwybr yr oedd fy rhieini wedi ei ddilyn. Dyma’r llwybr a ddaeth â nhw ynghyd yn y lle cyntaf, gan i Mam adael yr ysgol i gael swydd yn y banc yn Aberteifi yn ddwy ar bymtheg oed ar drothwy’r rhyfel pan wnaeth fy nhad ffarwelio yn ei ugeiniau cynnar yn ddisymwth iawn â’r un gweithle i wirfoddoli i wasanaethu er mwyn ymladd ffasgiaeth.

Nid dewis bwriadus oedd gyrfa yn y banc i’r naill na’r llall ond canlyniad amgylchiadau allanol: dirwasgiad y tridegau yn achos fy nhad a phrinder gweithlu yn sgil y rhyfel yn achos fy mam. Ni theimlai ‘nhad y gallai fforddio mynd i astudio yn y brifysgol a swyddi mor brin a phobl ar eu cythlwng, er bod ganddo ddiddordeb ysol mewn hanes a dawn aruthrol i fedru ailadrodd tudalen o werslyfr hanes wedi iddo ei darllen unwaith. Agorodd y rhyfel lwybr gyrfaol i fy mam, a’i gau yn llwyr hefyd ymhen amser. Pwy a ŵyr pa lwybrau y buasent wedi eu dilyn heblaw am y dirwasgiad ar y naill law a’r rhyfel ar y llall?

Pwy a ŵyr chwaith nad eu haberth hwy roddodd i mi’r hamdden i fedru breuddwydio’n foethus braf yn ystod y gwersi Mathemateg yn yr ysgol a difaru wedyn gan fod angen nabod y pwnc tu chwith allan er mwyn ateb cwestiynau arholiad. Fe lwyddais gyda chymorth athro Mathemateg oedd yn ffrind i’r teulu, bendith arno, i gael gradd digon deche yn fy lefel O, ond nid cyn i mi gael fy ngwaradwyddo gerbron y dosbarth cyfan gan yr athrawes bwnc yn Llambed am i mi ddod i ben â chael marciau llawn bron mewn hen bapur arholiad yr oedd fy athro anffurfiol wedi ei gyflwyno i mi fel gwaith cartre.

Gofynnodd yr athrawes i mi a oeddwn wedi gweld y papur eisoes. A’r holl ddosbarth yn rhythu arnaf, gwadu hynny wnes i er mwyn fy ngwarchod fy hun. Yr un athrawes fyddai’n mynd i glapian yn ddiweddarach wrth y prifathro am i ni fel chweched dosbarth yn Llambed rywsut lwyddo i sarhau ei chenedligrwydd hi drwy eistedd i lawr yn ystod canu anthem genedlaethol Lloegr ar ymweliad â’r opera yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd. Serch hynny, mae moesoldeb y dweud celwydd wrthi yn dal i ‘nwysbigo. Ni chwestiynodd hithau ei moesoldeb ei hunan fodd bynnag yn chwydu allan hen bapur swyddogol fel ffug bapur arholiad. Tafluniodd yn hytrach yr holl waradwydd ar ei disgybl annisgwyl o ddisglair, a doedd y ffaith i mi wneud cystal yn y papur arholiad ddim yma nac acw. Roedd y modd y gwnaeth ymdrin â’r sefyllfa yn ddosbarth meistr ar sut na ddylid trin disgyblion.

Roedd cael gwersi Mathemateg un i un a hynny yn y Gymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar anffurfiol yn gweddu’n llawer gwell i mi na derbyn gwybodaeth gan Saesnes ronc am bwnc yr oeddwn yn pellhau fwyfwy oddi wrtho drwy gyfrwng fy ail iaith – iaith yr ystyriwn ei bod yn fy ngormesu y tu allan i glydwch y cartref. Nid rhyw haniaeth wag oedd y gormes hwn – roedd diodde glasenwi am fod yn Gymraes engagée gan gyfoedion yn realiti beunyddiol i mi ers dyddiau’r ysgol gynradd. A doedd dim gwarchodaeth o du’r gyfundrefn addysgol ffurfiol yn yr ysgol honno rhag ymosodiadau o’r fath.

Roedd cofleidio’r Gymraeg felly yn brotest berffaith hefyd yn erbyn trefn addysgol ddieithr oedd yn gwadu i ni blant mewn ardal lle’r oedd mwyafrif llethol y trigolion yn Gymry Cymraeg yr hawl i gael ein haddysg drwy gyfrwng ein mamiaith. Roedd yn brotest yn ogystal yn erbyn yr addysg unllygeidiog a gawn gan brifathro’r ysgol gynradd yn benodol a’i bwyslais dibendraw ar Saesneg a Mathemateg yn y ddwy flynedd olaf cyn ymadael am ysgol gyfun Llambed. Rwy’n cofio gofyn iddo “Plis syr gewn ni wers Hanes neu Ddaearyddieth heddi?” Negyddol oedd yr ateb wrth reswm hyd nes fy mod wedi hen alaru ar yr ysgol gynradd erbyn y diwedd ac yn ysu am gael gadael. Mwynhawn yn fawr y newid a gynigai’r gwersi amgen yn Llambed, er gwaetha’r ffaith mai Saesneg oedd eu cyfrwng: trafod llynnoedd mawrion yr Amerig, a hynodion yr India a Phacistan – cyfandiroedd a gwledydd na chefais y fraint o fynd ar eu cyfyl erioed – hyd yn oed os oedd hynny’n gofyn ymgodymu â hanes diflas brenhinoedd a breninesau Lloegr, ar draul hanes Cymru.

Yn anad dim, parhaodd yr amheuaeth ddofn tuag at ddau bwnc penodol – Saesneg a Mathemateg gydol fy ngyrfa addysgol. Roedd y ffaith fod yr holl addysg yn cael ei chyflwyno drwy’r Saesneg yn sicr wedi taflu cysgod dros fy amser yn Llambed. Ac roedd ceisio ymaflyd â llenyddiaeth trydedd iaith (Ffrangeg) drwy gyfrwng ail iaith gan athrawes oedd yn dilorni’r Gymraeg yn ein hwynebau yn fynydd heriol iawn i’w ddringo. Er i mi ddewis cyfieithu cwrs lefel O Daearyddiaeth i’r Gymraeg gartref, diolch i gymorth fy nhad na chafodd damaid o addysg ffurfiol yn y Gymraeg erioed, dim ond y Gymraeg fel pwnc oedd yn cynnig ysbaid rhag Seisnigrwydd gwastadol astudiaethau academaidd. Doedd yna ddim dewis arall i mi wedyn heblaw astudio’r Gymraeg.

Mae ymddieithrio oddi wrth symiau ar y naill law a chofleidio geiriau ar y llall wedi parhau hyd heddi. Yn ystod y troeon hynny yn fy mywyd lle’r wyf wedi bod yn gyfrifol am gyfrif arian, mae’r broses wedi peri pwysau mawr i mi. Wrth wynebu rhifyddeg roeddwn yn anesmwyth ac yn anghysurus, yn enwedig gan ei fod yn ymwneud â thrafod arian nad oedd yn eiddo i mi. Cymerwn y cyfrifoldeb o ddifri ac er fy mod wedi llwyddo i ymateb i’r her mi fyddai’n bwrw’r stwffin ohona’i. Roeddwn yn ferch i reolwr banc a Mam hithau wedi gweithio yn y banc am ddeng mlynedd cyn gorfod rhoi’r gorau iddi am na chaniateid yn y cyfnod hwnnw i ŵr a gwraig gydweithio yn y banc wedi iddynt briodi.

Cofiwn fel y buasai fy rhieni yn cyfri pob ceiniog wrth drefnu nosweithiau llawen a digwyddiadau codi arian yn Llanybydder. Os oedd yna ddimau ar goll, buasent yn mynd ati i ddechrau o’r dechrau’n deg ac ailgyfri. Ni fuasent yn clwydo nes bo’r ddime ola wedi ei thafoli. A chyda’r gynhysgaeth hon y wynebwn y cyfrifoldebau ariannol a ddeuai i’m rhan. Roedd ymadael â’r cyfryw gyfrifoldebau bob amser yn rhyddhad mawr i mi yn enwedig pan allwn ymgolli mewn golygu, mewn geiriau. Roeddwn yn teimlo fy mod yng nghwmni cyfeillion cytun hwyliog yn hytrach nag yn sefyll arholiad gwastadol na fuaswn fyth yn medru paratoi’n ddigonol ar ei gyfer. A buasai’r boddhad o ymrafael â geiriau, â chystrawen, er nad yw hynny chwaith heb gyfrifoldeb aruthrol, yn llawer mwy pleserus nag ymboeni dros symiau anniddorol ond pwysfawr.

Rwy’n ymwybodol fodd bynnag o’r angen cyson am gydbwysedd mewn bywyd. Nid yw ymddieithrio oddi wrth bwnc yn golygu y dylem fod yn cefnu’n llwyr arno hyd yn oed os ydyw y tu allan i’n cwmpawd cysurus arferol. Mae hynny’n cynnwys gochel rhag lled ffobia o rifau. Yn yr un modd nid yw’r ffaith fod y byd gwleidyddol yntau yn faes nad ydyw’n denu llawer ohonom tuag ato yn rheswm dros ymddiried y gwaith o’n llywodraethu yn llwyr i farn gwleidyddion, fel y dengys digwyddiadau enbyd y dyddiau dreng hyn. Ni ddylem ymwared â’n cyfrifoldeb i graffu ar yr hyn sydd o’n cwmpas. Oherwydd er bod rhifyddeg yn ei ffurf buraf yn wyddor gysáct, nid yw hynny yn atal dyhirod a gweilch rhag bythol chwarae â rhifau, â niferoedd, â symiau ariannol er mwyn cael y llaw ucha. Os dewiswn ymddihatru’n llwyr o’r cyfrifoldeb o arsylwi ar yr hyn a wna eraill, boed hynny’n wleidyddion mawr a mân, yn ddeiliaid swyddi cyhoeddus neu’n rheibwyr sy’n mynd ati’n fwriadus i’n twyllo drwy ddewis chwarae â rhifau ac â hafaliadau yn ogystal ag â geiriau, yr ydym hefyd yn dewis ymwrthod â’n iawnderau sylfaenol.

Mewn bywyd cyhoeddus, mae fel pe bai’r rhifau – y niferoedd – bellach yn cael eu defnyddio fel clai yn nwylo gwleidyddion a gwladweinyddion, a’r gwirionedd yn cael ei guddio tu ôl i eiriau camarweiniol. Yn achos Covid-19, a llywodraethau Cymru a Lloegr yn cyhoeddi bob nawr ag wlêth nod o hyn a hyn o brofion erbyn rhyw ddyddiad penodol – aeth y nifer rywsut yn ddelfryd ynddi’i hunan a’r unig beth y gellid bod yn sicr yn ei gylch oedd na lwyddid fyth braidd i gyflawni pa nifer bynnag a osodid. Prin fod y cyfryw niferoedd hud o bwys gan fod plycio rhifau moel o’r awyr yn gyfan gwbl ddiystyr heb gyplysu hynny â chyfran neu garfan o’r boblogaeth.

Er bod lle i groesawu penderfyniad llywodraeth Cymru o’r diwedd i roi prawf ar y profi, at ei gilydd rhyw fath ar ddyfais fu canoli ar rifau ar draws gwledydd Prydain er mwyn tynnu ein sylw oddi ar ystyriaethau gwaelodol pwysicach. Hyd yn gymharol ddiweddar, cyhoeddid hefyd ar y cyfryngau gynifer â thair set o niferoedd marwolaethau yng ngwledydd Prydain (gan lywodraeth San Steffan, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a chan bapur newydd y Financial Times) a’r amrediad rhyngddynt yn rhyfeddol o fawr, fel pe bai pa wirionedd yn gwmws y penderfynem ei gofleidio yn beth dewisol.

Gydol y pandemig, mae llywodraeth San Steffan wedi honni yn wastadol ei bod yn cael ei llywio gan y wyddoniaeth, ond dywed y gwyddonwyr sy’n ei chynghori mai’r gwleidyddion sy’n penderfynu beth sydd am ddigwydd. Yn y sefyllfa funud awr sydd ohoni mae amryw o arbenigwyr wedi tanlinellu mor ofer yw canolbwyntio’n llwyr ar y rhif R bondigrybwyll ar draul profi a mynd ar drywydd, ynysu a gwarchod y sawl sy’n cario ac yn lledu’r firws yn ddiarwybod neu fel arall. Mae llywodraeth San Steffan fodd bynnag wedi defnyddio’r rhif R hwnnw ynddo’i hun fel cyfiawnhad dros lacio rhai o’r cyfyngiadau ar symudiadau’r boblogaeth dros Glawdd Offa, er bod gwneud hynny yn anghyfrifol tost heb gyflawni yn gyntaf drefn drwyadl o brofi a thrywyddu ac ynysu – trefn a gyflawnwyd yn hynod lwyddiannus yng Ngheredigion am i’r awdurdod lleol yno weithredu’n rhagweithiol ac yn brydlon.

O ganolbwyntio’n llwyr ar rifau, pa mor gamarweiniol neu simsan bynnag, fe’u dyrchefir uwchlaw pob dadl arall a thrwy hynny cymerant arnynt wedd bwysicach na geiriau. Felly yr â rhifau, pa ydynt yn ffiloreg lwyr ai peidio, yn arf grymusach na rhesymeg yn y rhyfel ideolegol rhwng y naill safbwynt a’r llall.

Yng nghanol y rhyfel ideolegol honno mae’r farn wrthwyneb i eiddo’r sawl sydd â’r llaw uchaf yn cael ei sgubo o’r neilltu. Mae poblyddiaeth asgell dde yn ennill tir a rhesymeg a chwarae teg yn cael eu gwthio yn ddiseremoni i’r cyrion. Gwelwyd hynny’n amlwg iawn adeg ymgyrch dwyllodrus Brexit, ymgyrch a ddyrchafodd raffu celwyddau yn gelfyddyd gain. Cyfeirid at ‘ddymuniad pobl y wlad hon’ fel pe bai pawb yn unfryd unfarn, er bod y bleidlais wedi ei hollti yn ei hanner. Cyn y cyfnod cloi, gwelwyd yr un gynneddf ar waith wrth i Paul Davies, arweinydd grŵp Ceidwadwyr y Senedd, honni mai ewyllys ‘pobl Cymru’ oedd gweld crebachu ar nifer gweinidogion Bae Caerdydd. Tacteg y bwli Brexitaidd yw tacteg o’r fath. Pe gwireddid dymuniad Paul Davies dyna erydu pellach ar ein hawliau a thanseilio gwerth ein Senedd.

* * *

Yn yr union Senedd honno y dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, ei bod yn ‘meddwl bod pobl yn deall’ pam y caewyd Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre ger Abertawe yr haf diwetha. Roedd a wnelo’r peth meddai â niferoedd. Neidio ar y siarabang poblyddol, os poblyddol hefyd, oedd Eluned Morgan hithau yn y fan hon – gan gyfeirio yn yr un sesiwn at y sioe ‘Cymry am ddiwyrnod’ hynny – Dydd Miwsig Cymru – fel be bai hynny yn mynd i’w gwaredu o bob cyfrifoldeb arall fel Gweinidog y Gymraeg. Yn yr un modd y mae ailadrodd mantra ‘Miliwn o siaradwyr’ yn mynd yn weithred hunan-ddigonol megis. Yn achos Felindre, fe lyncodd Eluned Morgan sbin trofaus Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn ei grynswth.

Mae sôn am niferoedd fel rheswm dros gau Ysgol Felindre yn ogystal â bod yn anwiredd yn gorsymleiddio’r driniaeth waradwyddus gafodd yr ysgol dros gyfnod o ddegawdau. Tu ôl i’r obsesiwn gyda niferoedd moel cyfanswm y disgyblion, ceir hanes hir o esgeulustod ar ran yr awdurdod addysg. Cychwynnodd hynny gyda methu ymateb yn gadarnhaol i alwadau rhieni, llywodraethwyr ac athrawon ar iddynt ehangu’r dalgylch ar hyd y chwarter canrif diwethaf; parhaodd gyda phenodi pennaeth gweithredol yn lle hysbysebu am un llawn amser (a fu’n llwyddiannus yn y gorffennol), a daeth i ben gyda chyhoeddi ymgynghoriad cynllwyngar ar ei dyfodol ar sail gofid honedig am safon yr addysg, heb graffu o gwbl ar y safon honno, yn groes i ganllawiau Estyn. Yn wir, gwadwyd ar y pryd mai ar sail niferoedd yr oedd yr ymgynghoriad yn digwydd. Eto ar hyd yr amser crëwyd, drwy dacteg winc ac awgrym, rhyw gyfatebiaeth ffug rhwng nifer y disgyblion a safon yr addysg yno.

Hyd yn oed wedi cau’r ysgol mae’r chwilfrydedd ynghylch faint yn gwmws o blant oedd yno i wrando ar gnul y gloch olaf wedi goroesi ymhlith caredigion a gelynion yr iaith fel ei gilydd. Gofynnwyd yr union gwestiwn blinderus i mi dros ginio Gŵyl Ddewi eleni a dyna’r sbardun i lunio’r ysgrif hon. Os oes raid sôn am rifau yng nghyd-destun cau Felindre, beth am edrych ar sut y camliwiwyd ac y camddefnyddiwyd ffigurau wrth ddelio ag ymgynghoriad y Cyngor? Nid uwcholeuwyd y ffaith mai tri neu bedwar o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad oedd o blaid y cau – tra bod yn agos i saith gant wedi ei wrthwynebu. Er bod cant a phedwar ar hugain wedi llofnodi llythyr agored yn gwrthwynebu’r cau, llwyddodd y Cyngor rywsut i ddistyllu hynny i un. Un, yn ôl y Cyngor, gwynodd am ddiffyg parch yr awdurdod addysg at y Gymraeg er y gwyddys bod nifer mwy na hynny wedi gwneud.

Un person gyflwynodd gŵyn i Gomisiynydd y Gymraeg am fethiannau’r Cyngor. Ni ddylid caniatáu’r gŵyn felly meddai aelod o’r cyhoedd ar Wales online. Onid cryfder medru cyflwyno cwyn i’r Comisiynydd yw nad oes angen torf? Dyna oedd fy argraff innau beth bynnag. Targedu ac aralleiddio’r lleiafrif o fewn y lleiafrif yw nod gwastadol gelynion y Gymraeg ac ysywaeth rai o’i chyfeillion hefyd.

* * *

Ffenomen hyll a chamarweiniol iawn o fewn ein cymdeithas gyfoes yw’r aralleiddio  ar y naill law a’r eithriadolrwydd ar y llall a welwyd ar waith ar gychwyn y pandemig byd-eang yng ngwledydd Prydain. Dwy ochr o’r un geiniog yw’r ddau feddylfryd mewn gwirionedd. Amlygwyd y naill wrth adrodd am broblemau iechyd hirhoedlog ac oedran y rhai orfodwyd i dalu’r pris uchaf am Govid-19 oherwydd methiant affwysol llywodraethau Caerdydd a San Steffan i fynd i’r afael yn brydlon â’r aflwydd. Problem rhywun arall (yr hen, y sâl) oedd y naratif agoriadol, nid ein problem ni ac mae’r meddylfryd atgas hwnnw wedi parhau wrth i gyfran anghymesur o’r marwolaethau (maddeuer y cysyniad atgas hwnnw hefyd) ddigwydd ymhlith pobl nad ydynt yn wyn eu cnawd, ac i hynny gael ei ystyried i fod yn ganlyniad anochel na ellid ei osgoi.

Meddylfryd Prydeinig o eithriadolrwydd yntau arweiniodd at y ffaith mai gwledydd Prydain, sef 1% o boblogaeth y byd oedd yn cyfrif am 15% o farwolaethau o’r clefyd erbyn tri chwarter ffordd drwy fis Mai yn ôl un amcangyfrif. Ystadegau gwaradwyddus o’r fath sy’n darlunio orau efallai wir hyd a lled gallu’r Ymerodraeth Brydeinig anorchfygol i oroesi a goresgyn pob problem wedi Brexit.

* * *

Symud y broblem yn ddigon pell o bentre naturiol Gymraeg Felindre wnaeth Cyngor Abertawe wrth roi’r ysgol ar ocsiwn yn Llundain. Er bod amheuaeth a lwyddodd cynllun y Cyngor i esgor ar well pris amdano, nid dyna oedd yn bwysig ond y canfyddiad fod gwerthu yng nghanolfan gyfalafol yr ymerodraeth yn ei hanfod yn fwy proffidiol. Cant a hanner o filoedd gafwyd am yr adeilad, yn ôl y sôn, sef £1056.60 i goffrau’r Cyngor am bob blwyddyn o fodolaeth y lle fel sefydliad addysgol cyhoeddus. Ac mae’r Cyngor wedi gwrthod datgelu pwy yn union sydd wedi prynu’r adeilad yn yr un modd ag y maent wedi gwrthod ateb fy nghwestiwn syml a wnaethant ystyried yr effaith ar y Gymraeg ac ymgynghori â’r gymuned Gymraeg cyn gwerthu, er bod dyletswydd arnynt wneud y ddeubeth.

Cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg yn gynharach eleni ei fwriad i gynnal ymchwiliad newydd i’r methiant pellach i ystyried effaith gwerthu adeilad yr ysgol ar y gymuned Gymraeg. Ac roedd hynny yn newyddion i’w groesawu’n fawr, fel yn wir yr oedd y dyfarniad gwreiddiol yn erbyn y Cyngor Sir yn adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ar gau’r ysgol wythnosau ynghynt. Syndod mawr oedd yr hyn ddigwyddodd wedyn. Gwta bythefnos wedi iddo ysgrifennu i ddweud bod y cylch gorchwyl yn mynd rhagddo yn ddidramgwydd, penderfynodd y Comisiynydd wneud tro pedol a gohirio’r holl broses yn enigmatig ddigon dan gochl Covid-19. Nid ymgynghorwyd â mi fel achwynydd o gwbl cyn gohirio fel y dylasid bod wedi gwneud yn ôl gofynion Mesur y Gymraeg.

Rwyf wedi clywed o sawl ffynhonnell nad dyma’r unig ymchwiliad i’r Comisiynydd ollwng gafael arno yn ddirybudd dan gochl Covid-19. Wedi’r cyfan, nid yw’r cwestiwn yn arbennig o gymhleth – naill ai fe wnaeth neu ni wnaeth y Cyngor ystyried ac ymgynghori ar effaith y penderfyniad i werthu’r eiddo ar y Gymraeg. Gofynnais i’r Comisiynydd ailystyried ac esbonio beth oedd union berthnasedd Covid-19 i barhad a dyfodol yr ymchwiliad. Roeddwn hefyd yn awyddus i wybod pa awdurdodau lleol eraill yng Nghymru benderfynodd oedi ymchwiliadau. Er i mi ysgrifennu ddwywaith, ni chafodd fy nghwestiynau eu hateb ac ni fynegwyd y rhesymeg dros oedi yn eglur o gwbl yn yr un llythyr anfonwyd gan swyddfa’r Comisiynydd. Pe buasid wedi parchu’r amserlen, fe fuasai’r ail ymchwiliad ar ben erbyn hyn siawns.

Lleisiodd rhai o hoelion wyth y gymuned eu syndod fod yr ysgol yn dal ar gau ac yn dal wedi ei gwerthu er gwaetha’r ffaith fod Comisiynydd y Gymraeg wedi dyfarnu yn erbyn y Cyngor Sir am fethu ag ymgynghori ar yr effaith ar y Gymraeg cyn cau. Yn eu tyb hwy buasai cyfiawnder naturiol yn golygu ailagor ysgol Gymraeg yn Felindre.

Mae amryw o newyddiadurwyr wedi cwestiynu gwerth rôl Comisiynydd y Gymraeg yn y cyswllt hwn ac wedi mentro holi am ei ddiffyg dannedd. Wrth gyfiawnhau’r elfen godi pais wedi piso sy’n rhan mor annatod o’r drefn ddiffygiol sydd ohoni, dywedodd y Comisiynydd ar raglen Newyddion Naw y buasai’r dyfarniad gwreiddiol yn erbyn Cyngor Sir Abertawe yn rhybudd clir i awdurdodau lleol ledled Cymru i ystyried yr effaith ar y Gymraeg cyn gweithredu mewn ffordd fuasai’n niweidiol i’r iaith. Mewn gair, buasent yn meddwl ddwywaith yn y dyfodol. Ond pan oedd y Comisiynydd yn llefaru hynny o eiriau roedd Cyngor Abertawe eisoes wedi gweithredu o’r newydd mewn ffordd oedd yn torri’r safonau ac yn niweidiol i’r iaith. Dyna’n union wnaethant wrth fynd ati i werthu’r adeilad yn sydyn iawn wedi cau’r ysgol ond cyn i’r Comisiynydd allu cyhoeddi ei ddyfarniad ar y cau, gan wybod yn burion y buasai hynny’n ddyfarniad anffafriol iddynt. Hyd yma beth bynnag, ni bu’n rhaid iddynt dalu pris o fath yn y byd am gyflawni’r ail gamwedd mor chwim wrth gynffon y camwedd cyntaf.

Yn y cyfamser mae nifer yr eitemau ac arnynt y stamp ‘translation required’ ar wefan y Cyngor yn dygyfor yn feunyddiol. Pan ac os dewisa’r Comisiynydd fynd rhagddo â’r ymchwiliad i’r gwerthu, a hyd yn oed os gosodir sancsiwn y tro hwn ar y Cyngor gan y Comisiynydd, pum mil o bunnoedd yn ôl a ddeallaf yw’r uchafswm y gall ei osod yn y ffurf arbennig hon ar y gêm Monopoli, a dim dimau unwaith yn rhagor i’r gymuned.

Ar ben hyn oll nid yw’r Cyngor fyth wedi cyflawni’r ddyletswydd dan ddyfarniad gwreiddiol y Comisiynydd a hefyd dan statud ar iddynt gyhoeddi ar eu gwefan y methiant i gydymffurfio â Mesur y Gymraeg wrth gau’r ysgol, er ei bod yn ofynnol iddynt fod wedi gwneud hynny erbyn canol Mai. Roeddwn wedi cael addewid gan swyddfa’r Comisiynydd y buasai hynny’n digwydd yn bendant ac y buasai’r Comisiynydd yn dal y Cyngor yn gyfrifol. Ond parhau i ddisgwyl am hynny hefyd yr ydwyf. Yn nyddiau-dan-warchae-mwy-nag-erioed-yn-ein-hanes-Covid-19 a oes argoel fod sancsiwn yn mynd i gael ei osod gan y Comisiynydd am y diffyg hwn yntau? Onid yw’r Comisiynydd yn defnyddio hynny o rymoedd cyfyngedig sydd ganddo yn yr achos hwn, dyna anfon neges glir at bob awdurdod lleol yng Nghymru i anwybyddu unrhyw ofynion o ran y Gymraeg yn ôl eu mympwy.

Pan aeth Sian Williams, cyn-ddisgybl a chyn-aelod o’r gymdeithas rieni, a minnau i ymweld â’r ysgol am y tro olaf cyn y gwerthiant, yr oedd gŵr o Northampton yno yn bugeilio ar ran yr arwerthwyr Allsopp. Wnaeth e ddim mydo rhyw lawer o’i gar – gan mor oer oedd loetran yn yr adeilad di-wres, di-blant. “But there weren’t any children were there?” meddai wrth ein hel ni gyn-bobol oddi yno. Roedd y celwydd yn gyflawn. Y gwaith ar ben. Tybed? Er i ni ddweud wrtho mai ni, y Gymdeithas Rieni ar y pryd, gododd yr arian am y darn o’r adeilad lle’r oeddem yn sefyll y funed honno, ac i’r ffaith honno ysgwyd fymryn ar ffydd gadarn ei genadwri, ai cwbl seithug ydoedd codi llais yn y pen draw?

* * *

Yn y cyfamser, er gwaetha’r ffaith fod Comisiynydd y Gymraeg yn warchodol iawn o adnoddau prin presennol y Cyngor Sir dan gwmwl Covid-19, nid ymddengys fod unrhyw brinder dynol nac ariannol wrth i’r cyngor fwrw mlaen yn unplyg ag adeiladu’r tyrau concrid gwerth £135 miliwn yng nghanol y ddinas. Pan siaradodd â’r cyfryngau ddechrau Mehefin eleni, yr oedd Rob Stuart (Arweinydd y Cyngor) yn fawr ei ffydd yn y dyfodol disglair oedd yn ymagor yn wyrthiol fel y môr coch o’i flaen. Yn wahanol i weddill y byd, ond yn gwbl gyson â’r meddylfryd o eithriadolrwydd, ni welai arweinydd y cyngor unrhyw gwmwl ar y gorwel yn ffurfafen hyfrydlas canol Abertawe. Proffwydai Rob Stuart, er gwaetha cyd-destun bydolwg newydd o ymbellháu cymdeithasol, y buasai miloedd yn tyrru i fyw i ganol y ddinas ar ei newydd wedd – i fynychu’r sinema – a’r myfyrwyr rhithiol yn heidio oddi ar y sgrin i lenwi’r adeiladau nenfrig newydd sbon danlli grai ger yr orsaf nid nepell o fflatiau Dyfaty. Wrth i gyfalafiaeth ronc y tyrau concrid gyfarch gwell i’r nwyon tŷ gwydr uwchlaw iddynt ac o’u cwmpas, oni fuasai’n rheitiach i’r Cyngor ganolbwyntio ar drigolion cig a gwaed cyfredol dinas a sir Abertawe yn hytrach na’r rhai rhithiol diafael a gyfyngwyd i ddychymyg paradwys ffŵl swyddogion a chynghorwyr y Cyngor Sir? O leia mae yna obaith am loches lled ddeche i’r digartre fochel.

Pa gyfran fechan fach o’r castell hwn yn yr awyr fuasai’r arian pitw o werthiant adeilad yr ysgol fach yn y bryniau yn talu amdani tybed? Pa ots? Rhagfarn nid rhifyddeg oedd y rheswm dros gau Felindre – ac er gwaetha’r cwestiwn y mae pob Twm, Dic, Sion a Dafydd yn mynnu ei ofyn, gwrthodaf gyfranogi o’r chwilen gyson Thatcheraidd hon am niferoedd wrth drafod hanes cywilyddus yr ymdriniaeth o’r ysgol. Yn wyneb y ffordd y crebachwyd y saith gant ohonom bron i fod yn 363 –  i fod unwaith eto yn llai na ni ein hunain – mae trafod niferoedd yn llwyr ddiysytyr. Ac eto cynghreiriwyd o blaid y cau gan genhadon tra-arglwyddiaeth niferoedd addysg Gymraeg ar y naill law a chiwed cynnal traddodiad afiach gwrth-Gymreictod sifig Abertawe ar y llall.

Nid yw Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn ei benderfynolrwydd i gau ac i werthu adeilad Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre yn ddim gwahanol i rai megis Boris Johnson a’i honiad diarhebol o gelwyddog ar ochr bws parthed yr arbed arian ddeuai i’r gwasanaeth iechyd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Trawiadol yw hynny yn awr o ystyried i’r holl arian a wariwyd ac amser a dreuliwyd wedi’r refferendwm yn galluogi Brexit, ar y cyd â blynyddoedd o lymder, gyfrannu’n sylweddol at y ffaith iddi fynd yn sgrech ar yr union wasanaeth iechyd hwnnw ar gychwyn annisgwyl Covid-19 ac i elusennau megis Tarian Cymru orfod dod i’r fei er mwyn osgoi gwaeth cyflafan. Canoli ar niferoedd wnaeth yr ymdriniaeth o’r clefyd yn y wasg ac ar y cyfryngau o’r cychwyn. Mae pob math o wirioneddau a chelwyddau wedi llifo fel broc môr i’r lan yn sgil hynny fel ei bod bron yn amhosib gwahaniaethu rhwng y gwir a’r gau.

Ar hyd a lled gwledydd y byd yr effeithiwyd arnynt, claddwyd y gwirionedd am y firws yn dwt o dan fynydd cynyddol fygythiol rhifyddeg poblyddiaeth. Yn yr un modd ni allasai dyfynnu rhifau moel camarweiniol ddod yn agos at gyfleu stori Ysgol Felindre.

* * *

Pan oedd y plant yn eu harddegau, buasent weithiau yn mynegi pryder nad oeddent yn ffitio i mewn. Roeddwn yn tristáu eu bod yn dal i deimlo’r un math o letwhithdod ag a deimlais i yn unigolyn ar fy mhrifiant, er gwaetha’r ffaith eu bod hwythau, yn wahanol i minnau, yn cael bendith addysg Gymraeg o’r crud. Yn Felindre cawsant blentyndod. Nid oedd y plentyndod hwnnw heb ei dreialon ond yr oedd yn golygu cael cyfleoedd i chwarae yn yr awyr iach yn yr un iaith ag oedd yn y dosbarth, i ddysgu tablau yn y Gymraeg, i ddatblygu cymeriad wrth gydymwneud gyda chymeriadau cyfiaith amryliw’r pentre, i beidio â theimlo’n hunan-ymwybodol, na chribo gwallte yn rhy fynych, ac i sefyll gerbron cynulleidfa mewn cwrdd diolchgarwch ac eisteddfod a chyngerdd Gŵyl Ddewi fel y gwnaethai cenedlaethau o’r Parsel Mawr.

Fe ddewisodd ein teulu ni ac amryw o deuluoedd eraill agosrwydd ac agosatrwydd Felindre ac fe groesawodd pentref Cymreiciaf Abertawe ninnau. Er gwaetha’r hawl – ynte’r fraint dywedwch? – honno, yr oedd y dieithrwch wrth gamu o ddiniweidrwydd cymharol yr ysgol bentre i fydolwg diwylliant trefol poblog Penlan a Thregŵyr yn fwy heriol nag ydoedd i minnau wrth symud o’r ysgol gynradd yn Llanybydder i ysgol gyfun Llambed (er bod y jyngl yn hollbresennol ym mhob ysgol mewn gwirionedd). Buaswn yn arfer dweud wrthynt na ddylent ymdeimlo â phwysau i gydymffurfio ac y dylent, wrth fod yn nhw eu hunain, gydnabod bod pawb yn wahanol i’w gilydd ac yn unigryw ac i ymfalchïo mewn byd oedd yn ymddangos yn gynyddol unffurf eu bod ychydig yn wahanol. Gwn eu bod fel unigolion ym môr mawr tymhestlog yr ysgol uwchradd wedi cael pleser o rannu iaith a chenedligrwydd cyfoedion a bod y cyfoedion hynny yn ffrindiau mynwesol.

Fel rhywrai sy’n siarad iaith leiafrifol mae bod yn wahanol yn realiti beunyddiol i ni er mai’r hyn a wnawn wrth fyw yn y Gymraeg yn ein gwlad ein hunain – gwlad lle bu cenedlaethau o’n blaenau yn oesi ynddi – yw bod yn driw i’r hyn sy’n naturiol i ni, bod yn driw i’n cefndir. Beth bynnag fo iaith yr aelwyd, beth bynnag fo’r cymhelliad, dylem fod oll â’r hawl i fyw a bod, a chael addysg gynradd mewn cymunedau o’n dewis ein hunain fel bod plant yn medru bod yn blant heb ddiodde glasenwi ar sail eu cenedligrwydd. Gallu byw yn agos at ein lle fel bod y gwahanol – ie hyd yn oed ym mhrofiad gwrthnysig plant o deuluoedd Cymraeg – yn rhywbeth arferol, feunyddiol, nid yn arall sydd o dan fygythiad deublyg parhaus.

Wrth i’r arferol feunyddiol hwnnw gael ei droi ar ei ben o dan y cyfwng presennol, ac i’r pwyslais newid o gymdeithasu i ymneilltuo, tybed a fydd yna chwyldro yn y ffordd yr ydym yn edrych ar y byd? A fydd y lleol yn dod yn fwyfwy canolog yn ein bywydau ac a ddaw bri eto ar unedau bychain yn sgil canlyniadau trychinebus Covid-19?  Fydd pobol mewn grym yn deffro’n chwys oer liw nos wrth sylweddoli mai cam gwag oedd cau ysgolion gwledig Cymraeg? Tybed, os daw dynoliaeth i ben â threchu’r gelyn distaw hwn sydd wedi llorio pobloedd ledled daear, a fydd meddylfryd cenedlaethau’r dyfodol yn sylfaenol wahanol i’r meddylfryd byrhoedlog sydd wedi bod yn llywio cymdeithas dros y degawdau diweddar? Ac a fydd y ddynoliaeth yn fwy bydol ddoeth y tro nesa pan ddaw wyneb yn wyneb â rhifyddeg wag poblyddiaeth? Yn ystod y degawdau nesaf a’r nod o filiwn o siaradwyr yn rhuthro tuag atom ac yn gwibio heibio heb i neb bron sylwi ar y methiant affwysol i gyrraedd y nod hwnnw yntau, sawl cymuned naturiol Gymraeg fydd yn weddill erbyn hynny? Fydd yna unrhyw un ar ôl i boeni?

Llun gan Esyllt Lewis o glawr pamffled Dyfan Lewis ‘Mawr a Cherddi Eraill’

Un ateb ar “Rhifyddeg poblyddiaeth”

  1. Gwych iawn a threiddgar, ond trist iawn hefyd. O’m rhan fy hun ’rwy’n hynod o ddigalon am y dyfodol. Ymddengys i mi fod pobleiddiwch yn Lloegr wedi esgor ar agwedd sydd am fynnu ein dileu, fel y mynnai pleidwyr ‘barn-y-bobl’ adeg Cromwell yn yr G17 y dylid anelu am unffurfiaeth ar eu telerau Seisnig hwy eu hunain. Bellach mae’r BBC (UK) yn erfyn sydd yn gwthio unoliaethyddiaeth ar delerau Seisnig eto, gan anwybyddu neu ddilorni hyd y gall unrhywbeth Cymreig, yn ddidrugaredd. Dyma beiriant plygu ffeithiau cyfoes, carlamus sy’n llefaru yn ein cartrefi bob dydd …
    Trist iawn, hefyd, yw clywed am weithredoedd trychinebus Awdurdod Abertawe yn ardal Felindre, bro Gymreig gyfoethog ei chynhysgaeth ieithyddol sydd bellach mewn perygl. Dyma fro fy hynafiaid innau.
    Diolch, Angharad, am godi’r llen a phrocio’r meddwl.

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.