Cyfarfu Real Wild Estates Company a L’Oreal Groupe o Ffrainc yn ddiweddar i drafod cynlluniau i brynu tir i’w ddad-ddofi. Maent yn ceisio gwneud elw yn benodol drwy wahanol fathau o landlordiaeth, megis y farchnad tai preifat a thai gwyliau ar osod tra’n elwa o gymorthdaliadau cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau fel plannu coed.
Maent hefyd yn anelu at wneud elw o farchnadoedd carbon newydd, lle bydd carbon sy’n cael ei ddal ar ffurf coed, porfeydd a mawndir yn cael ei gyfnewid ar farchnad garbon newydd, fel y gall cwmnïau trwm eu hallyriadau “wrthbwyso” eu hallyriadau carbon. Dyma sut y bydd gwledydd fel y DU yn cyrraedd “sero net” er gwaetha’r ffaith bod grŵp o wyddonwyr hinsawdd yn galw arfer o’r fath yn beryglus. Mae’n fath o wyrddgalchu na fydd yn gwneud dim i atal newid trychinebus yn yr hinsawdd – ond bydd yn caniatáu i’r status quo barhau ychydig yn hirach.
Mae’r DU yn anelu at wneud ei hun yn ganolbwynt ariannol fyd-eang “twf gwyrdd”, sydd, yn ymarferol, yn golygu parhau â neowladychiaeth (yr arfer o barhau i fanteisio’n economaidd ar drefedigaethau blaenorol) tra bod y Gogledd Byd-eang yn parhau i osgoi ei gyfrifoldeb am achosi newid hinsawdd. Fel y dywedodd Tom Goldtooth, arweinydd y Rhwydwaith Amgylcheddol Brodorol yn ystod COP26 mae’n “fath newydd wladychiaeth”.
“Cyfalaf naturiol” yw’r ideoleg sy’n sail i’r ffantasi hwn sy’n dweud y gallwch roi gwerth ariannol ar “asedau naturiol” fel y’u gelwir. Mae hyn i fod i hwyluso “taliadau am wasanaethau ecosystem” (payments for ecosystem services) lle rydych yn talu am arfer da ac yn cosbi arfer drwg yn ariannol. Dros amser, eu nod yw gwella’r ffordd y caiff natur ei brisio’n ariannol, sydd i fod i ddangos cyflwr ecosystemau sy’n gwella. Dadleuir y bydd rhoi pris ar ecosystemau yn arwain at reoli adnoddau naturiol yn fwy rhesymegol ac effeithlon ac y byddai hyn yn atal eu dinistr.
Mae’n hawdd gweld pam bod hyn yn apelio at y Torïaid. Ond mae cymhlethdod ecosystemau, ynghyd â gofynion ecolegol dirifedi bywyd dynol a holl fywyd arall, yn gwneud i’r cysyniad gor-syml hyn sy’n gosod elw uwchlaw popeth arall yn destun sbort.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn talu tirfeddiannwr yng Nghymru i ddal carbon ar ffurf plannu coed (sydd ynddo’i hun yn fwy cymhleth nag a sylweddolir yn aml), ac o ganlyniad mae’n gwthio cynhyrchu bwyd i ochr arall y byd, gan gyfrannu at ddatgoedwigo a dadfeddiannu pobloedd frodorol o’u tiroedd mewn mannau eraill. Mewn theori, cyn belled ag y gwneir yn iawn am y dinistr a’r farwolaeth hynny yn ariannol yn rhywle arall, yna mae’n bosibl priodoli budd net. Mae hyn yn amlwg yn hurt.
Math o “wrthbwyso bioamrywiaeth” sy’n caniatáu i farchnadoedd ariannol a chorfforaethau gael mwy o reolaeth fyth wrth reoli ecoleg y blaned mewn proses a elwir yn cipio tir neu wyrddgipio yw hyn. Fodd bynnag, y model diffygiol hwn o gyfalaf naturiol yw’r union resymeg sy’n sail i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar y gweill yng Nghymru. Fel y rhybuddiodd Calvin Jones, “mae’r Gymru wledig mewn trafferth”.
Nid troi ecosystemau yn gynwyddau fwyfwy a cheisio cynyddu eu gwrth ariannol yw’r ateb i’r niwed ecolegol a’r anhrefn hinsoddol sydd eisoes yn deillio o gronni cyfalaf yn y lle cyntaf. Dyna pam mae cronfeydd rhagfantoli yn ceisio “buddsoddi” mewn tir. Mae’n ffordd hawdd o wneud elw o gynnydd mewn gwerth asedau, incwm rhentwr a thaliadau cyfnewid carbon a chymorthdaliadau sydd ar y gorwel.
Mae Mark Redfern, o Voice.Wales, wedi datgelu sut mae Foresight Group, cronfa fuddsoddi, wedi sefydlu Foresight Forestry Company PLC yn benodol gyda’r prif nod o wneud elw o’r rhuthr carbon newydd hwn. Maent yn gobeithio gwerthu cyfranddaliadau ar Gyfnewidfa Stoc Llundain am gynnig cychwynnol o £200 miliwn ac maent y tu ôl i rai o’r pryniannau tir diweddar ledled Powys. Mae’n amlwg bod arian i’w wneud ar gyfer llond llaw o bobl, ond pa werth fydd hynny i gymunedau gwledig Cymru a Chymru gyfan?
Nid oes dim i atal cwmnïau rhag sefydlu planhigfeydd conwydd nad ydynt o fawr o werth ecolegol, a bydd y credydau carbon y byddant yn eu cronni yn debygol o gael eu defnyddio i wrthbwyso allyriadau tanwydd ffosil. Felly mae cymunedau lleol, ecoleg ehangach a’r hinsawdd i gyd yn colli, tra mae cronfeydd buddsoddi preifat yn ennill. A beth sydd i’w hatal rhag ysbeilio ecosystemau o’u hasedau ar ôl meddu arnynt unwaith y byddant wedi cyflawni eu nod?
Mae tir yng Nghymru yn gymharol ratach nag yn rhannau eraill o’r DU, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer gwneud elw o’r fath. Dyma dir a fyddai wedi bod yn rhan o fferm fechan ar un adeg, ond wrth i ffermio fynd yn llai ac yn llai hyfyw, oherwydd yr economi fwyd gyfalafol sy’n gosod ffermwyr ar draws y byd yn erbyn ei gilydd mewn ras i’r gwaelod, mae’n mynd yn anos i ffermydd bach oroesi. Mae tir naill ai’n cael ei brynu gan ffermydd mwy, gan gyfuno tir, er mwyn cystadlu wrth gynhyrchu cynwyddau, neu mae bellach yn cael ei brynu fwyfwy gan gronfeydd buddsoddi i echdynnu gwerth ariannol, i gyd wedi’u gwyrddgalchu yng ngeirfa gwasanaethau ecosystem. Bydd y grwpiau hyn, fel Real Wild Estates Group, yn arddel ieithwedd adfywio cymunedol, ond mewn gwirionedd, dônt ag ychydig iawn o’r fath beth.
Mae angen adferiad ecolegol ledled Cymru, ac ychydig iawn sy’n gwadu hynny, ond rhaid iddo gael ei arwain gan gymunedau Cymru ac ar eu cyfer. Mae angen democrateiddio pellach ar dir, nid rhagor o grynhoi tir sydd o fudd i gyfalafwyr ac elitau sy’n ffodus i gael eu geni i deulu a all olrhain ei linach yn ôl i’r Normaniaid. Ni fydd y marchogion gwyn newydd hyn a addysgir mewn ysgolion preifat, yn eu Barbour, brethyn caerog a welingtons Le Chameau, yn achub ein cymunedau, hyd yn oed os nad yw’r syniad o gael ein “hachub” yn un cyfeiliornus a nawddoglyd.
Mae adferiad ecolegol gwirioneddol yn golygu peidio â thrin bwyd, tir a llafur fel cynwyddau. Mae’n ei gwneud yn ofynnol inni gyfeirio ymdrech ddynol tuag at yr hyn y mae angen ei wneud ar frys yn wyneb niwed ecolegol a hinsoddol. Mae’r awydd a’r wybodaeth yno eisoes, ond mae’n eithriadol o anodd cyfeirio’r egni hwnnw at y tasgau sydd angen eu gwneud pan mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o bobl weithio’n galed fel y mae er mwyn cynnal bywoliaeth.
Mae Project Skyline, yn y Cymoedd, yn un ymgais o’r fath i ail-ddychmygu defnydd tir mewn rhanbarthau ôl-ddiwydiannol, mewn modd sy’n ail-rymuso pobl leol mewn prosiect adferiad ecolegol. Does bosib fod hyn yn well na warws Amazon arall neu unigolyn ddi-wyneb mewn siwt streipïog yn Llundain yn rheoli materion Cymreig unwaith yn rhagor. Yn hytrach na chael ei werthu i’r cynigydd uchaf, mewn Cymru annibynnol, gallai tir gael ei brynu gan ein banc canolog ein hunain a’i ddefnyddio i ehangu ystâd ffermydd i’w gosod gan gynghorau sir. Mae ymddiriedolaethau tir cymunedol, a ariennir gan fenthyciadau hirdymor cost isel, yn cynnig opsiwn arall, a’r cysyniad newydd o “Bartneriaethau Cyhoeddus-Cyffredin” Ond ni all Cymru wneud hyn heb ragor o bwerau cyllidol ac ni all wneud hyn os yw’n parhau i fod yn gaeth i gyfalaf. Fel y nododd Laurie Macfarlane, mae’r Alban hefyd yn gweld rownd newydd o gipio tir ar ffurf y “lairdau gwyrdd” – ond o leiaf mae gan yr Alban y dewis o brynu tir cymunedol, yn wahanol i Gymru. Fel y mae ar hyn o bryd, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal i’r cronfeydd rhagfantoli (“hedge-funds”) hyn, drwy daliadau Glastir, hyd at filiynau o bunnoedd. Arian y gellid yn hytrach ei ddefnyddio i ehangu ystâd fferm y sir—yn lle ei rhedeg i lawr a’i gwerthu.
Mae cymunedau ledled Cymru yn wynebu bygythiad gan farchnadoedd tai a thir cyfalafol sy’n cael eu gyrru gan elw. O ddegawdau o foneddigeiddio sy’n cynyddu costau rhent a chostau byw dosbarth gweithiol Caerdydd, i gartrefi gwledig sy’n cael eu prynu fel tai haf neu fel tai gwyliau i’w gosod, i’r tir sy’n cael ei brynu gan gronfeydd rhagfantoli, mae’n rhywbeth sy’n uno pawb, ac eithrio’r rhai sy’n gwneud elw. Mae hyn oll yn arwain at gynyddu mewn costau byw; yn gyrru pobl i ffwrdd o’u trefi, pentrefi a chymdogaethau genedigol; ac yn troi Cymru’n diroedd hamdden helaeth ar gyfer cyfoethogion.
Gallwn weld yr effeithiau andwyol y caiff hyn ar y Gymraeg gyda thrasiedi cau Ysgol Abersoch. Mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu gweithredoedd i atal difrod pellach, er enghraifft; deddfu rheolaethau rhent, atal prynu cartrefi ar gyfer eu gosod ar gyfer gwyliau neu ail gartrefi a rheoleiddio AirBnB, fel y galwodd Mabli Siriol yn y rali Nid Yw Cymru Ar Werth diweddar yng Nghaerdydd. Rhaid iddynt hefyd atal buddsoddwyr, fel y’u gelwir, rhag prynu tir ac yn lle hynny dylent gyflwyno mesurau diwygio’r tir, fel y cynigiodd Robat Idris y llynedd. Mae’r cytundeb Plaid-Llafur newydd yn awgrymu y gallai ateb rhai o’r gofynion hyn, ond amser a ddengys.
Pa mor hir y mae’n rhaid inni aros i Lywodraeth Cymru weithredu? Yn ei herthygl ar gyfer Undod mae Angharad Tomos yn tynnu sylw’n gryno at y ffaith bod y difrod hwn wedi bod yn mynd rhagddo ers degawdau. Mewn rhai mannau ar arfordir Sir Benfro, mae 40% o dai yn dai haf, ac yn Abersoch, Gwynedd, mae’n 46%. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad yn edrych ar bolisïau newydd er mwyn datrys yr argyfwng ail gartrefi, sy’n llawn argymhellion pwysig, ond yn bwysicaf oll mae angen inni weithredu nawr cyn ei bod yn rhy hwyr. Efallai mai un o’r rhwystrau sy’n atal Llywodraeth Cymru rhag cymryd camau effeithiol yw’r ffaith bod 28% o ASau yn landlordiaid eu hunain. Mae llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu ar hyn, ac mae angen inni atgyfodi ysbryd Rebecca. Gallwn gael ein hysbrydoli gan wrthsafiad parhaol a welir yn yr ymyrch i Achub Dolydd y Gogledd.
Fel y dywedodd Cian Ireland mewn araith yn ddiweddar ar gyfer rali Nid Yw Cymru Ar Werth, wrth sefyll ger Tryweryn:
“Yn lle fod ein cymunedau’n gwynebu cael ei boddi gyda dŵr, maent yn gwynebu gael eu boddi dan ‘fflyd’ o brynwyr efo cyfoeth, yn allan gystadlu pobl lleol ar farchnad preifat sy’n blaenoriaethu cyfoeth o ‘flaen anghenion pobl ac ein cymunedau. Mae’n ymosodiad gan y farchnad tai cyfalafeithol ar ein gymunedau.”
erthygl wych – diolch