Dim mwy o wleidyddiaeth o’r top i lawr: bellach lawr y cledrau i dlodi, anghyfiawnder a dyfnhau’r argyfwng ecolegol fydd hi. Mae angen i ni achub y blaen.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn amlygu’r posibiliadau sydd i’r genedl, wrth iddi godi eto o’r argyfwng hwn.
Y coronafeirws yw’r symptom mwyaf eithafol eto o gyfres o argyfyngau sydd wedi canlyn cyfalafiaeth fyd-eang dros y ddegawd ddiwethaf. Mae’r argyfwng wedi dinoethi’r wladwriaeth Brydeinig a’r blaid Dorïaidd ac arddangos yr hagrwch o dan eu lifrau crand. Mae hefyd wedi amlygu diwylliant pwdr gwleidyddiaeth Gymru, a methiannau enbyd datganoli.
Mae’r argyfwng diweddaraf gyfalafiaeth yn cynrychioli moment chwyldroadol posib, â phŵer gwladwriaeth Prydain wedi derbyn ergyd all fod yn angheuol. Mae cannoedd o filoedd ohonom wedi gweld gyda llygaid ni’n hunain fod dosbarth llywodraethol Prydain yn poeni mwy am elw na bywydau pobl gyffredin. Dyma gyfle euraid i sosialwyr newid natur gwleidyddiaeth yn y wlad hon am byth.
Mae’r argyfwng hwn nid yn unig wedi dangos bod angen arnom annibyniaeth i Gymru ar frys, ond hefyd fod angen ailstrwythuro llwyr ar yr economi, cyfarpar ein gwladwriaeth, ac adnewyddu ein diwylliant gwleidyddol, fel na fyddwn yn dyblygu’r fiwrocratiaeth flonegog, neoryddfrydol y mae datganoli wedi’i chreu.
Mae angen inni dorri ymaith o gyfalafiaeth yn llwyr, a’r system o werthoedd cyfalafol sy’n seiliedig ar greu elw, treulio dibaid, ac ymelwa ar bobl, a symud tuag at gymdeithas sy’n seiliedig ar ofal a thosturi. Nid yn unig er mwyn gwneud bywyd yn well i’r rhan fwyaf ohonom; yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, mae’n gwbl angenrheidiol. Oni fyddwn yn torri gyda chyfalafiaeth, ni fydd dynoliaeth yn goroesi.
Mae penodiad rhagweladwy Llywodraeth Cymru o Gordon Brown a’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid fel cynghorwyr yn ei gwneud hi’n gwbl glir, er gwaethaf yr addewid i fanteisio ar y newidiadau, ei bod yn benderfynol o ddychwelyd at fusnes fel arfer o’r math Prydeinig: mwy o neoryddfrydiaeth, gosod anghenion y farchnad uwchlaw cymdeithas, a mwy o ganlyn tŵf dibwrpas. Bellach lawr y cledrau i dlodi, mwy o anghydraddoldeb, a’r argyfwng ecolegol yn dyfnhau.
Ni allwn aros a disgwyl i’n dosbarth gwleidyddol arwain, oherwydd yn y bôn nid yw newid system economaidd a gwleidyddol y maent wedi elwa ohoni er budd dosbarth llywodraethol Cymru. Does gan ein dosbarth gwleidyddol, beth bynnag fo’u plaid, iaith, neu ryw, ddim yn gyffredin gyda phobl dosbarth gweithiol. Nid ein buddiannau ni yw eu rhain nhw.
Yn hytrach, mae angen i’r newid ddod o islaw, ac nid o’r brig fel y gwnaeth gyda’r setliad datganoli, pan gafodd awydd y bobl am newid radical ei fogi a’i ddargyferio.
A ni sydd gan y gallu i weithredu! Mae’r argyfwng wedi ein hatgoffa ni i gyd o un peth sy’n wir, y tu hwnt i amheuaeth: pobl gyffredin Cymru (ac yn wir o bob wlad) yw conglfaen ein cymdeithas. Mae’r dosbarth gweithiol, nid y bancwyr, y biwrocratiaid na’r lobïwyr, wedi cadw’r wlad i fynd er gwaethaf yr arweiniad truenus gan San Steffan a Chaerdydd. Mae gweithwyr cyffredin wedi cadw’r Gwasanaeth Iechyd i fynd ac wedi gofalu am ein cleifion, er gwaethaf y risg enfawr iddynt hwy eu hunain. Mae gweithwyr gofal sy’n derbyn yr isafswm cyflog wedi gofalu am ein henoed. Mae meddygon a busnesau bach Cymreig wedi adeiladu gwyntedyddion ac offer diogelu personol, ar eu pennau eu hunain. Mae dinasyddion Cymru wedi camu ymlaen a darparu offer gwarchodol trwy ariannu torfol, pan fu ein Llywodraeth naill ai’n analluog neu’n anfodlon gwneud hynny. Mae un o’n prifysgolion wedi datblygu ei chanolfan brofi ei hun ar gyfer gweithwyr allweddol. Er gwaethaf maint y drychineb hon, mae pobl wedi gofalu am ei gilydd.
Ein problem yw ein bod bob tro wedi gadael gwleidyddiaeth i’r gwaethaf ohonom. Ond mae’r argyfwng hwn yn dangos nad oes angen inni wneud, ac y gallwn ni wneud pethau heb aros.
Dim mwy o wleidyddiaeth o’r top i lawr. Dim mwy o aros i’n bywydau gael eu siapio gan bolisïau sy’n cael eu creu gan arweinwyr sydd wedi colli golwg ar y bobl, a sosialwyr ffug yn y gaeth i gyfalafiaeth. Mae angen inni achub y blaen.
Mae Undod yn ymrwymedig i’r nod hyn ac ymdrechu dros ddyfodol gwell. Gyda’r atgof o’r sawl sydd wedi marw yma yng Nghymru ac ar draws y byd yn gymhelliad pellach, ein nod yw chwarae ein rhan wrth adeiladu byd newydd ar gyfer ein cymunedau a’n hanwyliaid, ein ffrindiau, ein teuluoedd, ein plant a’n hwyrion.
Drwy gydol yr argyfwng, yr ydym wedi bod yn cyhoeddi ymatebion polisi a syniadau a fyddai’n cynrychioli ymateb gwirioneddol radical a sosialaidd i’r argyfwng. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn amlygu’r posibiliadau sydd i’r genedl, wrth iddi godi eto o’r argyfwng hwn. Byddwn yn anelu at gwmpasu ystod eang o feysydd polisi, a chyflwyno lleisiau o bob rhan o Gymru i rannu eu gobeithion a’u syniadau am sut a pham y mae’n rhaid i ni wneud pethau’n wahanol o hyn ymlaen.
Rhagor yn y gyfres Cam nesaf Cymru
GIF gan Tad Davies
“No more top-down politics. No more waiting for our lives to be shaped by policies created by out of touch leaders and fake socialists in thrall to capitalism” WOW! This sounds like what we, in Cymru Goch, argued for from the late 1980s on