Dyddiau cynnar Silyn

Dwi’n gwenu wrth feddwl amdanynt – Lenin a Silyn yn sgwrsio yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Llundain lle daethant i ‘nabod ei gilydd tua 1903. Ar yr olwg gyntaf, does dim yn debyg rhwng y chwyldroadwr o Rwsia a’r gweinidog Methodist o Ddyffryn Nantlle, ond mae nodweddion cyffredin. Roedd dyddiadau eu geni a marw yn …

Annibyniaeth i Gymru: tocyn twyma’ tre’

“Mae yna rywbeth ar droed” yw’r geiriau sydd yn crynhoi yr achlysur. Teimlad anhraethol na does modd ei fynegi mewn unrhyw dermau penodol, dim ond ei deimlo yn y fan a’r lle. Roedd ymhell dros fil o bobl wedi ymgynnull yn y Tramshed i wrando ar wledd o artistiaid yn canu dan y baneri #yesismore …

Imperialaeth yr UDA yn Venezuela, ac effaith gwladychiaeth

Ers rhy hir, y mae cyd-sefyll gyda’r gorthrymedig, ac undod gyda’r dosbarth gweithiol a “trueiniaid y ddaear” wedi bod yn rhy bell o lawer o feddyliau’r sawl sydd ar y chwith, o fewn mudiad annibyniaeth Cymru. Ni ddylai undod â sosialwyr tramor fod yn atodiad neu’n gafeat i frwydr annibyniaeth Cymru “go iawn”; mae’n rhan …

Dim brenhiniaeth: diffinio a meithrin Cymru ddemocrataidd

Pa fath o Gymru ddylen ni gael? Gawn ni sefydlu egwyddor sylfaenol o’r cychwyn: mae’n rhaid i bobl Cymru meddu ar y grymoedd i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain. Rhaid i Gymru fod yn wlad ddemocrataidd, yn yr ystyr ehangaf posibl. Os oes modd inni fel pobl yn gwerthfawrogi ein democratiaeth, yna fe fydd …

Rhaid i ni rannu darlun o’r Gymru annibynnol yr ydym eisiau

O dro i dro, gofynnir i mi sut des i’n rhan o’r mudiad cenedlaethol yng Nghymru. Yr ateb yw fy mod wedi cael yr hyn a allech chi ei alw’n epiphani – fel tynnu’r switsh – un noson yn 2016. Gwelais i daflen yn hysbysebu cyfarfod a oedd Leanne Wood yn ei gynnal yn fy …

Sosialaeth ac annibyniaeth i Gymru

Mae trafodaeth ar y berthynas rhwng sosialaeth a’r cwestiwn cenedlaethol yn allweddol i ddyfodol y mudiad dros annibyniaeth i Gymru, sef Undod. Yn y nodiadau hyn dadleuir bod cred mewn creu sosialaeth mewn un gwlad yn ffolineb peryglus. Crynhoir isod ddeuddeg o ystyriaethau perthnasol i’r drafodaeth ar y berthynas rhwng sosialaeth ac annibyniaeth i Gymru. …

Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical

Os oes gobaith o lwyddiant i’r mudiad annibyniaeth, mae yna angen dirfawr i sicrhau ymdeimlad o undod ymysg y sawl sy’n cyfrannu. Waeth inni ddechrau gydag un o’r pynciau yna sydd wedi creu hollt hanesyddol yng Nghymru – sef yr iaith. A gall rhywun gweld yng nghyswllt rhai digwyddiadau fwy diweddar bod anghytundeb, gwaetha’r modd, …

Undod: dewch i lansiad y mudiad dros Annibyniaeth Radical i Gymru

Mae hi’n bleser cael eich gwahodd i lansiad mudiad blaengar newydd dros annibyniaeth i Gymru. Siaradwyr: Nia Edwards-Behi Sandy Clubb Dan Evans (Desolation Radio) + mwy Dydd Sadwrn 26th mis Ionawr 2019 11yb tan 3yp Yr Hen Goleg, Aberystwyth, SY23 2AU Digwyddiad lansiad Undod ar Facebook Am 11yb, ar 26ain mis Ionawr 2019, cynhelir cyfarfod cyhoeddus …