Stopiwch erledigaeth Cymry Cymraeg yn HMP Berwyn

Mae Undod a Prisoner Solidarity Network yn ymgyrchu gyda’i gilydd yn erbyn erledigaeth Cymry Cymraeg yn HMP Berwyn. Mae PSN wedi cael gwybod am siaradwyr Cymraeg sy’n cael eu haflonyddu’n barhaus a’u gwahanu gan staff yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam. Rydym yn mynnu bod bygythiadau, gwahanu a sancsiynau carcharorion Cymraeg eu hiaith yng Ngharchar …

Achub y Paddle Steamer -llythyr i’r wasg

Yfory, bydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd yn ystyried cais i ddymchwel y Paddle Steamer, sefydliad hanesyddol yn Butetown, ar gyfer tai cymdeithasol. Mae ymgyrchwyr wedi gwneud cais syml i ymgysylltu â nhw i ddod o hyd i ffordd o gadw lle i’r caffi ar y safle fel rhan o’r datblygiad. Rydym yn galw ar Arweinydd …

Nôl i Oes Thatcher i’r Llyfrgell Genedlaethol: Toriadau i’n Treftadaeth

Undeb Llafur Prospect y Llyfrgell Genedlaethol Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, yn nyddiau Margaret Thatcher, cynhaliodd y Swyddfa Gymreig adolygiad o’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddod i’r casgliad bod angen cyllid ychwanegol ar y Llyfrgell. Cafwyd sylw parod gan was sifil o Whitehall ar y pryd, i aelod o’r tim rheoli: ‘Rydych chi’n hoff …

Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol

Angharad Dafis Mae cymunedau gwledig Cymru o dan warchae.  Mae tai haf ar y naill law a diddymu canolfannau cymdeithasol o bob math ar y llall yn cael effaith andwyol ar hyfywedd yr iaith Gymraeg heb sôn am ansawdd a safon bywyd trigolion y cymunedau hynny.  Ond nid yw’r naratif cenedlaetholgar prif ffrwd swyddogol fel …

Diddymu a disodli Heddlu De Cymru – a phob heddlu arall

Mae gan ein cymdeithas sawl problem. Nid yr heddlu yw’r sefydliad i’w datrys. Mewn gwirionedd, mae nhw’n broblem arall. Dylem ddiddymu’r heddlu, atgyweirio ein system cyfiawnder, gan yna defnyddio’r arian ac adnoddau a fydd ar gael i ymlid datrysiadau cyflawnedig, wedi’i sylfaenu ar dystiolaeth – meddai Harry Waveney. **** Wrth ystyried trais yr heddlu, mae …

Mae Bywydau Du o Bwys – Ailddatganiad

Ar y cyntaf o Fehefin y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddodd Undod y fersiwn gyntaf o’r datganiad yma mewn cydsafiad â’r sawl oedd yn mynnu cyfiawnder i George Floyd, a phawb sy’n brwydro yn erbyn hiliaeth a thrais y wladwriaeth ym mhobman. Nodwyd gennym ar y pryd bod yr ymgeisiadau treisgar i atal y protestiadau ar draws …

Yn Gyntaf, Na Wna Niwed

  Bydd llwyfannu ‘adroddiant adferiad’ (‘recovery narrative’) ôl-bandemig yng Nghymru – trwy ddathliad a esgorwyd arni gan ‘ryfel diwylliant’ Brexit – yn wrthddywediad llwyr, meddai Frances Williams. Yn hytrach na chydweithrediad rhyngwladol, ysgogi adroddiannau cenedlaetholgar ymosodol a wnaeth 2020, blwyddyn y pandemig.  Roedd disgrifiad o’r firws fel corff estron wedi arwain at gyfres o ddigwyddiadau …

Tyfu ein mudiad yn 2021

Mae sylw mawr wedi bod yn ddiweddar ar y nifer o aelodau sydd wedi ymuno â’r mudiad annibyniaeth yma yng  Nghymru. Mae YesCymru wedi bod wrthi’n ddyfal yn cyfrif y nifer cynyddol o aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn wir mae’r ffigyrau’n drawiadol iawn: mae’r aelodaeth wedi cynyddu o tua 2,500 ar ddechrau’r flwyddyn …

Sustem ddrwgweithredol

Y diwydiant ar dwf Os ydych chi am ddeall y Gymru gyfoes – sut y mae’n cael ei llywodraethu, ei diwylliant gwleidyddol,  y lefel o barch a roddir i iawnderau dynol sylfaenol – dechreuwch  â’r ffeithiau am garcharu. Yn ôl pob mesur, mae diwydiant carchardai Cymru yn ehangu. Ceir pum carchar yng Nghymru bellach: Brynbuga …

Gwir ystyr y Nadolig

Nid ydym yn gwybod pryd y cafodd Iesu o Nasareth ei eni. Mae’r Cristnogion cynharaf yn sôn am ddyddiau ym misoedd Mawrth, Ebrill, Mai a Thachwedd. Mabwysiadwyd Rhagfyr 25ain yn y bedwaredd ganrif yn rhan o’r broses o wneud y Gristnogaeth yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth. Lan hyd deyrnasiad Cystennin ddechrau’r bedwaredd ganrif yr oedd …

Mae’r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau

Ar y 16ed o Ragfyr, caniataodd Pwyllgor Cynllunio Caerdydd adeiladu Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd, yng ngwyneb gwrthwynebiad lleol a chenedlaethol. Crëwyd yr amgueddfa yn 1952 i “adrodd hanes meddygaeth a gofal iechyd y fyddin, i bobl ac anifeiliaid, o gyfnod Rhyfel Cartref Lloegr hyd at y presennol”. Ei safle presennol …

Rhoi gwaith yn ei le

Bydd gan bob un ei farn am y graddau y bydd pandemig Covid-19 yn parhau i fygwth ein trefn economaidd, ein ffordd o fyw, ein dyheadau a’n cyfleoedd, ond un peth sydd wedi ceisio annog yr ymdeimlad bod ‘normalrwydd’ am ddychwelyd yw’r neges ‘Dychwelwn i’r gwaith.’ Mae’n dangos pa mor ganolog yw gwaith yn ein …

Paham nawr yw’r amser am brydau ysgol am ddim, i holl blant Cymru

Mae Covid-19 wedi amlygu graddfa’r tlodi sydd yng Nghymru, a’i ddyfnhau. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd 700,000 o bobl, mwy nag un ymhob pump, eisoes yn byw mewn tlodi. Gyda chwarter aelwydydd Cymru wedi dioddef gostyngiad yn eu hincwm ers mis Mawrth, a gyda chostau byw yn codi, mae llawer o’n teuluoedd tlotaf …

Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli!

Gan mai Cymru erbyn hyn yw’r unig ran o’r DU lle mae achosion COVID-19 yn parhau i gynyddu, mae’n ymddangos bod penderfyniad hunan-ymwybodol wedi’i wneud ar ran Llywodraeth Cymru i geisio symud y bai oddi arnyn nhw, ac i’r cyhoedd. Ddydd Mawrth, ymddangosodd Vaughan Gething ar wahanol orsafoedd radio a honnodd fod clo bach Cymru …

Ail gartrefi a digartrefedd: Yr argyfwng tai yng Nghymru (fideo)

Dyma drafodaeth a recordiwyd ar Nos Fercher 18fed Tachwedd 2020. Dyma ddisgrifiad gwreiddiol y digwyddiad: O gymunedau bach gwledig i’n trefi a dinasoedd, mae gan Gymru argyfwng tai. Tra bod adeiladau’n eistedd yn wag, mae pobl yn cael eu thaflu allan ar y strydoedd oherwydd diffyg tai fforddiadwy a’n gwladwriaeth les ddifreintiedig. Mae eraill yn …

Dylem fod yn optomistig am ein dyfodol

Mae’n amser anodd i Gymru. Mae’r pydew economaidd diddiwedd yn parhau, mae ein hamgylchedd yn dioddef o newid hinsawdd a cholled bioamrywiaeth, nid yw pobl ifanc yn medru canfod tai fforddiadwy yn eu cymunedau, mae mudo ac ail gartrefi’n cynyddu prisiau’r farchnad ac yn bygwth ein hiaith yn y gogledd a’r gorllewin. Mae pobl yn …

Rhaid hawlio nôl Ein Dinas Ni

Bydd y rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â’r blog hwn yn ymwybodol ein bod wedi tynnu sylw blaenorol at ddinistr araf ond pendant ein prifddinas gan y cyngor presennol, dan arweiniad y Blaid Lafur.  Mae’r bygythiad i Tramshed Grangetown, a chroesawu Amgueddfa Filwrol Brydeinig ar stepen drws ein Senedd, ond yn ddwy ddameg o’r helbul ehangach …

Datganiad yn mynnu na fydd mwy o fabanod yn marw yn y carchar!

Dod â charchariad pobl feichiog a marwolaethau babanod y gellir eu hosgoi yn y carchar i ben Rydym yn garcharorion, cyn-garcharorion, trefnwyr, academyddion a grwpiau sydd yn gwthio am gyfiawnder cymdeithasol sydd yn torri calon ac yn gandryll wrth glywed y newyddion bod dau fabi wedi marw yn ddiangen yn y carchar dros y flwyddyn …

Camau tuag at gludiant cynaliadwy yng Nghymru

Rhwystrau i newid brys, ac anorfod Gyda chanslo ffordd liniaru’r M4 newydd yn 2019 daeth cyfle i Gymru droi cefn ar bolisïau trafnidiaeth anghynaladwy’r gorffennol, yn enwedig ein gorddibynniaeth affwysol ar geir1. Ond mae rhwystrau i’w goresgyn cyn inni hyd yn oed ddechrau ar y broses o ddod o hyd i atebion priodol. Y rhwystr …

Llyfr Du: Adolygiad

“Sylfaen chwyldro yw diddymu hierarchaeth, rheolaeth dosbarth a gorfodaeth, ac i adeiladu Cymru newydd, yn ddemocratiaeth gyfranogol go iawn gyda thegwch a chymuned yn sail iddi, lle gall dinasyddion byw bywydau hapus, bodlon.” Rhai misoedd yn ôl, gofynnodd gydymaith pa beth oedd wedi’i sgrifennu am sut yn union fyddai Cymru annibynnol yn edrych. Darganfyddodd ychydig …

Bydd cynlluniau San Steffan yn dinistrio ein cymunedau gwledig – rhaid gwrthwynebu nhw

Sylwer: Cyflwynwyd yr araith hon yn nigwyddiad Rising Tide XR Caerdydd ar 2il mis Medi 2020 cyn cyhoeddi’r Mesur Marchnad Fewnol, sydd ond yn tanlinellu popeth a ddywedir isod, tra’n ychwanegu ymosodiad bwriadol ar ddatganoli a hawl pobl Cymru i hunanlywodraethu at amcanion dinistriol Llywodraeth San Steffan. Siwan ydw i, ac rwy’n siarad yma heddiw …

Teyrnged i David Graeber

Yn anffodus bu farw David Graeber, un o ddeallusion adain chwith mwyaf dylanwadol yn y cyfnod diweddar, ar yr 2il o Fedi. Nid fi’n unig fydd yn teimlo colled ddofn o glywed y newyddion hyn – roedd yn lais eglur a gobeithiol i lawer ohonom ar y chwith, rhywun y byddem yn aml yn troi …

Datganiad Undod: Ni fu’r bygythiad i ddiogelwch yma erioed yn deillio o ymfudwyr

Mae Undod yn cydsefyll gyda’r holl bobl sy’n wynebu llwybrau peryglus ac unigolion didrugaredd sy’n elwa arnynt wrth geisio cyrraedd glannau Prydain, o ganlyniad i systemau mewnfudo creulon y DU a’r UE. Rydym yn ymuno gyda galaru’r plentyn 16-oed a gollodd ei fywyd yn Sianel Lloegr, ac yn condemnio’r ymosodiad ar ymfudwr arall 20 oed …

Datganiad Undod ar ganlyniadau arholiadau Cymru

Mae Undod yn collfarnu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymddiried yn ein hathrawon, ac i osod graddau yn lle hynny ar sail algorithm a gymeradwywyd gan Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Mae’r weithred hon wedi dinoethi’r anghydraddoldebau strwythurol sy’n gweithredu yn ein system addysg, ac mae wedi ategu ymhellach y rhagfarnau sy’n gweithredu yn …

Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd

Mae’r canlynol yn cyflwyno’r achos dros ddull radical o daclo’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru, ac yn gwahodd cyfraniadau gan aelodau Undod i archwilio pynciau perthnasol mewn rhagor o fanylder. Mae’r argyfwng go iawn ar y gorwel… A ninnau yng nghanol pandemig byd-eang, hawdd yw anghofio ein bod ni hefyd yng nghrafangau argyfwng llawer mwy. Mae …

Hiroshima-Nagasaki 75: gweithio tuag at Gymru ddi-niwclear

Aeth 75 mlynedd heibio ers i’r Americanwyr, gyda chytundeb Prydain, ollwng bomiau atomig ar Hiroshima a Nagasaki. Dyma’r tro cyntaf, a hyd yma yr unig dro, i arfau dinistr torfol niwclear gael eu defnyddio. Y gred arferol yw mai hyn arweiniodd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ond ‘roedd Siapan yn barod ar ei gliniau, …

Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti

Rhybudd cynnwys: mae’r erthygl hwn yn trafod hunanladdiad ac esgeulustod mewn lleoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl. Cyflwyniad Yn hwyr ar brynhawn Gwener y 24ain o Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r trydydd cynllun cyflawni, a’r un olaf, ar gyfer ei strategaeth deng mlynedd ar iechyd meddwl. Yn dilyn ymgynghoriad chwe wythnos yr haf diwethaf, treuliodd y …

Rhifyddeg poblyddiaeth

Rai misoedd yn ôl fe ysgrifennodd Angharad Dafis am gau Ysgol Felindre.  Yma mae hi’n myfyrio ar yr hyn ddigwyddodd wedyn, a sut mae stori ysgol bentref yng Nghymru yn dinoethi rhith y Gymru ofalgar, gymunedolaidd, gan amlygu sut yr ydym bellach wedi ein caethiwo o fewn strwythurau neoryddfrydol twyllodrus y wladwriaeth Brydeinig.  Doeddwn i …

Datrys yr argyfwng tai yng Nghymru

Cyhyd â bod cyfalafiaeth yn parhau, bydd tai bob tro yn nwydd neu’n fuddsoddiad i rai, tra bo eraill yn byw mewn trallod Engels, The Housing Question Mae’r argyfwng coronafeirws wedi’i ddiffinio gan ddosbarth. Mae’r misoedd diwethaf wedi gweld pobl dosbarth gweithiol yn cael eu gorfodi i fynd i weithio o dan amodau peryglus, i’n …