Mae Bywydau Du O Bwys. Datganiad

Cymuned, cymdeithas a’r economi: ymateb i Covid ym Mhenygroes

Roedd y caffi cymunedol ym Mhenygroes Yr Orsaf yn gyfforddus lawn ar nos Sul, Mawrth 15ed, 2020. Roedd y bardd lleol, Karen Owen, yn cynnal noson yng nghwmni Aled Jones Williams, ac roedd y caffi newydd ddathlu blwyddyn o fod mewn bodolaeth. “Roedd pethau yn dod yn eu blaen yn dda iawn” meddai Ben, un …

Gordon yr Injan Fawr: penodiad gwleidyddol

Mae Undod wedi beirniadu Llywodraeth Cymru mewn cyfres o flogiau am y ffordd mae wedi ymwneud â’r argyfwng Covid-19 o’r cychwyn cyntaf, pan fethwyd a gohirio gêm rygbi rhwng Cymru a’r Alban tan y funud olaf – pan oedd hi’n rhy hwyr i atal miloedd o gefnogwyr rhag teithio i Gaerdydd. Darllenwch y gyfres gyfan. …

Adeiladu Cymru gwell: tu hwnt i’r carcharu

Byddai heddiw wedi bod yn ddathliad o ddiwylliant, hunaniaeth ac annibyniaeth Cymru yn un o drefi mwyaf eiconig Cymru, Wrecsam: cartref pêl-droed Cymru, lager rhagorol, Saith Seren, Gŵyl Twm Sbaen, ac arloeswr anghydffurfiaeth Gymreig, Morgan Llwyd. Yn lle, rydym wedi ein caethiwo yn ein tai mewn cyfnod o hunan-ynysu ac argyfwng enbyd na fyddai llawer …

Rhaid i Vaughan Gething adael

Bydd y byd yn newid yn llwyr, hyd yn oed i’r rhai ohonom sy’n ei wneud yn fyw … Ond mae’r bobl a’n harweiniodd i’r drychineb yn dal i fod yno. * Yn ein crynodeb diweddar o’r argyfwng, buom yn tynnu sylw at gyfres o gamsyniadau gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd y gobaith y byddai eu …

Nid nawr yw’r amser i “gefnogi” yr arweinwyr annwyl.

Hydref 21ain, 1966 Eisteddwn mewn ystafell ysgol; ar drothwy gwyliau hanner tymor. O fewn eiliadau bydd y domen enfawr o faw a gwastraff glo ar ochr y bryn uwch ein pennau yn dechrau llithro. Bydd y mwyafrif ohonom yn marw, a bydd y rhai fydd yn byw yn byw am byth gydag euogrwydd dychrynllyd. Ni …

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i leihau tlodi argyfwng – yn awr

Yn gwbl gywir, mae sylw wedi troi at incwm sylfaenol fel dull o sicrhau diogelwch ariannol yn ystod y pandemig a’r dirwasgiad economaidd dwfn fydd yn ei ganlyn. Yn wyneb y disgwyliad o fywiolaethau drylliedig ac incwm yn diflannu, gwelsom Drysorlys y DU yn rhoi gwarantau i fusnes ar lun 80% o gymhorthdal cyflog, rhyddhad …

Llywodraeth Cymru: wastad cam tu ôl

Yn nhrydedd wythnos yr argyfwng COVID-19, nid yw pethau’n argoeli’n rhy dda yng Nghymru. Mae’r Bwrdd Iechyd GIG sy’n dwyn enw ei sylfaenydd, yn cofnodi lefelau uwch o heintio fesul 100,000 na Llundain hyd yn oed, tra bod Cymru gyfan yn ymdebygu i orllewin canolbarth Lloegr – un o’r rhanbarthau sydd wedi’i effeithio mwyaf yn …

Gwleidyddiaeth cyd-gymorth yn ystod yr argyfwng COVID-19

Argyfwng a chymuned Bu sôn lot yn ddiweddar am y wleidyddiaeth ynghylch yr argyfwng COVID-19 – gan gynnwys beirniadaethau pwysig o’r ymateb trychinebus gan lywodraethau’r DU ac yng Nghymru. Mae hwn yn lle pwysig i ddechrau, oherwydd mae angen i ni gydnabod hyn fel argyfwng gwleidyddol, yn enwedig yn ystod cyfnod pan mae rhai yn …

Mewn sefyllfa o bandemig, rhaid i Lywodraeth Cymru achub y blaen yn wleidyddol

Yn dilyn y cyhoeddiad neithiwr gan Lywodraeth y DU, a adleisiwyd gan Brif Weinidog Cymru, mae’r genedl bellach yn cychwyn ar fersiwn ‘feddal’ ei hun o’r cloi lawr sydd wedi’i weithredu eisioes yn yr Eidal, Sbaen a Ffrainc. Ac eto, ni ddylai fod unrhyw amheuaeth, mae angen gweithredu ymhellach ar unwaith yma yng Nghymru, fel …

Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru

Trwy ddilyn yn y lle cyntaf strategaeth a oedd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a thystiolaeth o’r hyn sydd wedi gweithio mewn gwledydd eraill, mae Llywodraeth y DU wedi colli wythnosau yn y frwydr yn erbyn y firws hwn — camgymeriad a allai gostio bywydau heb gamau brys a radical i …

Y golau a ddychwel

Mae’r nos ar ei dywyllaf cyn ddaw’r wawr. Dyma eiriau i’w gofio yn nyfnderoedd argyfwng COVID-19. Wedi’r diwedd disymwth i Brexit a’r dilyw diweddar, mae ymadrodd arall yn neidio i’r meddwl – sef bod pethau drwg yn digwydd mewn trioedd. Mae’r digwyddiad diweddaraf yma, fodd bynnag, o fath arall – anhrefn, ar raddfa Feiblaidd. Cymorth …

Achos marwol o unbleidiaeth

Y penwythnos yma codwyd cywilydd ar Gymru ar raddfa fyd-eang, wrth i’r Llywodraeth sefyll o’r neilltu, tra bod Undeb Rygbi Cymru yn ceisio cynnal gêm rygbi Cymru – yr Alban. Ar y dechrau, y gred oedd mai camgymeriad oedd hi, neu oedi. Mi fyddan nhw’n ei ganslo, peidiwch â phoeni. Ymddangosodd y memes: ‘allwn ni …

Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig

Cyfrannwyd y darn hwn gan Angharad Dafis, cynrychiolydd cefnogwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Croesewir dyfarniad pellgyrhaeddol Comisiynydd y Gymraeg fod Dinas a Sir Abertawe wedi methu cymryd y cam statudol hanfodol o gyflawni asesiad o’r effaith ar y Gymraeg yn y gymuned cyn mynd ati i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Dywed y Comisiynydd: Yr …

Cymunedau iach yw sail ein bywydau

Cymunedau iach yw sail ein bywydau. Dyna gred grŵp o bobl o Wynedd a Môn sy’n datblygu strategaeth amgen ar gyfer datblygu cymunedau. Mabwysiadwyd yr enw “SAIL” gan mai cymuned yw sail popeth. Sail yr economi. Sail diwylliant. Sail iaith. Sail gwytnwch. Sail cyfartaledd. Sail plethu’r cenedlaethau. Sail celfyddyd. Sail y dyfodol. Sail Cymru. Fel …

Problemau eco-gyfalafiaeth

Ynghanol ein hamryw argyfyngau cynigir addasiadau o gyfalafiaeth – fel arfer dan enw tebyg i Fargen Werdd Newydd. Mae canlyniadau peryglus i dynnu sylw oddi wrth ein problemau. Cyflwyniad Dim ond rhywun nad yw’n llawn llathen neu economegydd fyddai’n dadlau nad yw’r byd ynghanol cyfres o argyfyngau ecolegol, hinsoddol ac yn ymwneud â chydraddoldeb, sydd …

Ymunwch ag Undod heddiw

I ni, bobl Cymru, roedd nos Iau yn gadarnhad i nifer cynyddol ohonom nad oes dyfodol i ni a’n plant o fewn strwythurau’r wladwriaeth Brydeinig. Gallasai cynghreirio rhwng ein pleidiau ‘blaengar’ wedi achub y dydd o safbwynt cadw y Toriaid mas o’n etholaethau seneddol, ond gweithred dros dro byddai hynny wedi bod, y byddai wedi …

Llofruddio llywodraethu “democrataidd”

Yn ôl ym mis Hydref, yn dilyn addoediad Senedd San Steffan, cawsom gyfrif cryno a brathog o derfynau democratiaeth Prydeinig ar y blog hwn – a ddatgelodd y graddau y mae’n cwympo’n brin o’r ddelfryd, a pha mor agored yw hi i gam-driniaeth. Gydag ychydig dros wythnos i fynd tan yr Etholiad Cyffredinol, nid oes …

Bregus dros ben: yr hyn am ein prifysgolion sydd ddim yn wasg

Daeth y patrwm yn amlwg, maes o law. Yn y gorffennol, bu myfyrwyr yn gofyn am y ffurflen amgylchiadau arbennig am amryw o rhesymau: tostrwydd yn ystod y cyfnod arholiadau, marwolaeth yn y teulu, o bryd i’w gilydd argyfwng personol neu ysbeidiau o iechyd meddyliol gwael. Ond nawr, mae yna ddau rheswm yn unig: gorbryder …

Anufuddod sifil torfol yn frith yng Nghatalunya

English | català Undod / sefyll gyda Catalunya Ddoe daeth dyfarniad hir-ddisgwyledig Goruchaf Lys Sbaen yn erbyn naw garcharor gwleidyddol o Gatalunya ar gyhuddiadau yn cynnwys ‘gwrthryfel’ ac ‘annog brad’, mewn cyswllt a refferendwm Hydref 1af 2017 ar annibyniaeth i Gatalunya. ‘Roedd pob un yn wleidyddion amlwg neu’n arweinwyddion diwylliannol a bu Catalunya yn disgwyl …

Plaid Cymru a niwcs – y drwg yn y caws

Bydd Plaid Cymru yn cyfarfod yn Abertawe am eu cynhadledd flynyddol dros y penwythnos, a mae’n siŵr y gallwn ddisgwyl pob math o addewidion am y Gymru annibynnol sydd yn ymddangos yn nes nag y bu ers oesoedd. Ond ydi hon yn Blaid y gallwn ddibynnu arni i’n harwain i’r gwynfyd? Neu fydd hi’n debyg …

Oes angen prifddinas ar Gymru o gwbl?

Mae annibyniaeth Cymru yn gyfle i ailfeddwl popeth. Yn ei araith a gafodd ganmoliaeth eang, galwodd Eddie Butler annibyniaeth yn gynfas wag yn yr orymdaith ym Merthyr Tudful. Heb os, refferendwm fydd y modd y deuwn yn annibynnol ond ni ddylem adael i’n gweledigaeth gael ei chyfyngu gan y gorwel hwnnw. Ar ôl yr orymdaith, …

Does dim trwsio Prydain

Doedd dim coup d’etat. Doedd dim torcyfraith. Mae’r wladwriaeth Brydeinig yn gwneud yr union peth cafodd ei gynllunio i wneud. Yng nghyfansoddiad anysgrifenedig Prydain, does dim rheolau, dim ond arferion. Mae beth wnaeth Boris Johnson yn sicr yn teimlo’n ddrwg. Dyma Prif Weinidog o blaid sydd heb ennill etholiad yng Nghymru ers 1885, enillydd etholiad …

Democratiaeth radicalaidd: ffordd o guro Boris Johnson

Mae’n siŵr eich bod wedi clywed erbyn hyn: mae rhyw wancar posh wedi gofyn i’r Frenhines atal senedd San Steffan er mwyn gorfodi Brexit heb gytundeb. Mae hyd yn oed Philip Hammond yn galw cam diweddaraf Boris yn annemocrataidd. Mae’r DG ar dân unwaith eto. Neu yn hytrach mae’n parhau i fod ar dân ond …

Annibyniaeth ddienaid, neu annibyniaeth go iawn?

“Mae’n rhaid i[‘r mudiad cenedlaethol] ddangos i bobl Iwerddon nad yw ein cenedlaetholdeb yn ddim byd mwy na delfrydu melancolaidd o‘r gorffennol, ond hefyd bod ganddo’r gallu i greu atebion pendant a chlir i broblemau’r presennol… Gellid pledio y byddai delfryd o Weriniaeth Sosialaidd yn awgrymu, fel y mae, chwyldro gwleidyddol ac economaidd cyflawn, a …

Amddiffynwn chwyldro Rojava: dros ein dosbarth, dros y ddaear, a dros fenywod

Mae arbrawf mewn system o ymreolaeth ffeministaidd y Cwrdiaid o dan fygythiad gan wladwriaeth Twrci – a rhaid i ni fel y mudiad cenedlaethol weithredu. Yn mis Chwefror y flwyddyn hon, clywais bod cyfaill o’r gymuned Gwrdaidd wedi bod ar streic newyn ers dros 70 diwrnod. Yr unig beth oedd yn ei gadw’n fyw oedd …

Y Sioe a’r Steddfod: bonedd a gwrêng

Dwy o Wyliau mawr cenedlaethol sydd yna a sefydlwyd yn benodol ar gyfer pobl Cymru – Y Sioe Fawr (Roial Welsh yn Gymraeg) a’r Steddfod (Royal National Eisteddfod gynt). Heblaw am gemau rhyngwladol, dyma lle y gwelir y torfeydd mwyaf – tua 240,000 yn y Sioe dros 4 diwrnod, a tua 150,000 yn y Steddfod …

Gwerthoedd Cymru annibynnol / Ymunwch gyda ni

Ymunwch ag Undod i gefnogi Cymru y gallwn ni i gyd fod yn falch o’i galw’n gartref. Rydym yn orymdeithio gyda baneri Undod ac yn cynnal cyfarfod yn Llety Arall. Mae’r cyffro’n amlwg wrth inni ddisgwyl ymlaen at ddydd Sadwrn ac ail orymdaith Pawb Dan Un Faner dros annibyniaeth, i’w chynnal yng Nghaernarfon. A pha …

Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Apêl – be sydd wnelo hyn a Chymru?

Be ydi’r stori? Mae Undod yn croesawu’r newydd fod y Llys Apêl wedi barnu fod trwyddedu allforio arfau oddi yma i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon. Dywedodd y barnwyr ei fod yn “afresymegol a felly yn anghyfreithlon” bod Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi awdurdodi trwyddedau am allforion arfau, heb asesu a oedd …

Hil ac annibyniaeth

Fe gafodd yr orymdaith gyntaf dros annibyniaeth i Gymru ei chynnal ar 11 Mai 2019. Roedd bron i dair mil o bobl yn bresennol, a’r dorf yn llifo drwy ganol y brifddinas cyn cyrraedd yr Aes. Penllanw’r orymdaith oedd cyfres o areithiau byrion gan arweinydd Plaid Cymru Adam Price, Carys Eleri, Siôn Jobbins, Sandy Clubb, …